Menu

Trosolwg o’r Strategaeth

Beth yw Seilwaith Gwyrdd a Glas?

Asedau SGG Ceredigion

×
Asedau SGG Ceredigion

Mae Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) yn cyfeirio at y rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas sy’n amgylchynu ein trefi a’n dinasoedd ac yn gwau trwyddynt. Yn union fel y mae rhwydwaith trafnidiaeth yn cysylltu pobl ar draws ardal trwy rwydwaith o ffyrdd, rheilffyrdd neu balmentydd – mae SGG yn helpu i gysylltu pobl, bywyd gwyllt a natur.

Gall SGG gynnwys mannau gwyrdd mawr fel Parciau Cenedlaethol, Parciau Gwledig, tirweddau sy’n cael eu ffermio neu goridorau afonydd. Gall hefyd gynnwys gerddi preifat, rhandiroedd, gwrychoedd, coed stryd, ymylon gwyrdd ar ochr y ffordd, neu lwybrau troed.

Mae Fforwm Seilwaith Gwyrdd Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd nodweddion SGG sy’n darparu ‘swyddogaethau lluosog’ o’u cymharu â ‘seilwaith llwyd’ sydd yn aml yn darparu un swyddogaeth yn unig. Gallai’r rhain gynnwys cludo dŵr glaw, cael gwared â llygredd dŵr, darparu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt, darparu blodau ar gyfer gwenyn a pheillwyr eraill a helpu i gadw ardaloedd trefol yn oer yn wyneb tymheredd sy’n codi.

Mae’n hanfodol nad yw asedau SGG yn gweithredu ar eu pennau eu hunain ond dylent gael eu cysylltu i ffurfio rhan o rwydwaith ehangach. Mae hyn yn eu helpu i wrthsefyll newid hinsawdd ac effeithiau eraill. Mae’r un mor bwysig bod y rhwydwaith yn gwau trwy ac o gwmpas yr amgylchedd adeiledig ac yn cysylltu’r ardal drefol â’i chefnwlad wledig ehangach.

Pam mae angen y Strategaeth SGG hon arnom?

O ystyried ei lleoliad trawiadol, mae amgylchedd naturiol Ceredigion wrth wraidd ei hunaniaeth. Mae hefyd yn gwneud y Sir yn atyniad allweddol ar gyfer trigolion a thwristiaid. Fodd bynnag, wrth i aneddiadau Ceredigion barhau i ehangu, mae’n hollbwysig ein bod yn gwarchod yr amgylchedd hwn. Rhaid i ni sicrhau ei wytnwch parhaus a gwneud y mwyaf o fuddion SGG i bobl, natur a lle.

Mae’r cyd-destun polisi esblygol yng Nghymru yn golygu bod mwy o sylw yn cael ei roi i seilwaith gwyrdd a glas nag erioed o’r blaen. Yn 2015 pasiodd llywodraeth Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn rhoi amcan cyffredin cyfreithiol-rwymol i lywodraeth genedlaethol a lleol gydweithio er mwyn gwella llesiant Cymru. Mae’n gwneud hyn trwy osod saith nod llesiant.

Ar lefel leol, mae uchelgais a chefnogaeth fawr dros wneud Ceredigion yn wyrddach ac yn fwy gwydn. Mae’r Strategaeth hon yn gobeithio bwrw ymlaen â’r uchelgeisiau SGG hyn a blaenoriaethu nifer o brosiectau a all geisio cyllid tymor hwy. Bydd yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau er mwyn mynd i’r afael â’r materion a’r blaenoriaethau allweddol sy’n dod i’r amlwg trwy ddata ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Dim ond rhan o uchelgais y Cyngor Sir i sicrhau Ceredigion wyrddach a mwy gwydn yw’r Strategaeth hon.

Mae’n adeiladu ar y dystiolaeth a nodir yn Asesiad Seilwaith Gwyrdd Ceredigion 2020 – sy’n mapio asedau seilwaith gwyrdd a glas yng Ngheredigion a sut maent wedi’u cysylltu. Mae hefyd yn cynnal “archwiliad” o SGG yn amgylcheddau trefol Ceredigion.

Mae’r Strategaeth hefyd yn sefyll ochr yn ochr â chynlluniau, strategaethau a mentrau parhaus perthnasol eraill, ac yn cael ei llywio ganddynt. Lle bo’n berthnasol, cyfeirir at y rhain yn y tudalennau sy’n adolygu Rhwydwaith SGG Ceredigion Heddiw.

Beth mae’r Strategaeth yn ei gwmpasu?

Mae Strategaeth SGG yn cwmpasu pob categori o asedau SGG yng Ngheredigion. Mae hyn yn amrywio o barciau gwledig, llwybrau pellter hir a choridorau afonydd, i erddi, ymylon ffyrdd a phyllau.

Mae’n canolbwyntio ar chwe thref benodol yn y Sir – ond mae hefyd yn ehangu ei gorwelion er mwyn ystyried y cyfleoedd a all fodoli rhwng y trefi hyn, yn enwedig lle byddai’r cyfleoedd hyn yn ymateb i heriau allweddol penodol.

Y chwe thref a ddewiswyd yw:

  • Y brif dref Aberystwyth.
  • Y trefi arfordirol Aberaeron ac Aberteifi.
  • Y trefi mewndirol Llanbedr Pont Steffan, Tregaron a Llandysul.

I gyd-fynd â’r chwe Chynllun Gweithredu Tref hyn ceir argymhellion ar Gyflawni’r prosiectau SGG arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys astudiaethau achos yn y DU o sut y gall dull partneriaeth adeiladu rhwydwaith SGG ac mae’n nodi dau ‘gatalydd cyflawni’ a argymhellir y dylai’r Cyngor eu hystyried.

Beth yw’r Egwyddorion Allweddol sy’n llywio’r Strategaeth?

×

Cafodd y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth SGG hon ei arwain gan bedair Egwyddor Allweddol. Roeddent yn darparu fframwaith ar gyfer nodi cyfleoedd ac yn amlygu’r swyddogaethau allweddol y gall nodweddion SGG eu cyflawni. Maent yn cynnwys:

Sut cafodd y Strategaeth ei datblygu?

×

Paratowyd y Strategaeth SGG trwy:

  • ddadansoddi data gofodol ar y rhwydwaith presennol o asedau SGG.
  • adolygu cynlluniau, polisïau a strategaethau perthnasol sydd eisoes yn bodoli.
  • ymgysylltu’n agos â rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol allweddol.

Defnyddiwyd y gwaith sylfaenol hwn i nodi’r heriau allweddol sy’n wynebu’r rhwydwaith SGG yn y chwe thref. Yna fe’i defnyddiwyd i flaenoriaethu’r prosiectau mwyaf buddiol a all fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Mae enghreifftiau o’r prosiectau hyn yn cynnwys cynigion megis:

  • creu amgylcheddau gwlyptir i frwydro yn erbyn y perygl o lifogydd.
  • gwyrddu trefol i wella canol trefi.
  • prosiectau adfer afonydd i reoli’r perygl o lifogydd a mynd i’r afael â heriau ansawdd dŵr.
  • darparu coridorau gwyrdd a llwybrau cerdded/beicio i hwyluso teithio lleso

Mae crynodeb o’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi’i gynnwys yn Atodiad 2.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y Strategaeth hon, a’r prosiectau strategol a nodir ynddi, yn sylfaen bwysig ar gyfer ceisiadau am arian. Bydd y rhain yn bwysig wrth gyflawni prosiectau â blaenoriaeth ar draws y chwe thref.

Mae’r prosiectau a amlinellir ym mhob Cynllun Gweithredu Tref yn nodi’r egwyddorion ‘dyluniad strategol’ y dylid eu datblygu fel rhan o’r prosiectau hyn.

Fodd bynnag, nid yw’r Strategaeth yn amlinellu dyluniad manwl pob un o’r prosiectau hyn – er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen gwneud rhagor o waith dichonoldeb a dylunio er mwyn i’r prosiectau hyn allu cael eu cyflawni ar lawr gwlad.

Bydd perchnogaeth eang o’r Strategaeth a’i chyflawni yn hanfodol i’w llwyddiant. Dylai hyn dorri ar draws holl adrannau’r Cyngor a mynd y tu hwnt iddynt i gynnwys rhanddeiliaid ehangach ac ystod o grwpiau cymunedol (gweler y tudalennau Cyflawni).