Menu

Rhwydwaith SGG Ceredigion heddiw

Mae’r rhan hon o’r wefan yn rhoi trosolwg o sut mae rhwydwaith SGG Ceredigion yn perfformio heddiw. Mae wedi’i fframio gan gyfres o 4 Egwyddor sy’n ymateb i’r heriau presennol ac yn arwain y Cynlluniau Gweithredu a ddarperir ar gyfer pob tref.

Mae’r dudalen Ceredigion yn ei chyd-destun yn rhoi trosolwg o’r Sir gyfan.

Y pedair Egwyddor yw:

  1. Gwneud lle i fyd natur
  2. Llunio mannau cyhoeddus ffyniannus
  3. Creu cymunedau hapus ac iach
  4. Cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd

Trwy glicio ar bob egwyddor yn ei thro, fe welwch y canlynol:

  • Crynodeb yn esbonio pam fod yr egwyddor hon yn bwysig.
  • Crynodeb o bolisïau cenedlaethol a lleol allweddol sy’n gysylltiedig â’r egwyddor.
  • Crynodeb o’r materion allweddol y bydd y Strategaeth yn rhoi sylw iddynt.