Menu

Parc Coffa a Thaith Gerdded Gylchol ar Lan yr Afon Llandysul

×

Pwrpas

Cyflwyno pont droed a llwybr cerdded ar lan yr afon i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhwng cyrchfannau allweddol yn Llandysul. Byddai’r daith gerdded ar lan yr afon yn helpu i sefydlu coridor llawn natur, yn darparu cyfleoedd i ryngweithio ag afon y dref ac yn darparu ateb seiliedig ar natur i reoli’r perygl o lifogydd.

Elfennau allweddol

  1. Creu taith gerdded ar lan yr afon ‘mynediad i bawb’.
  2. Gorchudd coed ar lan yr afon ac adfer cynefinoedd.

Cyflawni

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Fforwm Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, grŵp “Croeso i Gerddwyr”, Cyngor Tref Llandysul, Llandysul Paddlers.

Costau dangosol: £4 – 4.5 miliwn (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)

Disgrifiad

Elfen 1: Creu taith gerdded ar lan yr afon ‘mynediad i bawb’

Byddai cyflwyno pont droed yn croesi Afon Teifi yn creu llwybr cerdded diogel, uniongyrchol a mwy deniadol a fyddai’n annog y miloedd o ymwelwyr blynyddol â Llandysul Paddlers i ddarganfod y siopau, caffis a busnesau yn Llandysul. Byddai’r llwybr yn cysylltu Caeau Chwarae Tirdref (yng Ngheredigion) a Llandysul Paddlers a’r Ganolfan Canŵio (yn Sir Gaerfyrddin gyfagos).

Fel rhan o’r ymyrraeth, gallai caeau chwarae Tirdref gynnal digwyddiadau i’r gymuned a phadlwyr Llandysul – byddai hyn yn helpu i ddathlu diwylliant ac asedau naturiol hardd y dref. Gallai’r elw o ddigwyddiadau ddarparu cyllid ar gyfer adfer natur, a byddai’n rhoi cyfle i ddod â gwirfoddolwyr ynghyd i gynnal y daith gerdded ar lan yr afon fel ased cymunedol. Byddai’r llwybr hefyd yn darparu croesfan uniongyrchol i gerddwyr rhwng y ddwy sir gyfagos.

Fel taith gylchol, gallai gysylltu canol y dref â’r llwybrau troed presennol ar lan yr afon yn y Parc Coffa a Chaeau Tirdref. Byddai’n croesi pont newydd i Llandysul Paddlers ac ar draws Heol y Bont i’r chwarel.

Os caiff ei ddylunio’n dda, byddai llwybr gwastad llawn natur ar lan yr afon yn adnodd llesiant pwysig a hygyrch i drigolion hŷn y dref. Byddai cyflwyno mannau chwareus anffurfiol (o gerrig camu, i foncyffion dringo neu nodweddion chwarae eraill sy’n seiliedig ar natur) yn gwneud y mannau naturiol hyn yn fwy rhyngweithiol i deuluoedd eu mwynhau. Gyda’i gilydd, mae hyn yn cynnig y cyfle i greu gofod cymunedol sy’n wirioneddol pontio’r cenedlaethau.

Dylai’r wynebu ar lwybrau palmantog presennol a newydd fod wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, bod yn hygyrch ac yn ddiogel. Ar gyfer y rhannau hynny o’r llwybr sydd ar y ffordd, dylid cyflwyno palmentydd llydan, o safon uchel i wahanu cerddwyr oddi wrth y draffig. Dylai arwyddion clir a chyson gyfeirio cerddwyr yn ddiogel dros Stryd y Bont.

Dylai’r cynllun ystyried arwyddion (gan ddefnyddio deunyddiau naturiol yn ddelfrydol) i’r llwybr troed trwy’r coetir i’r gogledd o lwybr y chwarel. Byddai hyn yn helpu i gysylltu’r llwybr trwy safle’r hen ysgol a hyd at ardaloedd preswyl yng nghymdogaeth The Beeches.

Gellid hefyd ystyried pont dros yr afon i’r Half Moon Inn. Byddai hyn yn cysylltu llwybr y chwarel â’r dafarn ac yn annog mwy o ymwelwyr â Stryd Lewis.

Dylid blaenoriaethu cysylltiadau ac arwyddion i ganol y dref fel rhan o’r cynllun. Gellid tynnu sylw at gyrchfannau a busnesau lleol fel rhan o arwyddion sy’n darllen ‘Caffis a siopau – 5 munud’.

Mewn nodau allweddol, asedau treftadaeth a golygfannau, gellid cerfio gofod ar gyfer mannau cymdeithasol. Byddai hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymlacio tawel, cael picnic, barbeciw neu ddigwyddiadau pop-yp. Mae lleoliadau posibl yn cynnwys y chwarel, glan yr afon yn y Parc Coffa a Chaeau Chwarae Tirdref.

Parc Coffa a Chaeau Chwarae Tirdref Afon Teifi, Dyffryn Stallion

Green space and trees in sun with path running through
×
Parc Coffa a Chaeau Chwarae Tirdref Afon Teifi, Dyffryn Stallion

Parc Coffa o Faes Parcio Stryd yr Eglwys

View of green space over fence and through trees either side
×
Parc Coffa o Faes Parcio Stryd yr Eglwys

Elfen 2: Gorchudd coed ar lan yr afon ac adfer cynefinoedd

Byddai ymestyn y gorchudd coed a phlannu rhywogaethau blodau gwyllt lleol ar hyd y daith gerdded ar lan yr afon (ac ar hyd ffiniau’r Parc Coffa a Chaeau Tirdref) yn cyfrannu at ‘ddalfa garbon’ y Sir, yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn cefnogi ymdrechion i adfer iechyd yr afon. Byddai hefyd yn cysylltu cynefinoedd yn well trwy roi cyfle i famaliaid, adar a gwenyn symud ar hyd coridorau gwyrdd rhwng mannau gwyrdd Llandysul.

Byddai plannu glan yr afon ar hyd Afon Teifi yn atal erydu pellach ar lannau’r afon. Byddai hefyd yn lleihau’r perygl o lifogydd ac yn helpu i liniaru yn erbyn maethynnau sy’n llifo i’r afon.

Dylai unrhyw bont droed ar draws Afon Teifi gael ei darparu’n sensitif i wella a diogelu cynefinoedd naturiol. Wrth ddylunio’r llwybr cerdded, mae defnyddio llwybrau pren (gan ddefnyddio deunyddiau naturiol) yn ddewis arall a allai helpu i godi’r llwybr, a gellid ei ddylunio i leihau straen ar gynefinoedd sensitif, tra’n darparu cysylltiad rhwng pobl a’r afon. Dylid dylunio llwybrau’n ofalus i gadw traffig hamdden i ffwrdd o’r ardaloedd mwyaf sensitif o goridor yr afon.

Y Chwarel ar Afon Teifi yn Llandysul

River with stone sides and green space and trees behind.
×
Y Chwarel ar Afon Teifi yn Llandysul

Ysbrydoliaeth o fannau eraill....

Mae’r Fenni yn dref boblogaidd arall i badlwyr. Mae llwybrau cerdded ar hyd Afon Wysg yn cael eu defnyddio’n helaeth, gan gynnwys taith gerdded iechyd ar lan yr afon a llwybr treftadaeth. Mae’r afon wedi’i chysylltu’n dda â chanol y dref sydd hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref.

Mae mannau parciau ar hyd y llwybr yn darparu lle i gaffis bach gynnig bwyd a diod i gerddwyr ar hyd glan yr afon ac yn y parc. Yn ddiweddar cafodd y Fenni gymeradwyaeth ar gyfer pont droed i gerddwyr ar draws Afon Wysg i ddarparu llwybr diogel a hygyrch ar draws yr afon. Bydd y llwybr yn darparu cyswllt i gerddwyr rhwng Y Fenni a Llan-ffwyst.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect i gefnogi ei pholisïau teithio llesol.

 

Delwedd astudiaeth achos: Taith gerdded iechyd Afon Wysg (Croeso i Sir Fynwy)

Footpath and information sign leading into a green field with trees bare in winter
×
Delwedd astudiaeth achos: Taith gerdded iechyd Afon Wysg (Croeso i Sir Fynwy)

Delwedd astudiaeth achos: Delwedd o bont droed arfaethedig y Fenni (Cyngor Sir Fynwy)

Graphic visualisation of a bridge across a river, with building, green space and a tree belt in the background.
×
Delwedd astudiaeth achos: Delwedd o bont droed arfaethedig y Fenni (Cyngor Sir Fynwy)