Menu

Parc Llinellog Llanbedr Pont Steffan

×

Pwrpas

Creu ‘parc llinellog’ o strydoedd gwyrdd, cyfeillgar i bobl trwy Lanbedr Pont Steffan. Byddai’r llwybr yn darparu cysylltiad allweddol rhwng tir y brifysgol, ysgolion lleol a mannau gwyrdd.

Elfennau allweddol

  1. Cynyddu lle i gerddwyr a beicwyr
  2. Gwyrddu trefol amlswyddogaethol

Cyflawni

Partneriaid posibl: Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, Fforwm Anabledd Ceredigion, Canolfan Tir Glas, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Costau dangosol: £3 – 3.5 miliwn (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)

Disgrifiad

Elfen 1: Cynyddu lle i gerddwyr a beicwyr

Byddai cyflwyno seilwaith cerdded a beicio trwy Lanbedr Pont Steffan yn gwella’r profiad o’r dref ac yn helpu i wneud ffyrdd cynaliadwy o deithio yn opsiwn hawdd ar gyfer teithiau byr yng nghanol y dref.

Byddai treialu system unffordd, neu leihau nifer y lleoedd parcio ar y stryd ar Stryd y Coleg, Stryd y Bont a’r Stryd Fawr, yn gwneud mynediad a symud trwy Lanbedr Pont Steffan yn haws ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion. Byddai hyn yn creu parc ‘llinellog’ nodedig trwy’r dref.

Gellid ail-neilltuo gofod ar Stryd y Coleg, Stryd y Bont a’r Stryd Fawr yn fwy parhaol trwy gael lle ar wahân i gerddwyr a beicwyr. Gellid cyfuno hyn â chroesfannau cyrbau isel diogel ar gyffyrdd allweddol (yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd). Ymhlith y cyffyrdd allweddol i’w targedu mae: Sgwâr Harfford, Co-op, Rhodfa’r Bryn, Stryd yr Eglwys a Theras Ffynnonbedr.

Byddai palmentydd unedig o safon uchel o amgylch y croesfannau hyn yn creu taith fwy dymunol ar gyfer teithiau cerdded byr, gweithgareddau dyddiol a’r “daith i’r ysgol a nôl” ar gyfer teuluoedd lleol.

Byddai cyflwyno croesfan i gerddwyr rhwng Stryd y Farchnad a thir y brifysgol yn mynd i’r afael â’r rhwystr presennol sy’n cael ei greu gan Stryd y Coleg rhwng y dref a’r brifysgol. Byddai lledu’r fynedfa i dir y brifysgol, a gwahanu traffig cerddwyr a beicwyr trwy’r safle, yn creu cysylltiad cryfach rhwng y brifysgol a chanol y dref. Byddai hyn yn gwella’r ymdeimlad o Lanbedr Pont Steffan fel ‘tref brifysgol’ integredig.

Byddai lleihau dominyddiaeth ceir yng nghanol y dref yn creu mwy o ofod ar ochr y stryd lle gall pobl gymdeithasu. Dylid cyflwyno seddi anffurfiol o safon uchel (wedi’u hintegreiddio â phlannu os oes modd) ar hyd rhannau ehangach o’r ffyrdd (gan gynnwys Stryd y Bont a’r Stryd Fawr). Byddai hyn yn darparu lleoliad cryfach i fwynhau nodweddion treftadaeth fel Sgwâr Harfford. Gellid ail-neilltuo rhai mannau parcio fel ‘parciau bach’ at ddefnydd busnesau lleol.

Gallai’r ardal newydd i gerddwyr ar Stryd y Farchnad fod yn ganolbwynt ar gyfer seddi, cyfleusterau cymunedol a chynnwys lle ar gyfer digwyddiadau ‘pop-yp’. Gellid ymchwilio i bartneriaethau gyda’r brifysgol a busnesau lleol i ysgogi gofod cyhoeddus Stryd y Farchnad. Gallai gwelliannau gynnwys seddi ychwanegol, lle storio beiciau a chyfleusterau ategol sy’n gysylltiedig â ‘Llanbedr Pont Steffan sy’n gyfeillgar i feiciau’, ffynnon ddŵr, pwyntiau gwefru ynni’r haul ar gyfer e-feiciau, pwmp beiciau ac offer cynnal a chadw eraill. Byddai hyn yn rhoi lle i feicwyr lleol a beicwyr sy’n ymweld â’r dref i ymgynnull neu aros a chrwydro’r busnesau, caffis a siopau lleol.

Mae’r cynnig prosiect hwn yn cydnabod y byddai angen cyflwyno rhai o’r nodweddion hyn fel rhan o’r ail-ddychmygu ehangach ynghylch sut mae pobl yn symud trwy Lanbedr Pont Steffan, mewn ymgynghoriad agos â chynllunwyr trafnidiaeth a chymunedau lleol.

Stryd y Bont a’r Stryd Fawr

Street in town centre lined with colourful historic houses and shops
×
Stryd y Bont a’r Stryd Fawr

Stryd y Coleg yn edrych tuag at Stryd y Farchnad

Looking across street to narrower street with colourful historic houses and mural
×
Stryd y Coleg yn edrych tuag at Stryd y Farchnad

Elfen 2: Gwyrddu trefol amlswyddogaethol

Byddai rhaglen o erddi glaw strwythurol a phlannu coed (yn cynnwys planhigion bwytadwy) yn darparu swyddogaethau SGG lluosog yng nghanol y dref.

Dylid cyflwyno coed stryd a borderi gerddi glaw yn lle cyrbau a bolardiau traddodiadol ar ffyrdd lletach. Byddai hyn yn creu llwybrau gwyrdd deniadol trwy’r dref gan wahanu cerbydau oddi wrth beicwyr a cherddwyr. Mae’n bwysig bod y nodweddion hyn yn mynd y tu hwnt i werth addurniadol er mwyn sicrhau buddion lluosog – yn bennaf trwy arafu llif y dŵr ffo mewn rhannau uchel o ganol y dref a chreu coridor bywyd gwyllt trwy’r ardal drefol.

Dylid blaenoriaethu nodweddion gwyrddu trefol ar hyd y prif lwybrau cerbydau trwy’r dref ac ar hyd rhwydwaith Llanbedr Pont Steffan o lwybrau cerdded a llwybrau trwodd. Dylid defnyddio planwyr neu blannu strwythurol i amgáu mannau eistedd ar ochr y ffordd i ffwrdd o draffig cerbydau.

Byddai gwella llwybrau cerdded trwodd yn y dref a chyflwyno arwyddion pren deniadol i gynorthwyo dynodi llwybr yn annog ymwelwyr a phobl leol i defnyddio’r we bresennol o lwybrau cerdded sy’n gweu ar draws canol y dref. Byddent hefyd yn helpu i wella cysylltedd rhwng canol y dref, afonydd y dref, mannau gwyrdd lleol, y parciau a thir y brifysgol.

Mae prosiect Bwyd Bendigedig Llanbedr Pont Steffan eisoes wedi cyflwyno planwyr y tu allan i archfarchnadoedd lleol. Mae’r planwyr hyn yn cynnwys perlysiau, saladau, blodau bwytadwy, llysiau a phlanhigion ffrwytho i bobl helpu eu hunain iddynt. Gellid ymestyn hyn i ganol y dref gyda blychau ffenestr “bwytadwy” wedi’u harddangos ar flaenau siopau, rhywogaethau coed ffrwythau wedi’u cyflwyno mewn mannau mwy, a chasgenni dŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer cynnal a chadw planwyr a mynd i’r afael â llifogydd dŵr wyneb.

Gallai mannau cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau bwyd pop-yp, gorsafoedd cyfnewid hadau a hyb bwyd cymunedol fod yn rhan o rwydwaith “bwyd bedigedig” fel rhan o hyb bwyd cymunedol newydd Canolfan Tir Glas.

Byddai partneriaeth rhwng y gymuned a’r brifysgol i greu Llanbedr Pont Steffan gwyrddach, yn seiliedig ar system fwyd leol wydn, yn rhoi’r cyfle i hyrwyddo Llanbedr Pont Steffan fel enghraifft wych o gynaliadwyedd a chydlyniad cymunedol ac adeiladu ar ‘natur bwydgarwyr’ y dref.

Planwyr “Bwyd Bendigedig” y tu allan i’r Co-op yn Llanbedr Pont Steffan

A Co-op shop with brick wall facing out onto pavement. Planters visible on left and benches.
×
Planwyr “Bwyd Bendigedig” y tu allan i’r Co-op yn Llanbedr Pont Steffan

Tir y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan

Green space and footpath looking down a hill to wider trees and green hills in background
×
Tir y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan

Ysbrydoliaeth o fannau eraill

Mae’r prosiect Connecting Leicester wedi trawsnewid y cynllun ffyrdd trwy ganol Caerlŷr i greu cynllun cysylltiedig, diogel a chyfeillgar i deuluoedd. Roedd y nodweddion SDCau amlwg (“gerddi glaw”) yn bwysig o ran mynd i’r afael â pherygl llifogydd lleol. Roedd y prosiect hefyd wedi creu barc llinellog ar hyd Mill Lane i gysylltu’r ganolfan fanwerthu trwy Brifysgol De Montfort ag Afon Soar. Mae’r lôn bellach yn hawl tramwy cyhoeddus, gyda gerddi a seddi.

Delwedd astudiaeth achos: Gerddi glaw o fewn y cynllun Connecting Leicester

People walking down footpath with planting either side and tall buildings in background
×
Delwedd astudiaeth achos: Gerddi glaw o fewn y cynllun Connecting Leicester

Fel rhan o’r Town Deal, mae Hastings yn cynllunio gwelliannau mawr i dir y cyhoedd yng nghanol y dref, cysylltiadau gwyrdd newydd a mannau amlswyddogaethol a fydd yn annog pobl i aros am dipyn ac yn hybu llesiant, fel prosiect blaenllaw yn y rhanbarth. Mae’r weledigaeth yn cynnwys seilwaith cerdded a beicio, “parciau bach” beicio a mannau ar gyfer marchnadoedd, digwyddiadau, gwyliau a chelf gyhoeddus.