Menu

Atodiad 2: Crynodeb o Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Mae’r Atodiad hwn yn rhoi crynodeb o allbynnau’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o ddatblygiad y Strategaeth hon. Roedd adborth gan randdeiliaid allweddol yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth wrth nodi prosiectau strategol i wella’r rhwydwaith SGG ar draws y chwe thref. Mae’r Atodiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pwyntiau allweddol a godwyd gan randdeiliaid.

Defnyddiwyd tri offeryn gwahanol yn ystod y broses hon:

 

Offeryn 1: Arolwg Ar-lein

Anfonwyd arolwg ar-lein ar 9 Mai 2022 at dros 100 o randdeiliaid allweddol sydd â diddordeb yn y SGG, gan gynnwys:

  • Rhanddeiliaid statudol/technegol.
  • Aelodau Etholedig a chynghorwyr tref.
  • Grwpiau cymunedol sydd â diddordeb/budd yn y SGG.

Gofynnwyd i randdeiliaid am:

  • Eu barn ar berfformiad y rhwydwaith SGG presennol yn seiliedig ar y pedair egwyddor arweiniol a nodwyd.
  • Eu barn ar sut y gellir darparu SGG yng Ngheredigion h.y. nodi cyfleoedd allweddol.
  • Unrhyw gyfleoedd neu brosiectau parhaus ym mhob un o’r trefi hyn.
    • Derbyniwyd cyfanswm o 51 o ymatebion i’r arolwg ar-lein.
Offeryn 2: Map Rhyngweithiol

Anfonwyd y ddolen i’r map rhyngweithiol ynghyd â’r arolwg ar-lein, ar yr un dyddiad ac at yr un rhanddeiliaid. Roedd y map yn caniatáu i randdeiliaid adael pwyntiau ar y map o fewn unrhyw un o’r chwe thref, gan nodi cyfleoedd ar gyfer:

  • Rheoli llifogydd.
  • Llwybrau cerdded a beicio gwyrdd.
  • Gofod tyfu cymunedol.
  • Gwyrddni yn y dref.
  • Plannu coed.
  • Adfer afonydd a’r arfordir.
  • Parciau a mannau agored gwell.

Gadawyd cyfanswm o 107 o sylwadau ar y map rhyngweithiol.

Offeryn 3: Gweithdai Rhithiol
  • Cynhaliwyd chwe gweithdy rhithiol rhwng 24 Mai a 26 Mai. Roedd pob gweithdy yn cynnwys cyflwyniad gan LUC a swyddog o Gyngor Sir Ceredigion (CSC),wedi’i ddilyn gan drafodaeth ar gyfleoedd posibl yn y dref berthnasol, gan ddefnyddio ‘bwrdd gwyn rhithiol’ MIRO. Roedd pob gweithdy wedi canolbwyntio ar dref wahanol.
  • Roedd tua 6-11 o bobl wedi cymryd rhan ym mhob un o’r chwe gweithdy rhithiol.

 

 

 

Delwedd: enghraifft ‘ciplun’ o fyrddau gwyn rhithiol a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Snapshot of virtual whiteboards with map in background and virtual sticky notes on top.
×
Delwedd: enghraifft ‘ciplun’ o fyrddau gwyn rhithiol a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

×

Sylwadau ar rwydwaith SGG Ceredigion yn ei gyfanrwydd

Gofynnwyd i ymgyngoreion roi sylwadau ar berfformiad rhwydwaith SGG Ceredigion mewn perthynas â phedair egwyddor arweiniol. Yr egwyddorion hyn yw:

  1. Gwneud lle i fyd natur.
  2. Llunio mannau cyhoeddus ffyniannus.
  3. Creu cymunedau hapus ac iach.
  4. Cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.

Roedd ymatebion rhanddeiliaid mewn perthynas â phob un o’r egwyddorion hyn fel a ganlyn:

Egwyddor 1: Gwneud Lle i Fyd Natur

Teimlai 31% o’r ymgyngoreion fod y rhwydwaith SGG yn perfformio’n “eithaf da” yn erbyn yr egwyddor hon, ond teimlai 45% a 24% o’r ymgyngoreion, yn y drefn honno, fod y rhwydwaith SGG yn perfformio “ddim yn dda iawn” neu’n “wael iawn” yn erbyn yr egwyddor hon. Yna gwahoddwyd ymgyngoreion i ymhelaetha ar eu hymateb.

Roedd ymatebion yr ymgyngoreion fel a ganlyn:

  • Cefnwledydd gwledig iach ond diffyg mannau gwyrdd bioamrywiol a choed yn y trefi.
  • Gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd gwahanol yng Ngheredigion (e.e. Aberystwyth yn gweld dirywiad yn y mannau gwyrdd tra bo trefi fel Aberaeron ac Aberteifi yn perfformio’n well).
  • Gellid gwella ansawdd dŵr rhai o’r prif afonydd.
  • Diffyg cysylltedd/hygyrchedd gwael cysylltiadau trafnidiaeth o bentrefi anghysbell.
  • Diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i drigolion/twristiaid a sut i gael mynediad iddynt.
  • Ardal eang o fannau gwyrdd o’i gymharu â’r boblogaeth.
  • Diffyg ystyriaeth o farchogion yn enwedig llwybrau ceffylau sy’n hybu crwydro gwyrdd, teithio a chysylltiad â natur.
  • Ansawdd gwael tir pori ac ardaloedd coediog.
  • Torri coed a gwrychoedd heb ganiatâd (gan gynnwys yn ystod tymor nythu adar).
  • Diffyg ystyriaeth o fyd natur wrth wneud penderfyniadau cynllunio e.e. ffermio (yn enwedig magu anifeiliaid yn arwain at ragor o lygredd/diraddio amgylcheddol).
Egwyddor 2: Llunio Mannau Cyhoeddus Ffyniannus

Mae’r egwyddor hon yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o le, gan gynnwys twristiaeth, a sut mae’r rhwydwaith SGG yn perfformio yn hyn o beth. Ymatebodd 53% o randdeiliaid gan ddweud “ddim yn dda iawn”, tra bod 29% wedi ymateb “gwael iawn”. Ymatebodd 9% gan ddweud “eithaf da”.

Roedd rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd fel a ganlyn:

  • Mae canol trefi yn dirywio ac nid yw mannau gwyrdd yn cael eu defnyddio i’r eithaf oherwydd rheolaeth wael.
  • Dim digon o fusnesau a darpariaeth dwristiaeth yn gysylltiedig â’r defnydd o’r amgylchedd naturiol.
  • Y rhwystr mwyaf yn yr egwyddor hon yw’r hyn y mae “ymdeimlad o le” yn ei olygu i bob unigolyn.
  • Cysylltedd gwael rhwng trefi a llwybrau allweddol, gydag ychydig iawn o nodweddion gwyrdd neu las gan lwybrau beicio/troed.
  • Diffyg arwyddion priodol i gyrraedd cyrchfannau twristiaeth.
  • Gellid gwella’r seilwaith ar gyfer beicio, marchogaeth neu ddulliau teithio gwyrdd eraill i fod yn fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig.
  • Statws baner las ar gyfer traethau lleol heb ei gynnal a gellid gwella ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol.
Egwyddor 3: Creu Cymunedau Hapus ac Iach

Mae’r egwyddor hon yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o le, gan gynnwys twristiaeth, a sut mae rhwydwaith SGG yn perfformio o ran hybu iechyd, llesiant a mynediad i fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol. Ymatebodd 35% o randdeiliaid yn gadarnhaol tra bod eraill wedi ymateb yn negyddol.

Roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn cynnwys:

  • Gellid gwneud mwy i ehangu neu ddatblygu llwybrau hŷn, yn enwedig mewn rhannau peryglus o briffyrdd sy’n darparu llwybrau ardderchog i drigolion a thwristiaid.
  • Nid yw mannau gwyrdd yng Ngheredigion wedi’u hasesu i’r safonau a dylent gael eu hasesu felly, h.y. yn ôl safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol megis Gwobrau’r Faner Werdd.
  • Gall natur wledig bresennol yr ardal ei gwneud yn anodd creu llwybrau cerdded neu feicio newydd, ond dylid hystyried hyn beth bynnag yn arbennig rhwng ardaloedd allweddol o fewn trefi.
  • Nid yw’r rhwydwaith hawliau tramwy yn cael ei gynnal, ac ychydig iawn o ymwybyddiaeth o’r llwybrau sydd.
  • Rhaid cael mwy o ddiogelwch i’r llwybrau presennol. Dylai fod llwybrau beicio, wedi’u gwahanu’n ffisegol oddi wrth geir fel bod pobl o bob gallu a lefel hyder yn gallu beicio’n lleol.
  • Mae diffyg palmentydd yn gwneud teithio carbon isel yn amhosibl mewn rhai mannau.
Sylwadau ar Gyflawni’r SGG yng Ngheredigion

Gofynnwyd i randdeiliaid nodi’r prif rwystrau i gyflawni’r SGG yng Ngheredigion. Yr opsiynau a roddwyd oedd:

  1. Dim digon o flaenoriaethu o fewn polisi.
  2. Ffynonellau ariannu annigonol.
  3. Diffyg dealltwriaeth o’r SGG.
  4. Cydlynu gwael rhwng partneriaid.
  5. Diffyg diddordeb cymunedol yn y SGG.
  6. Rhesymau eraill.

Roedd y sylwadau a roddwyd mewn perthynas â’r cwestiwn hwn yn cynnwys:

  • Mae cyllid yn hanfodol ar gyfer datblygu llwybrau estynedig neu fannau gwyrdd a glas.
  • Byddai polisi cynllunio yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gorfodi a phrynu gorfodol.
  • Byddai cynnal a chadw a gwella hygyrchedd yn dilyn uwchraddio i fannau gwyrdd a glas yn annog defnydd gwell.
  • Diffyg menter i fynd i’r afael â materion SGG yn uniongyrchol gan fod y strategaeth gyfredol yn ei weld fel mater ategol ac ymylol.
  • Diffyg cyflawni ar ddyheadau canmoladwy.
  • Diffyg amrywiaeth yn yr ymagwedd at berchnogaeth prosiectau.
  • Materion cyfathrebu rhwng adrannau sy’n arwain at flaenoriaethau a gwrthddywediadau gwahanol.
  • Heb fanteisio ar fuddiant cymunedol gan nad yw ymgysylltu’n cael ei gefnogi’n briodol.

Roedd sylwadau gan randdeiliaid pan ofynnwyd iddynt dynnu sylw at unrhyw fecanweithiau cyflawni addawol yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar raddfa strategol dros gyfnod hwy yn hytrach nag un flwyddyn ariannol.
  • Dylid cynnwys grwpiau lleol.
  • Dylai Cynghorau weithredu gyda’i gilydd.
  • Angen bod yn fwy gwybodus am faterion yn yr ardal leol er mwyn gwneud awgrymiadau gwell.

Roedd rhanddeiliaid hefyd wedi tynnu sylw at rôl y partneriaid cyflawni pwysig canlynol:

  • Partneriaeth Natur Ceredigion.
  • Hyb Eco Aber.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Iechyd a Gofal Gwledig Cymru – sy’n darparu cymorth ar gyfer rhwydwaith iechyd gwyrdd ar waith.
  • Gall Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant chwarae rôl bwysig fel sefydliad sydd â 200 mlynedd o hanes.
  • Perchnogion tir yn amrywio o’r sector cyhoeddus a phreifat mawr i drigolion gyda gerddi.
  • Grŵp Aberystwyth Gwyrddach.
  • Tir Coed.
  • Coed Lleol.
  • Bwyd Bedigedig.
  • Sustrans.
  • Comisiwn Cefn Gwlad.
  • Cyngor Chwaraeon Cymru.
  • Plantlife Cymru.
  • Menter Mynyddoedd Cambrian.
  • Chwarae Cymru.
  • Bioamrywiaeth Llandysul.
  • BMC Hills.
  • Oceans Protect.
  • Surfers Against Sewage.
  • Clear Access Clear Waters.
  • Y Cerddwyr.
  • Cycling UK Cymru.
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
  • Archaeoleg Dyfed.
  • Grwp Bywyd Gwyllt Penparcau.
  • Ecodyfi
  • Partneriaeth Natur.
  • Rhwydwaith Dysgu Awyr Agored Ceredigion.
  • Rhwydwaith Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru.
  • Coetir Cymunedol Longwood.
  • Canolfan Gadwraeth Fferm Denmarc.
  • Grŵp Permaddiwylliant Llanbedr Pont Steffan.
  • Mudiad Trawsnewid Llanbedr Pont Steffan.
  • Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.
  • Cerddwyr Llanbedr Pont Steffan.
  • Ymddiriedolaeth Natur.
  • Coed Cadw.
  • RSPB.
  • Ymddiriedolaeth Adpar y Gwlyptir.
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Ysgolion Coedwig ac Arfordir RAY Ceredigion.
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.
  • Undeb Amaethwyr Cymru.

Crynodeb o’r Sylwadau a gafwyd ar gyfer pob un o’r Chwe Thref

Dechreuodd pob un o’r chwe gweithdy gyda chyflwyniad gan LUC a swyddog CSC, wedi’i ddilyn gan drafodaeth am y cyfleoedd. Casglwyd y drafodaeth gan ddefnyddio ‘bwrdd gwyn rhithiol’ MIRO a’i rhannu â chyfranogwyr.

Mae’r materion a’r cyfleoedd allweddol a godwyd gan randdeiliaid ar gyfer pob tref fel rhan o’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi’u crynhoi isod.

 

Aberystwyth

 

Heriau Allweddol
  • Mae angen i gyllid fod yn fwy bwriadol e.e. ariannu ar gyfer oes y man gwyrdd.
  • Materion llifogydd dŵr wyneb.
  • Darnio gorchudd coetir.
  • Canfyddiad lleol negyddol.
  • Cydbwyso datblygiad a cholli mannau gwyrdd.
  • Angen cadw hunaniaeth Gymreig.
  • Cynefinoedd yn wael ar y cyfan yn Aberystwyth, heblaw am orchudd coetir.
  • Dim cysylltiad clir â’r agenda dwristiaeth yn Aberystwyth.
Cyfleoedd Allweddol
  • Gwella cysylltedd bywyd gwyllt a chynefin.
  • Gwella partneriaeth natur leol.
  • Datblygu strategaeth rheoli ac ariannu.
  • Gwyrddu’r dref.
  • Mwy o rhandiroedd newydd.
  • Pontydd troed dros afonydd.
  • Mae gan Aberystwyth lwybrau beicio rhesymol a llwybrau gwyrdd eraill er y gellid gwneud mwy e.e. plannu coed neu wrychoedd.

 

Aberaeron

 

Heriau Allweddol
  • Llifogydd arfordirol.
  • Diffyg llwybrau beicio.
  • Topograffeg serth yn cyfyngu ar le ar gyfer datblygu.
  • Gorchudd coed isel.
Cyfleoedd Allweddol
  • Datblygu llwybrau beicio newydd e.e. i Aberystwyth, neu ymestyn llwybr Llanerchaeron i ganol Aberaeron ac ymlaen i Lanbedr Pont Steffan.
  • Cyfle i gyfuno profion ansawdd dŵr â hyrwyddo rhywogaethau.
  • Cyfle i gomisiynu cynllun bioamrywiaeth.
  • Gwyrddu canol y dref.
  • Cyflwyno mwy o deithiau cerdded cylchol sy’n hygyrch, yn fwy diogel ac yn hwy.

 

Aberteifi

 

Heriau Allweddol
  • Llifogydd dŵr wyneb.
  • Diffyg mannau gwyrdd hygyrch o fewn yr anheddiad.
  • Cyfyngiadau perchnogaeth.
  • Diffyg cyllid ar gyfer cynnal a chadw llwybrau.
Cyfleoedd Allweddol
  • Gwella mynediad i ardaloedd hamdden mewn mannau anffurfiol ac atodol.
  • Gellir datblygu rhai mannau yn Aberteifi i fod yn berllannau cymunedol a mannau plannu i roi cyfle i bobl dyfu neu bigo bwyd am ddim.
  • Llwybrau cerdded a beicio newydd.
  • Gwyrddu a lliniaru llifogydd yn ardal Maes Mwldan.
  • Creu dolydd a thyfu cymunedol yng Nghae Chwarae a Pharc Sglefrio Maes Radley.
  • Hawliau tramwy a gwelliannau cyffredinol i hygyrchedd.
  • Adeiladu a chynnal cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau.

 

Llanbedr Pont Steffan

 

Heriau Allweddol
  • Angen cynlluniau gweithredu yn ogystal â thystiolaeth.
  • Absenoldeb cyffredinol llwybrau hamdden.
  • Gwella wyneb llwybrau.
  • Diffyg arweiniad gan y Cyngor Sir/Cyngor Lleol ac ymddiriedolwyr.
  • Prin yw’r dystiolaeth o unrhyw waith a wnaed ar agweddau yn Llanbedr Pont Steffan oherwydd nid yw trigolion gweithgar a pharod yn cael eu hysbysu.
  • Colli gwrychoedd, yn enwedig ar hyd ochrau ffyrdd.
Cyfleoedd Allweddol
  • Ymestyn y rhwydwaith beicio.
  • Hyrwyddo a chadwraeth Afon Teifi.
  • Ailgyflwyno rhywogaethau e.e. afanc.
  • Creu ardal i gerddwyr ar Stryd y Farchnad.
  • Agor rhannau o’r hen reilffordd i gysylltu Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.
  • Creu man chwarae ffurfiol y tu allan i ddatblygiadau tai presennol.
  • Nid oes gan Lanbedr Pont Steffan unrhyw nodweddion arbennig na choridorau gwyrdd sy’n cysylltu safleoedd ond mae ganddi rai amwynderau naturiol yn yr ardal y gellir eu datblygu.

 

Llandysul

 

Heriau Allweddol
  • Llifogydd.
  • Topograffeg serth yn cyfyngu hygyrchedd.
  • Llai o ymwelwyr yng nghanol y dref a diffyg hunaniaeth.
  • Nid oes unrhyw un yn y Cyngor Tref lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am yr amgylchedd na bioamrywiaeth yn ardal Llandysul.
Cyfleoedd Allweddol
  • Hyrwyddo Llandysul fel cyrchfan neu ar gyfer chwaraeon awyr agored.
  • Tyfu cymunedol ar hen safle Ysgol Dyffryn Teifi.
  • Hyrwyddo sgwâr gwyrdd y dref.
  • Datblygu llwybr glan yr afon.
  • Llwybrau cerdded a chysylltiadau beicio gwell.

 

Tregaron

 

Heriau Allweddol
  • Mannau gwyrdd cyfyngedig.
  • Mae Llwybr Ystwyth yn dod i ben 2 filltir cyn Tregaron.
  • Gorchudd coed cyfyngedig iawn yn y dref.
Cyfleoedd Allweddol
  • Creu llwybrau hamdden ar hyd afonydd Brennig a Theifi.
  • Hyrwyddo’r dref fel porth i Fynyddoedd Cambrian.
  • Gwelliannau i fannau agored.
  • Gwyrddu’r ardal y tu allan i’r Talbot.
  • Estyn Llwybr Ystwyth.