Menu

Atodiad 3: Proses ar gyfer datblygu amcangyfrifon cost prosiectau

Trosolwg o’r broses

Mae’r Atodiad hwn yn nodi sut y daethpwyd i’r costau amcangyfrifedig ar gyfer pob Prosiect Blaenllaw a gyflwynir yn y Strategaeth hon. Defnyddiodd y broses gyfres o ragdybiaethau i gronni costau prosiectau yn unol â’r “blociau adeiladu” tebygol y byddai eu hangen i gyflawni pob prosiect.

Dylid nodi nad yw’n hawdd costio pob elfen o Gynlluniau Gweithredu’r SGG. Mae ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar gostau menter yn y pen draw, yn benodol, ystyried prynu tir lle mae angen caffael tir er mwyn creu cynefin neu fan hamdden newydd.

Mae costau prosiectau a ddarparwyd wedi’u nodi naill ai trwy ddefnyddio cyfraddau diwydiant ac adnoddau prisio cydnabyddedig (gan gynnwys Spon’s Landscape and External Works Price Book, 2022 a Spon’s Architects and Builders Book 2022) ynghyd â chyfraddau a phrisiau o dendrau a dderbyniwyd yn ddiweddar lle bo’n briodol. Nid yw unrhyw addasiad wedi’i wneud ar gyfer y ffactor lleoliad daearyddol. Tynnwyd ar astudiaethau achos i ddarparu swm dros dro ar gyfer elfennau mwy pwrpasol.

Yn gyffredinol, cyflwynir y costau fel amrediad, gan adlewyrchu’r gofynion a’r manylebau amrywiol a all fod yn berthnasol i safleoedd ac amodau unigol. Canllaw yn unig yw’r amcangyfrifon cost isod – byddai angen i brosiectau unigol fod yn destun astudiaethau dichonoldeb manylach i lywio unrhyw geisiadau ariannu posibl yn y dyfodol.

Gall elfennau cost allweddol ar gyfer y rhan fwyaf o’r prosiectau gael eu rhannu’n fras fel a ganlyn:

  • Dichonoldeb cychwynnol, cynllunio, asesu, costau dylunio
  • a ffioedd proffesiynol eraill.
  • Costau caffael tir (lle bo’n berthnasol).
  • Costau cyfalaf.
  • Costau sefydlu a chynnal a chadw.

Mae’r amcangyfrifon cost a ddarperir yn y Cynllun hwn yn canolbwyntio ar gostau cyfalaf a chostau cynnal a chadw.

Tybiaethau ac ystyriaethau allweddol

Dylid rhoi sylw i’r ystyriaethau canlynol wrth ddehongli’r amcangyfrifon cost:

  • Mae’r costau yn amlinellol ac yn lefel uchel eu natur. Byddai angen i brosiectau unigol fod yn destun dichonoldeb ac amcangyfrifon cost manwl.
  • Darperir costau swm dros dro ar gyfer prosiectau cyfalaf mwy – megis gwaith sifil / priffyrdd a phontydd, sy’n seiliedig yn gyffredinol ar enghreifftiau astudiaethau achos o brosiectau eraill. Gall prosiectau o’r fath fod yn gymhleth a gall cyfyngiadau safle (fel mynediad) effeithio’n sylweddol ar gostau cyffredinol, a all amrywio’n sylweddol.
  • Sail prisio: nid yw costau yn cynnwys unrhyw ragdybiaethau o chwyddiant yn y dyfodol.
  • Tybiwyd at ddibenion prisio y byddai pob prosiect yn cael ei gaffael trwy dendr cystadleuol ar sail cynllun llawn y tîm ymgynghorol.
  • Yn y mwyafrif o achosion nid yw gwybodaeth fanwl ar gael eto. Mae’r costau felly’n seiliedig ar naill ai lwfansau swm dros dro neu gyfraddau priodol fesul metr sgwâr.
  • Ni ddarparwyd ar gyfer y ffaith y gallai peth o’r gwaith gael ei wneud gan wirfoddolwyr cymunedol lleol.
  • Ni ddarparwyd ar gyfer gweithio o dan amodau tir annormal nac ar gyfer trin a chael gwared ar ddeunydd halogedig, os cânt eu darganfod.
  • Gan nad yw cwmpas y prosiect a chyfnodau contract cysylltiedig wedi’u hasesu, mae lwfansau ar gyfer rhagofynion y prif gontractwr wedi’u seilio ar 15% o gyfanswm cost adeiladu pob prosiect. Yn ymarferol, bydd y ganran hon yn amrywio fesul gradd o brosiect i brosiect.