Menu

Egwyddor 4: Cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd

Sut gall SGG helpu i wrthsefyll newid hinsawdd yn well?

Concrete promenade along seafront with rock defences.
×

Mae SGG yn chwarae rôl ddeuol mewn perthynas â newid hinsawdd.

Yn gyntaf, gall darparu lonydd glas a mannau gwyrdd sy’n annog cerdded a beicio yn hytrach na defnyddio ceir leihau allyriadau carbon.

Yn ail, gall SGG chwarae rôl allweddol wrth liniaru ac addasu i bwysau newid hinsawdd. Gellir defnyddio gwahanol fathau o cynefinoedd i “secwestru” carbon – hynny yw, tynnu gormodedd o garbon i mewn o’r atmosffer.

Gall rhai mathau o gynefinoedd hefyd weithredu fel amddiffynfeydd naturiol yn erbyn y risgiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd – yn arbennig y perygl o lifogydd a thymheredd uchel.

Beth mae polisi cenedlaethol a rhanbarthol yn ei ddweud?

Mae mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd a datgarboneiddio yn hanfodol er mwyn cyflawni amcanion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i gael gostyngiad cyffredinol o 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod saith Nod Llesiant sy’n darparu gweledigaeth a rennir i Gymru weithio tuag atynt, gan gynnwys datblygu economi carbon isel.

Mae ‘Cymru’r Dyfodol’: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Polisi 8 (Llifogydd) yn hyrwyddo atebion seiliedig ar natur at lifogydd yn hytrach nag atebion peirianyddol lle bynnag y bo modd – gan bwysleisio rôl y rhwydwaith SGG.

Mae gwrthsefyll newid hinsawdd wedi’i gynnwys fel un o Ganlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd fel rhan o Bolisi Cynllunio Cymru. Mae’n tynnu sylw at rôl allweddol y system gynllunio wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – gan gynnwys diogelu ‘dalfeydd carbon’ a defnyddio mannau agored er mwyn addasu i’r effeithiau.

Mewn perthynas â’r perygl o llifogydd yn benodol, yn 2019 daeth Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010) i rym. Mae Atodlen 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad newydd dros 100 metr sgwâr gynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) sy’n bodloni gofynion o ran faint, ansawdd, amwynder a bioamrywiaeth dŵr. Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020) yn nodi sut y dylid rheoli’r risgiau hyn yn ehangach a phwy sy’n gyfrifol. Yn 2021, adeiladodd Llywodraeth Cymru ar y sylfaen ddeddfwriaethol hon a dechreuodd ei gwneud yn ofynnol i gynnwys newid hinsawdd fel ffactor wrth asesu cynlluniau datblygu yn y dyfodol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru yn cynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 yn ymwneud â datblygu’r perygl o llifogydd ac yn cynnwys cyngor ar ddefnyddio cynlluniau datblygu a rheoli datblygu i liniaru perygl o lifogydd.

Mae rôl gynyddol amlwg Byrddau Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (cyrff cymeradwyo SDCau) yng Nghymru yn dangos i ba raddau y mae’r gallu i wrthsefyll llifogydd wedi codi tuag at frig yr agenda bolisi yng Nghymru.

Beth mae polisi lleol yn ei ddweud?

Ym mis Mawrth 2020, datganodd Cyngor Sir Ceredigion argyfwng hinsawdd gan ymrwymo i fod yn awdurdod lleol garbon sero net erbyn 2030.

Dilynodd y Cyngor hyn yn 2021 gyda Chynllun Gweithredu Carbon Sero – sy’n darparu fframwaith ar gyfer gweithredu, sicrhau cyllid pellach a lobïo llywodraethau Cymru a chenedlaethol i ddarparu’r cymorth a’r adnoddau angenrheidiol.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi sawl cam gweithredu ar gyfer seilwaith gwyrdd yn y dyfodol gan gynnwys:

  • Datblygu a gweithredu Strategaeth Goed.
  • Ymchwilio i ymarferoldeb plannu coed a mesurau tebyg, ynghyd ag adnabod tir ar gyfer plannu.
  • Datblygu Cynllun Teithio Gwyrdd.

Yn 2020, asesodd y Cyngor seilwaith gwyrdd presennol Ceredigion. Nododd yr asesiad yr amcanion canlynol yn ymwneud â newid hinsawdd:

  • Cynyddu’r ddarpariaeth o goetiroedd ac adfer/ehangu mawnogydd.
  • Lleihau effeithiau llifogydd – yn enwedig yn yr ardaloedd targed, sef Beulah, Afon Leri yn Nhal-y-bont, Afon Aeron uwchben Tal-sarn, a Chwm Slaid.

Mae Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn nodi’r her o liniaru ac addasu i hinsawdd sy’n newid fel un o “faterion mwyaf ein hoes”, ac un sy’n gofyn am weithredu effeithiol ar unwaith.

Yn benodol, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ardaloedd arfordirol yn wynebu bygythiad cynyddol yn sgil cynnydd yn lefel y môr a llifogydd mewn ardaloedd isel, yn ogystal â hafau poethach a sychach a lefelau dŵr daear isel. Gallai hyn arwain at effeithiau sylweddol ac anwrthdroadwy ar yr amgylchedd. Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar feithrin gwell dealltwriaeth leol o newid hinsawdd.

Mae Cynllun Rheoli Traethlin Ceredigion yn darparu asesiad ar raddfa fawr o’r risgiau sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol ac yn cyflwyno fframwaith polisi i leihau’r risgiau hyn mewn modd cynaliadwy i’r 22ain ganrif.

O ran storio carbon, mae’r Datganiad Ardal yn chwilio am gyfleoedd i ddal a storio carbon trwy goetiroedd cynnyrch cymysg sy’n cael eu rheoli’n dda. Mae’n ceisio gwarchod cynefinoedd coetir presennol sydd eisoes yn storio swm sylweddol o garbon.

Yn olaf, mae Polisi DM11 (Dylunio ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd) Cynllun Datblygu Lleol presennol Ceredigion yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddatblygiad newydd ddarparu tystiolaeth o wydnwch. Rhaid cyfiawnhau datblygiad yn y parth llifogydd o ran gwytnwch a gallu addasu i effeithiau llifogydd. Rhaid ystyried cynaliadwyedd hirdymor pob datblygiad wrth wneud penderfyniadau.

Beth yw’r heriau a’r pwysau y mae angen i’r strategaeth SGG hon roi sylw iddynt?

Delwedd: Ardal o goetir y tu allan i Aberystwyth

Broadleaved trees and woodland floor.
×
Delwedd: Ardal o goetir y tu allan i Aberystwyth

“Mae llifogydd yn bwysig iawn – yn agos iawn at yr afon a phan mae glaw trwm, mae pobl yn nerfus. Does dim llawer o waith i’w weld yn digwydd ar hyn o bryd”

– Sylwadau rhanddeiliaid (gweithdy)

 

Mae effeithiau anochel newid hinsawdd yn debygol o greu amryw o oblygiadau i Geredigion. Yn amlwg ymhlith y rhain mae’r perygl o lifogydd – un o brif bryderon rhanddeiliaid. Bydd cynnydd yn y perygl o lifogydd yn un o effeithiau mawr newid hinsawdd – mae hyn yn cynnwys risgiau o afonydd, y môr, dŵr ffo arwyneb trefol a draeniad tir annigonol, a dŵr ffo o gaeau.

Mae Asesiad Llesiant Ceredigion yn nodi bod nifer o gymunedau mewn perygl o lifogydd yng Ngheredigion. Cyfanswm amcangyfrifedig yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd (2019) oedd 4,697. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 15% o holl eiddo Ceredigion.

Mae’r perygl o lifogydd yn debygol o ddod o amrywiaeth o ffynonellau. O’r 15% hwn, mae tua:

  • 45% o’r eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb
  • 37% o’r eiddo hyn mewn perygl o lifogydd afonydd
  • 15% o’r eiddo hyn mewn perygl o lifogydd llanw

Mae perygl arbennig o lifogydd dŵr wyneb yn nhrefi Llanbedr Pont Steffan a dwyrain Tregaron.

Mae’r perygl o lifogydd hwn yn dangos bod angen addasu i newid hinsawdd trwy weithio gyda’r cylch dŵr yn hytrach nag yn ei erbyn yng Ngheredigion. Er bod effeithiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn anochel, gellir defnyddio’r rhwydwaith SGG i liniaru problemau llifogydd yn sylweddol – gan ddefnyddio systemau draenio trefol cynaliadwy a mynd i’r afael â phwysau dŵr wyneb ar y rhwydwaith carthffosydd.

Bydd hyn yn golygu bod angen i ni edrych ar ddalgylchoedd fel system gyfan. Gyda hyn mewn golwg, gallwn ddefnyddio SGG i ysgogi gwelliannau o fewn ac o gwmpas aneddiadau er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd a chynyddu’r gallu i wrthsefyll llifogydd (yn unol â TAN 15).

 

Delwedd: Afon yn llifo trwy ganol Aberystwyth.

Bridge going over wide river corridor with terraced, colourful buildings either side.
×
Delwedd: Afon yn llifo trwy ganol Aberystwyth.

Mae newid hinsawdd hefyd yn peri risg i reoli adnoddau dŵr. Mae hinsawdd Ceredigion yn un gwlyb. O ganlyniad, yn hanesyddol ychydig o bwyslais sydd wedi bod ar gapasiti storio dŵr dros ben. Mae hyn yn debygol o adael llai o wydnwch yn y seilwaith cyflenwi dŵr am gyfnodau o sychder difrifol pan fyddant yn digwydd.

Gallai hyn arwain at ganlyniadau trychinebus i fywyd gwyllt dyfrol, gan gynnwys pysgod mewn perygl fel eogiaid.

Mae bioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau Ceredigion eisoes yn cael eu heffeithio’n sylweddol gan newid hinsawdd ac mae hyn yn debygol o gynyddu (gweler Egwyddor 1). Mae hyn yn amlygu ymhellach bwysigrwydd gwella cysylltedd cynefinoedd er mwyn hybu’r gallu i wrthsefyll newid.

Yn olaf, mae cynefinoedd presennol Ceredigion yn cynnig cyfle pwysig i frwydro yn erbyn newid hinsawdd trwy secwestru carbon, ymhlith swyddogaethau eraill. Yn benodol, mae corsydd mawndir y Sir (gan gynnwys cynefin gorgors Cors Caron) yn darparu dalfa garbon o bwysigrwydd cenedlaethol. Byddant hefyd yn cynorthwyo puro dŵr a rheoli llifogydd.

Crynodeb o’r materion allweddol

  • Perygl sylweddol o lifogydd ar draws y Sir – yn fwyaf arbennig llifogydd dŵr wyneb, yna llifogydd afonydd a llifogydd llanw.
  • Yr angen i weithio gyda’r cylch dŵr yn hytrach nag yn ei erbyn wrth frwydro yn erbyn llifogydd, gan ddefnyddio SGG i ysgogi gwelliannau sy’n cynyddu’r gallu i wrthsefyll llifogydd a helpu’r Sir i addasu i effeithiau anochel newid hinsawdd.
  • Mae newid hinsawdd hefyd yn fygythiad i reoli adnoddau dŵr, yn wyneb y rhagamcanion o sychder cynyddol.
  • Yr angen i gynyddu cysylltedd cynefinoedd i helpu ecosystemau a bywyd gwyllt i addasu i newidiadau yn yr hinsawdd.
  • Pwysigrwydd cynefinoedd Ceredigion (yn enwedig corsydd mawndir) fel “dalfeydd carbon” ar gyfer lliniaru newid hinsawdd.