Cyflwyniad

Croeso i Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ceredigion.

Wedi’i gynhyrchu gan Gyngor Sir Ceredigion, mae’n adeiladu ar waith blaenorol ac adborth gan randdeiliaid lleol ac yn amlinellu cyfres o gyfleoedd strategol i wella rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) y Sir.

Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar chwe thref benodol, sef Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron a Llandysul.

Gallwch ddefnyddio’r wefan hon a’r bar offer uchod i archwilio’r strategaeth, deall pam ei bod wedi’i chreu a darllen mwy am sut y gellid darparu’r cyfleoedd SGG.