Menu

Arfordir Gwyllt Aberaeron

Illustration showing a seafront promenade being used by a variety of user, with green spae to the right and a lamp post in the background.
×

Pwrpas

Gwella bioamrywiaeth arfordirol Aberaeron trwy gyflwyno plannu arfordirol a gofod ar gyfer natur fel rhan o gynllun amddiffyn rhag llifogydd glan y môr. Bydd hyn yn ysgogi parth y cyhoedd ar lan y môr trwy gyflwyno lle i gymdeithasu, chwarae, crwydro, dysgu, cerdded a beicio.

Elfennau allweddol

  1. Cyflwyno plannu a chaniatáu lle i fyd natur.
  2. Cyflwyno gofod ar gyfer cymdeithasu, chwarae, crwydro, dysgu, cerdded a beicio.

Cyflawni

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Harbwr ar gyfer Aberaeron, Dŵr Cymru / Welsh Water, Cyngor Tref Aberaeron, RAY Ceredigion

Costau dangosol: £500 – 600,000 (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)

Disgrifiad

Byddai gwella bioamrywiaeth glan y môr ac ysgogi potensial cymdeithasol y gofod yn darparu adnodd llesiant pwysig i’r gymuned leol. Byddai hefyd yn ganolbwynt ac yn gyrchfan eiconig i ymwelwyr â’r dref a byddai’n gwella symudiad pobl a bywyd gwyllt.

Ar adeg ysgrifennu, roedd caniatâd cynllunio newydd ei roi ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron. Disgwylir i hyn gynnwys:

  • Adeiladu morglawdd cerrig” yn ymestyn allan o Bier y Gogledd.
  • Adnewyddu ac ailadeiladu pen pier y De.
  • Adeiladu waliau llifogydd.
  • Adeiladu giât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam.
  • Gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De.

Mae’r prosiect blaenllaw hwn wedi ystyried sut y gellid ymgorffori nodweddion sy’n cynnal byd natur a phrosesau naturiol yn yr amddiffynfeydd llifogydd “caled” hyn.

Cynllun amddiffyn yr arfordir a phromenâd presennol Aberaeron

Concrete coastal promenade with people walking along
×
Cynllun amddiffyn yr arfordir a phromenâd presennol Aberaeron

Meysydd parcio a chaeau chwarae Aberaeron

A car park to the left with grass open space to the right.
×
Meysydd parcio a chaeau chwarae Aberaeron

Elfen 1: Cyflwyno plannu a chaniatáu lle i fyd natur

Dylid plannu stribed o laswelltir blodau gwyllt ar y llain laswellt bresennol y tu ôl i’r wal amddiffyn rhag llifogydd. Dylid cysylltu plannu blodau gwyllt y tu hwnt i’r wal amddiffyn rhag llifogydd i greu coridor gwyrdd sy’n gyfeillgar i beillwyr ac yn llawn natur.

Mae cyfleoedd i ymestyn plannu tua’r gogledd ar hyd y llethrau glaswellt rhwng Maes Parcio Aberaeron a ffiniau’r Cae Chwarae, ger y toiledau cyhoeddus, yn ffinio â Maes Carafanau Aberaeron ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae cyfleoedd hefyd i ymestyn plannu tua’r de yn ardal yr harbwr, yn ffinio â Chlwb Hwylio Aberaeron ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Dylid blaenoriaethu rhywogaethau lleol o flodau gwyllt arfordirol yn y cynllun (gweler astudiaeth achos Swydd Gaerhirfryn isod).

Gellid cyflwyno coed brodorol priodol ac ardaloedd blodau gwyllt wedi’u tirlunio mewn ardaloedd o weithgaredd ar hyd glan y môr, llwybrau ac ardaloedd ffiniol allweddol. Bydd hyn yn meddalu ymddangosiad y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd caled ac yn creu mannau deniadol, llawn natur lle gall pobl gerdded, beicio, eistedd a chymdeithasu. Gall hyn fod yn briodol ger y mannau eistedd ar hyd y ffrynt, ger y toiledau cyhoeddus, ac i sgrinio a meddalu mannau lle mae ceir yn dominyddu fel Maes Parcio Aberaeron a Ffordd y Gaer Isaf.

Byddai ychwanegu pyst gwenyn mewn ardaloedd blodau gwyllt hefyd yn creu nodwedd addysgol bwerus ac yn helpu i gynyddu peilliwyr ar hyd y coridor blodau gwyllt.

Elfen 2: Cyflwyno gofod i gymdeithasu, chwarae, crwydro, dysgu, cerdded a beicio

Dylid cyflwyno mannau eistedd o safon uchel ar hyd glan y môr, gan ganolbwyntio ar feysydd o weithgaredd allweddol ac ar hyd llwybrau sy’n arwain at lan y môr. Dylai seddi fod yn hygyrch i ddefnyddwyr anabl a gellid eu codi mewn mannau i roi golygfeydd dros y wal amddiffyn rhag llifogydd.

Dylid defnyddio pren caled ar gyfer y seddi i feddalu’r concrit o’u hamgylch. Gallai cyfuniad o feinciau ffurfiol, seddi anffurfiol, meinciau picnic a mannau eistedd anffurfiol ar risiau a silffoedd creigiau helpu i gyflwyno cyfres amrywiol o fannau cymdeithasol ar gyfer bwyta cinio, cymdeithasu, ymlacio, myfyrio’n dawel a chynnal digwyddiadau anffurfiol.

Bydd ychwanegu elfennau chwareus, gosodiadau celf, gofod ar gyfer digwyddiadau pop-yp a byrddau gwybodaeth hefyd yn ysgogi’r gofod ar gyfer gwahanol aelodau o’r gymuned ac ymwelwyr. Bydd cerrig camu anffurfiol, ardaloedd dringo a nodweddion chwarae pren yn creu lleoedd i blant eu harchwilio.

Bydd byrddau gwybodaeth sy’n esbonio treftadaeth naturiol yr ardal leol, barddoniaeth a llwybrau celf yn helpu i gysylltu pobl â’r lleoliad lleol. Lle bo’n ymarferol, gallai nodweddion pellach gynnwys golygfeydd cuddfan adar cerfluniol a waliau llifogydd ‘gofod gwylio’ gwydr mewn mannau priodol.

Gellid cyflwyno nodweddion ger Maes Parcio Aberaeron (yn y gofod ger y caffi a’r toiledau cyhoeddus) i greu man i groesawu cerddwyr, defnyddwyr cerbydau ag olwynion a beicwyr. Gallai’r rhain gynnwys mannau parcio beiciau, pwmp beiciau a rennir, byrddau gwybodaeth i dwristiaid a ffynnon ddŵr. Dylai byrddau gwybodaeth dynnu sylw at gysylltiadau ymlaen i Lwybr Arfordir Cymru a llwybrau cerdded a beicio eraill trwy Aberaeron.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill....

Mae Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Gogledd Ynys Portsea wedi’i gynllunio i gydbwyso’r “seilwaith caled” sydd ei angen ar gyfer seilwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol â’r angen i warchod a gwella cynefinoedd ac asedau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r cynllun yn cynnig mynediad gwell, seddi, gosodiadau celf a waliau llifogydd gwydr. Mae hefyd yn ceisio gwella cynefin y blaendraeth ac ymgorffori ardaloedd blodau gwyllt, pyst gwenyn a mwy na 125 o goed brodorol newydd.

Delwedd astudiaeth achos: Cuddfan adar yng nghynllun amddiffyn yr arfordir Gogledd Ynys Portsea

A seafront promeade with seating and a bird hide
×
Delwedd astudiaeth achos: Cuddfan adar yng nghynllun amddiffyn yr arfordir Gogledd Ynys Portsea

Mae’r Plymouth Mayflower Trail yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddarganfod mwy am hanes morwrol yr ardal. Mae llwybr o fyrddau gwybodaeth yn adrodd hanes glan y môr bob hyn a hyn ar hyd llwybr cerdded arfordirol gwastad hanner cylch a hygyrch. Mae’r arwyddion ‘monolith’ hefyd yn cysylltu ag ap taith gerdded sy’n darparu gwybodaeth bellach. Mae’r prosiect hwn yn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer sut y gellid dathlu yn well hanes Aberaeron fel prif borthladd masnachu a chanolfan bioamrywiaeth yn nhir y cyhoedd.

Delwedd astudiaeth achos: Plymouth Mayflower Trail (Visit South Devon)

An informational sign made from metal at the Mayflower steps, with the sea in the background
×
Delwedd astudiaeth achos: Plymouth Mayflower Trail (Visit South Devon)

Mae prosiect Blodau Gwyllt Arfordirol Swydd Gaerhirfryn wedi helpu i adfer ardal o laswelltir arfordirol pwysig ar hyd Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Rossall. Cyflwynodd y prosiect ardal fawr o laswellt blodau gwyllt ar hyd y cynllun amddiffyn rhag y môr a’i gysylltu â’r ardaloedd “gwyrddach” o’r arfordir ar gyrion y dref. Cafodd rhywogaethau lleol o flodau gwyllt arfordirol sy’n gyfeillgar i beillwyr eu hadu a’u cyfuno i greu cymysgeddau ‘Pant’, ‘Glaswelltir Arfordirol’ a ‘Charu Gwenyn’ a’u hau yn ardaloedd mwyaf priodol y cynllun. Mae glan y môr bellach wedi’i ddynodi’n ardal ecolegol bwysig o laswelltir. Mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn mwynhau glan môr gwyrddach, ac mae’r cynllun yn cynnwys gwaith celf a llwybr barddoniaeth newydd.