Menu

Sgwâr y Farchnad Tregaron

×

Pwrpas

Ceisio cydbwysedd iachach rhwng cerbydau a phobl yn Sgwâr y Farchnad Tregaron. Byddai hyn yn rhyddhau lle ar gyfer gweithgareddau gwyrddu, digwyddiadau ac i bobl gerdded, beicio a chwrdd yng nghanol y dref. Yn ystod misoedd yr haf gallai’r gofod groesawu ymwelwyr ar droed, beic neu gar yn barod i ‘aros am dipyn’ a chrwydro busnesau lleol. Byddai hyn yn helpu i hybu proffil Tregaron fel y ‘porth i’r Mynyddoedd Cambrian’.

Cyflawni

Partneriaid posibl: Cyngor Tref Tregaron, busnesau lleol.

Cost ddangosol: £250 – 300,000 (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)

Disgrifiad

Sgwâr y Farchnad Tregaron heddiw

Colourful buildings from road leading to a market square.
×
Sgwâr y Farchnad Tregaron heddiw

Statue and buildings in historic market square.
×

Byddai creu ardal i gerddwyr neu ail-neilltuo gofod i leihau dominyddiaeth ceir yn Sgwâr y Farchnad Tregaron yn golygu y gallai’r gymuned ddefnyddio ardal y farchnad ar gyfer digwyddiadau, seddi awyr agored ac i gymdeithasu.

Mae’r sgwâr eisoes wedi cael ei gau dros dro i geir er mwyn gwneud lle ar gyfer digwyddiadau fel Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg TregaROC. Bydd hefyd yn ganolbwynt ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Fodd bynnag, byddai ail-neilltuo gofod yn fwy parhaol a chreu tramwyfa i gerddwyr yn gwella mynediad a symudiad.

Gellid cyflawni hyn trwy ymyriadau megis cyrbau isel a phalmentydd unedig – yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd. Gellid cyflwyno seddi o ansawdd uchel wedi’u hintegreiddio â phlanwyr i greu ardal groesawgar ar gyfer picnics ac i fusnesau lifo allan i’r sgwâr.

Roedd tirweddau bryniog gwyrdd trawiadol Tregaron yn ei gwneud yn boblogaidd ar gyfer gwyliau merlota yn y gorffennol. Heddiw, gallai annog gwyliau beicio ac e-feic yn yr ardal fod yn ffordd o rannu’r dirwedd leol ag ymwelwyr. Byddai cyflwyno cyfleusterau storio beiciau a chyfleusterau ategol yn rhoi lle i feicwyr lleol a beicwyr sy’n ymweld â’r ardal ac yn mynd trwy’r dref ymgynnull neu aros a chrwydro’r busnesau, caffis a siopau lleol.

Drwy greu man penodol sy’n croesawu beiciau, gallai Tregaron fod yn ‘borth’ ar gyfer mwynhau gweithgareddau awyr agored yn nhirwedd y Cambrian gerllaw, a fyddai’n rhoi hwb i’r economi ymwelwyr. Gallai cyfleusterau ychwanegol gynnwys ffynnon ddŵr, pwyntiau gwefru solar ar gyfer e-feiciau, pwmp beiciau ac offer cynnal a chadw a rennir.

Mae’r sgwâr wedi’i leoli ger y maes parcio cyhoeddus ac felly byddai’n gwasanaethu fel mynedfa i’r dref o’r Arhosfan Aire (Gweler Prosiect 4) ar Gynllun Gweithredu Tref Tregaron.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill

Mae marchnad Llanymddyfri wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Mae wedi’i hamgylchynu gan dafarn ddeniadol, neuadd y dref a busnesau lleol a all orlifo i’r gofod i gerddwyr. Mae plannu meddal ger yr heneb yn helpu i ‘wyrddu’r’ gofod.

Dylai Tregaron ystyried adfer mwy o nodweddion sgwâr marchnad y dref ac ehangu gofod i gerddwyr o fewn ardal hanesyddol canol y dref.

Stone square surrounded by colourful historic buildings and a planter
×