Menu

Cyflawni rhwydwaith SGG Ceredigion

Er mwyn cyflawni rhwydwaith SGG cryfach, mwy gwydn a mwy cydgysylltiedig yng Ngheredigion, bydd angen cydweithredu rhwng ystod o bartneriaid newydd a rhai sy’n bodoli eisoes. Ni all y Cyngor wireddu’r prosiectau uchelgeisiol a amlinellir yn y Cynlluniau Gweithredu Tref ar ben ei hun. Bydd angen dull cyfannol, seiliedig ar bartneriaeth arnynt.

Mae darparu rhwydwaith SGG o’r fath yn mynd y tu hwnt i gyflwyno mesurau “caled” – fel tirlunio neu blannu newydd. Daeth yn amlwg trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol angerddol yng Ngheredigion na fydd llwyddiant yn bosibl heb weithredu’r mesurau ategol “meddal” angenrheidiol. Mae’r rhain yn darparu’r “glud” sy’n galluogi’r prosiectau a nodwyd i gael eu cyflawni a’u cynnal yn effeithiol. Byddant hefyd yn darparu adnodd allweddol ar gyfer cynllunio strategol parhaus ar gyfer rhwydwaith SGG Ceredigion yn y dyfodol.

Gyda hyn mewn golwg, mae’r adran hon yn nodi dau Fecanwaith Cyflawni ar gyfer cyflawni’r chwe Chynllun Gweithredu’r SGG a nodir yn y Strategaeth hon. Maent ar ffurf argymhellion y dylid eu datblygu fel piler cymorth hollbwysig ar gyfer y prosiectau.

Mecanwaith 1: Partneriaeth cyflawni strategol

Pwrpas

Cysylltu prif bartneriaid cyflawni SGG yng Ngheredigion. Mae cynghorau tref a grwpiau lleol eraill yn aml yn gyfoethog o ran syniadau, ond nid oes ganddynt y sgiliau na’r amser i neilltuo ffrydiau ariannu, ysgrifennu ceisiadau am gyllid, llenwi ffurflenni na chysylltu â phartneriaid cyflawni.

Disgrifiad

Er gwaethaf eu hangerdd dros SGG ac achosion amgylcheddol, mae partneriaid lleol yng Ngheredigion yn aml yn cyfeirio at “flinder gwirfoddolwyr”. Mae pryderon sylweddol hefyd ynghylch cyfyngiadau capasiti ac adnoddau ar gyfer cynnal a chadw asedau SGG presennol a newydd yn barhaus. Roedd hon yn thema allweddol yn y sgyrsiau â gafwyd â rhanddeiliaid lleol yn ystod datblygiad y Strategaeth hon.

Gallai camau gweithredu i roi’r math hwn o bartneriaeth ar waith gynnwys:

  • Ariannu a chreu swyddi newydd o fewn Cyngor Ceredigion i arwain y bartneriaeth. Byddai’r unigolion hyn yn cadw cyfeirlyfr o brosiectau SGG parhaus ar draws y Sir – gan gynnwys y rhai sydd ar y cam “syniad”. Byddent yn gyfrifol am greu a chynnal cysylltiadau â phartneriaid mewn trefi targed a’r prif bartneriaid cyflawni. Byddent hefyd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol – yn unol â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Strategaeth hon. Byddent yn casglu tystiolaeth ac yn neilltuo “cronfeydd” arian a llwybrau ar gyfer ariannu prosiectau. Byddai’r rôl hon yn bwysig o ran cysylltu’r amrywiol actorion sy’n ymwneud â’r rhwydwaith SGG ac ysgwyddo rhywfaint o’r llwyth gweinyddol sylweddol sy’n gysylltiedig â gwireddu’r prosiectau.
  • ‘Teithiau cerdded’ o gwmpas y dref a sesiynau rhannu gwybodaeth wedi’u trefnu rhwng actorion o wahanol ardaloedd o’r Sir. Byddai hyn yn rhoi cyfle i bartneriaid rannu’r gwersi a ddysgwyd a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni prosiectau. Byddai hyn yn helpu i leihau dyblygu gwaith ac yn cefnogi meithrin sgiliau.

Yng Ngheredigion, y partneriaid allweddol i ymgysylltu â nhw fel rhan o’r fenter hon (nid yw’n rhestr gyflawn) fyddai:

  • Partneriaid cenedlaethol: Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Llywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Natur, Sustrans, Dŵr Cymru.
  • Partneriaid lleol: Cyngor Sir Ceredigion, prifysgolion yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan, partneriaethau sy’n bodoli eisoes (gan gynnwys Partneriaeth Natur Leol Ceredigion a Rhwydwaith Dysgu yn yr Awyr Agored Ceredigion), Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol lleol.
Astudiaeth achos: partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent

 

Logo for the Gwent Green Grid partnership.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn Sir Fynwy yn brosiect partneriaeth arloesol sy’n ceisio gwella a datblygu seilwaith gwyrdd a darparu cyfleoedd swyddi gwyrdd yn yr ardal leol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda nifer o bartneriaid eraill – gan gynnwys cynghorau tref, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy. Nod y sefydliadau hyn yw gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod adnoddau naturiol yr ardal yn iach, yn wydn ac yn gallu darparu buddion iechyd a llesiant hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

O ran llywodraethu – mae Bwrdd Partneriaeth yn ei le i olrhain cynnydd, nodi cyfleoedd ar gyfer gwerth ychwanegol a sicrhau dull hirdymor o gyflawni prosiectau. Mae Cydlynydd Iechyd a Llesiant Rhanbarthol yn hyrwyddo mentrau ar gyfer llesiant trigolion ledled Gwent – gan gynnwys presgripsiynu iach, mentrau tyfu cymunedol a grwpiau amgylcheddol.

Darn allweddol arall o waith yw datblygu cyfres o Goridorau Gwyrdd strategol ar draws Sir Fynwy – gan nodi cysylltiadau coll yn y rhwydwaith mynediad a chefnogi arfer gorau ar draws y rhanbarth.

Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Arweinydd Cydweithio a’i gefnogi gan nifer o Swyddogion Prosiect a Cheidwaid dan Hyfforddiant.

Ariennir y gwaith trwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Mecanwaith 2: Cynllun cynnal a chadw am oes, sgiliau a hyfforddiant

Pwrpas

Hyfforddi pobl leol i weithredu a chynnal a chadw prosiectau SGG. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ac adnoddau, sy’n ei gwneud yn anodd dyfarnu contractau ar gyfer cynnal a chadw prosiectau SGG yn yr hirdymor yng Ngheredigion. Mae hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth feithrin diddordeb a sgiliau yn yr economi werdd, mynd i’r afael â heriau “blinder gwirfoddolwyr” a chefnogi’r agenda werdd ehangach.

Disgrifiad

Dylai’r cynllun hwn fod yn rhan o agenda sgiliau ehangach y Cyngor – gyda ffocws ar yr economi werdd. Byddai’n helpu pobl leol i feithrin y sgiliau y mae eu hangen arnynt i gymryd rhan yn y gwaith o gynnal a chadw’r seilwaith gwyrdd a glas. Gellid ei integreiddio â mentrau cyfatebol, megis Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru, Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd y GIG neu Newydd i Natur (Groundwork). Dylai ffocws cynllun o’r fath fod yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch y dirwedd sgiliau yng Ngheredigion a’i dargedu at ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol presennol. Mae’n cynnig y cyfle i helpu i atal allfudiad pobl ifanc o Geredigion.

Gallai’r cynllun ymgorffori’r defnydd o ‘hybiau’ cymunedol sydd wedi’u hymgorffori yn y cymunedau. Gellid defnyddio’r hybiau hyn i rannu offer, cynllunio gwaith cynnal a chadw a chysylltu grwpiau gwahanol o wirfoddolwyr. Byddent hefyd yn gyfle gwerthfawr i adeiladu rhwydweithiau cymunedol, annog gwirfoddoli a mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol.

Astudiaeth achos: Grid Naturiol Plymouth

 

Group of 12 apprentices from the Plymouth Green Grid project, some with hard hats, standing against a wall.

Mae prosiect Grid Naturiol Plymouth yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Dinas Plymouth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r fenter gymdeithasol Real Ideas.

Sicrhaodd y prosiect £1.2m o Gronfa Her Adferiad Gwyrdd Llywodraeth y DU i gyflawni prosiect gwella ac adfer cynefinoedd dros 19 mis (2021-2023). Ei brif nod yw creu swyddi i bobl ifanc, ymgysylltu â chymunedau lleol a gwella bioamrywiaeth. Bydd hyn yn gweithio tuag at wella mynediad i fannau natur, gwarchod yn erbyn hinsawdd, a chyflogaeth yn y sector gwyrdd.

Mae pwyslais mawr hefyd ar hygyrchedd a chynhwysiant, gyda gweithgareddau wedi’u targedu at ardaloedd trefol mwy difreintiedig Plymouth. Y nodau allweddol yw:

  • Gwella tir trwy wella cynefinoedd a chadwraeth natur.
  • Creu swyddi newydd, gan gynnwys prentisiaethau a lleoliadau ‘hyrwyddo’ i bobl ifanc.
  • Cyfleoedd dysgu achrededig tymor byr.
  • Cysylltu pobl â natur a chodi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.

Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion Cyngor Dinas Plymouth, ceidwaid trefol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac arweinwyr rhaglen Real Ideas. Mae hefyd yn cynnwys 15 o gynorthwywyr prosiect (“Hyrwyddwyr”, 18-24 oed).