Menu

Egwyddor 2: Llunio mannau cyhoeddus ffyniannus

Sut gall SGG helpu i lunio mannau cyhoeddus ffyniannus?

Delwedd: Ardal glan yr afon yn Aberteifi.

Planting, bike racks and a blackboard on the riverfront, with buildings visible on the other side of the river
×
Delwedd: Ardal glan yr afon yn Aberteifi.

Gall seilwaith gwyrdd a glas wneud cyfraniad pwysig at wella ansawdd a’r ymdeimlad o le – a elwir weithiau’n ‘creu lleoedd’.

Mae “creu lleoedd” yn golygu gwella man cyhoeddus mewn anheddiad trwy ddeall beth sy’n gwneud cymuned leol yn unigryw. Dylai ystyried sut mae pobl yn defnyddio eu mannau cyhoeddus presennol a pha welliannau y byddai’r gymuned yn elwa fwyaf ohonynt.

Yn ei waith ar yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol ar gyfer ardaloedd trefol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi pwyslais cryf ar ailfeddwl o ddifrif am ddylunio, trafnidiaeth a chynllunio trefol er mwyn er mwyn gallu gweld ardaloedd trefol fel ‘ecosystemau trefol’ sydd ar flaen y gad o ran mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur. Byddai hyn yn gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol trwy ddylunio mannau trefol tawel, diogel, glân a gwyrdd.

Yng Ngheredigion, lle mae twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi ehangach, mae gwerth creu lleoedd ar gyfer hybu’r economi ymwelwyr yn ystyriaeth bwysig.

Mae nodweddion treftadaeth yn rhan allweddol o unrhyw rwydwaith SGG (gweler y map rhyngweithiol). Maent yn helpu i adrodd stori lle, y dirwedd o’i amgylch, a sut mae defnydd tir wedi newid dros amser.

Mae pandemig Covid 19 wedi cyflymu’r tueddiadau hanesyddol o ddirywiad y stryd fawr draddodiadol a chanol trefi yn gyffredinol. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o siopau gwag yng nghanol trefi ar draws y DU.

Bu twf sylweddol mewn siopa ar-lein a phatrymau gweithio gartref gan arwain at gau siopau ac ail-bwrpasu gofod swyddfa. Yn erbyn y cefndir hwn, mae dull dan arweiniad SGG o greu lleoedd yn dod yn opsiwn cynyddol ddeniadol wrth ailystyried rôl a swyddogaeth newidiol ardaloedd trefol.

Mae’r tueddiadau hyn yn gorfodi awdurdodau lleol yn fwy nag erioed o’r blaen i ailfeddwl am siâp a phwrpas canol trefi a sut i ymateb yn gadarnhaol i newidiadau tymor hwy. Mae hyn yn debygol o edrych y tu hwnt i fanwerthu ac ystyried defnyddiau preswyl, hamdden, addysg a chymunedol – y gall pob un ohonynt elwa o gael ffocws adfywio a arweinir yn fwy gan y SGG.

Beth mae polisi cenedlaethol a rhanbarthol yn ei ddweud?

Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Polisi 2 (Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol) yn gofyn am dwf ac adfywiad trefi i lunio lleoedd cynaliadwy, wedi’u hintegreiddio â seilwaith gwyrdd. Dylai hyn gael ei lywio gan Asesiad Seilwaith Gwyrdd yr awdurdod cynllunio.

Mae gan ddau nod a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 oblygiadau ar gyfer creu lleoedd hefyd:

  • ‘Cymru o gymunedau cydlynus’
  • ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Mae’r Ddeddf yn diffinio cymuned gydlynus fel cymuned ddeniadol, hyfyw, ddiogel, sydd â chysylltiadau da. Lawn bwysiced yw hyrwyddo’r hyn sy’n gwneud Cymru’n unigryw – cymdeithas sy’n hybu ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Mae’n sôn am integreiddio seilwaith gwyrdd fel canlyniad creu lleoedd allweddol a rhan annatod o’r broses ddylunio. Dylai’r broses ddarparu ‘mannau unigryw a naturiol’. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau manteision seilwaith gwyrdd ehangach ar hyd rhwydweithiau trafnidiaeth.

Beth mae polisi lleol yn ei ddweud?

Mae Polisi LU24 Cynllun Datblygu Lleol presennol Ceredigion (Darparu Mannau Agored Newydd) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu mannau agored ychwanegol lle bo’n briodol fel rhan o ddatblygiad newydd. Mae Polisi LU17 (Cyfleusterau/Atyniadau Twristiaeth) yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys mesurau ecogyfeillgar wrth ehangu’r sylfaen dwristiaeth.

Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd 2020 Ceredigion yn nodi’r amcanion canlynol yn ymwneud ag ansawdd lle:

  • Mynd i’r afael â’r datgysylltiad daearyddol rhwng ardaloedd trefol Ceredigion a safleoedd dynodedig daearol y Sir.
  • Gwella asedau SG yn yr harbyrau a’r ardaloedd o’u cwmpas.
  • Gwella mynediad i’r rhwydwaith afonydd trwy ehangu llwybrau cerdded a beicio.
  • Darparu ar gyfer anghenion hamdden Ceredigion trwy asedau SG.

Mae’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd hefyd yn nodi ardaloedd pwysig lle gall SG gyfrannu at ymdeimlad o le, trwy wneud y canlynol:

  • Pylu llygredd sŵn.
  • Cysylltu amgylcheddau lleol.
  • Gwella amwynderau gweledol.

Mae cyfres o gyfleoedd ychwanegol wedi’u nodi yn y Cynlluniau Lle lleol ar gyfer pob un o drefi Ceredigion. Mae hyn yn cael ei ysgogi gan ddull cenedlaethol “o’r gwaelod i fyny” at gynllunio cymunedol yng Nghymru. Pan fydd y cynlluniau wedi’u mabwysiadu, byddant yn gweithredu fel Canllawiau Cynllunio Atodol o dan y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r cynlluniau hyn yn rhoi cyfle i’r gymuned leol gydweithio a thrafod beth sydd angen iddo ddigwydd er mwyn gwneud eu lleoedd y gorau y gallant fod gan gynnwys cyfleoedd i wella’r seilwaith gwyrdd a glas.

Beth yw’r heriau a’r pwysau y mae angen i’r Strategaeth SGG hon roi sylw iddynt?

Mae ‘ymdeimlad o le’ Ceredigion – a’r potensial ar gyfer cysylltu â’r amgylchedd naturiol – yn un o asedau mwyaf gwerthfawr y Sir. Mae’r rhan fwyaf o’r arfordir o werth tirwedd uchel ac mae’n rhan annatod o gymeriad ehangach Ceredigion a’r economi twristiaeth. Dangosodd Asesiad Llesiant Ceredigion fod 94% o drigolion yn “fodlon gyda’u hardal leol” – y ganran uchaf yng Nghymru.

Mae dynodiadau pwysig yn cynnwys 35 cilometr o Arfordir Treftadaeth Forol, 4 tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig, yn ogystal â rhwydwaith o erddi hanesyddol, henebion ac ardaloedd cadwraeth (gweler y map rhyngweithiol am ragor o fanylion).

 

“Gallai balchder dinesig gael ei adeiladu ar y pwyslais lleol a’r agwedd cyfeillgar i’r blaned sydd yn ein sir.”

– Sylwadau rhanddeiliaid (arolwg)

 

 

Delwedd: Cysylltiad â’r dŵr yn Aberystwyth.

River, riverside, boats and colourful buildings.
×
Delwedd: Cysylltiad â’r dŵr yn Aberystwyth.

Fodd bynnag, mae llawer o le i wella – yn enwedig o ran helpu Ceredigion i addasu i dueddiadau tymor hwy. Dangosodd y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth hon fod diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael o fewn y rhwydwaith SGG i drigolion a thwristiaid a sut i gael mynediad i’r nodweddion hynny. Mae hyn yn cynnwys arwyddion gwael mewn rhai mannau a chyfle a gollwyd i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol i hybu twristiaeth gynaliadwy.

Cafodd ‘llwybrau gwyrdd’ i gysylltu lleoedd trwy gerdded a beicio ei nodi fel cyfleoedd pwysig, yn ogystal â gwella ansawdd a chynnal a chadw ardaloedd arfordirol. Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch yr effeithiau y gallai gweithgareddau hamdden mewn lleoliadau sensitif eu cael ar fywyd gwyllt (lle gallai nifer yr ymwelwyr greu tarfu gan gŵn a sbwriel ymysg yr effeithiau eraill).

 

Delwedd: Adnoddau dynodi llwybr digidol presennol yng Ngheredigion.

Digital billboard in the street with instructions on how to use an app to find destinations and routes around the local area.
×
Delwedd: Adnoddau dynodi llwybr digidol presennol yng Ngheredigion.

Mae cyfle mawr hefyd i wella ansawdd lle yn nhrefi Ceredigion eu hunain – gan eu gwneud yn fwy deniadol fel ‘mannau aros am dipyn’ i’r rhai sy’n mwynhau’r tirweddau o’u cwmpas. Byddai hyn yn rhoi hwb sylweddol i economïau lleol a allai ei chael hi’n anodd fel arall yn wyneb y newid mewn economeg lle – mae Asesiad Llesiant Ceredigion yn dangos sut mae Ceredigion yn ddibynnol iawn ar ficrofusnesau neu fusnesau bach, a chafodd pandemig Covid effaith fawr ar dwristiaeth a’r sectorau lletygarwch.

Mae asesiadau presennol o’r rhwydwaith SGG yn nodi ei bod yn ymddangos bod asedau SGG gweddol gyfyngedig yn nhrefi Ceredigion, ac eithrio Aberystwyth. Mae canfyddiad bod rhai o’r canol trefi hyn yn dirywio, ac mae rheolaeth wael o fannau gwyrdd yn her.

Mae gwaith sydd wedi’i wneud hefyd wedi dangos potensial harbyrau o ran creu canolbwynt yn y dref ac ymdeimlad o le – gan helpu i ennyn diddordeb pobl, yn enwedig o ran creu cysylltiad cryfach â’r amgylchedd “glas”.

Delwedd: Golygfa stryd a chaffis yng nghanol tref Aberteifi

Town centre pedestrianised street with cafe and people sat at outdoor seating.
×
Delwedd: Golygfa stryd a chaffis yng nghanol tref Aberteifi

Crynodeb o’r materion allweddol

  • Yr angen i adeiladu ar y sylfaen o ‘ymdeimlad o le’ cryf yng Ngheredigion trwy ddarparu cysylltedd gwell rhwng trefi Ceredigion a’r tirweddau uchel eu gwerth o’u cwmpas.
  • Ansawdd lle gwael a phrinder asedau SGG o fewn rhai o ganol trefi Ceredigion – wedi’i waethygu gan reolaeth a chynnal a chadw gwael.
  • Pwysigrwydd ‘llwybrau gwyrdd’ ar gyfer cerdded a beicio i gysylltu lleoedd.
  • Pryderon ynghylch cydbwyso gwneud gwelliannau i leoedd ag unrhyw effeithiau pwysau hamdden ar gynefinoedd mwyaf sensitif Ceredigion.
  • Potensial cael ardaloedd harbyrau ac arfordirol sydd wedi’u gwella a’u hadfywio i gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r amgylchedd “glas”.