Rhwydwaith SGG Ceredigion heddiw
Mae’r rhan hon o’r wefan yn rhoi trosolwg o sut mae rhwydwaith SGG Ceredigion yn perfformio heddiw. Mae wedi’i fframio gan gyfres o 4 Egwyddor sy’n ymateb i’r heriau presennol ac yn arwain y Cynlluniau Gweithredu a ddarperir ar gyfer pob tref.
Mae’r dudalen Ceredigion yn ei chyd-destun yn rhoi trosolwg o’r Sir gyfan.
Y pedair Egwyddor yw:
- Gwneud lle i fyd natur
- Llunio mannau cyhoeddus ffyniannus
- Creu cymunedau hapus ac iach
- Cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd
Trwy glicio ar bob egwyddor yn ei thro, fe welwch y canlynol:
- Crynodeb yn esbonio pam fod yr egwyddor hon yn bwysig.
- Crynodeb o bolisïau cenedlaethol a lleol allweddol sy’n gysylltiedig â’r egwyddor.
- Crynodeb o’r materion allweddol y bydd y Strategaeth yn rhoi sylw iddynt.