Menu

Llandysul

Trosolwg o gyfleoedd SGG ar gyfer Llandysul

- Download image

×

Trosolwg o Landysul

Parc Coffa a Chae Chwarae Tirdref, Stallion Valley

×
Parc Coffa a Chae Chwarae Tirdref, Stallion Valley

Mae Llandysul yn dref farchnad fach o oddeutu 2,700 o bobl (yn ôl cyfrifiad 2011) wedi’i lleoli i’r gogledd o Afon Teifi ac yn ffinio â Sir Gaerfyrddin. Saif y dref yn yr ardal drawsnewidiol rhwng dyffryn llydan siâp U Canol y Teifi a llethrau a cheunentydd mwy caeedig, coediog y rhannau isaf.

Mae’r dref wedi’i rhannu’n ganolfan hanesyddol (ar ymyl y gorlifdir, ar waelod llethrau serth) a datblygiad modern (a elwir The Beeches, ar y llwyfandir uchel). Mae’r gorlifdir cul, gan gynnwys tir o fewn doleniad mawr, heb ei ddatblygu ac mae’n darparu lle ar gyfer parc a chae chwarae.

Daw enw’r dref o Sant Tysul, a roddodd yr enw i “Eglwys Ganrif” y dref. Roedd twf diweddarach yn gysylltiedig â’r fasnach wlân yng Nghymru. Roedd melinau’n cael eu pweru gan y nentydd cyflym yn yr ardal leol. Heddiw mae’r asedau “glas” hyn yn gwneud Llandysul yn lle poblogaidd ar gyfer canŵio gyda’r dref yn gartref i’r clwb canwio Llandysul Paddlers.

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 82 a llwybrau beicio Cyngor Sir Ceredigion yn rhedeg trwy’r dref. Mae’r rhain yn darparu cysylltiadau trwy ddyffryn Teifi tuag at Aberteifi i’r gorllewin ac i’r gogledd trwy Lanbedr Pont Steffan a Thregaron.

Mae Llandysul wedi’i nodi fel rhan o Ardal Twf Rhanbarthol Dyffryn Teifi – yn Dyfodol Cymru: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.

 

“Yn sicr mae yna nifer o lwybrau gwyrdd a mannau gwyrdd da, ond dyw’r rhain ddim yn cael eu rheoli gan unrhyw fath o grŵp neu asiantaeth gydlynu.

– Rhanddeiliad, arolwg ar-lein

 

Gweler Atodiad B am grynodeb o’r holl sylwadau gan randdeiliaid.

Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Llandysul?

Mynediad cerdded a beicio: Mae topograffeg serth y dref yn her ar gyfer teithio llesol, yn enwedig ar gyfer aelodau o’r gymuned sydd â phroblemau symud. Fodd bynnag, gallai argaeledd a phoblogrwydd cynyddol e-feiciau helpu i oresgyn yr her hon. Mae’r nifer cyfyngedig o groesfannau ar draws Afon Teifi (sy’n chwarae rôl bwysig o ran cysylltu Llandysul â Phontweli i’r de o’r afon) yn achosi heriau cysylltedd pellach.

Economi canol tref: Mae’r her o ddenu pobl i ganol tref Llandysul wedi’i gwaethygu gan gau’r farchnad da byw a’r banciau. Mae Swyddfa’r Post hefyd wedi symud allan o’r stryd fawr. Cafodd hyn effeithiau negyddol ar fusnesau lleol bach sefydledig. Bydd creu gweledigaeth o ganol tref sy’n gyfoethog o ran natur, yn ddeniadol ac yn hygyrch trwy gerdded a beicio i gynifer o aelodau’r gymuned â phosibl yn helpu i ailsefydlu canol tref ffyniannus.

Ansawdd dŵr: Lleolir Llandysul ar hyd rhannau isaf Afon Teifi, lle mae lefelau ffosfforws yn achosi heriau difrifol. Dangosodd yr asesiad diweddaraf o ansawdd dŵr afonydd yn erbyn targedau ffosfforws fod y lefelau yn uwch na’r targedau ar hyn o bryd yn Llandysul oherwydd llwytho cronnol. Mae ansawdd dŵr Cerdin, Tyweli a Theifi yn parhau i fod o ansawdd “uchel” ar gyfer paramedrau cemegol eraill. Asesir bod y dŵr o ansawdd “da” yn nhermau biolegol.

Perygl o lifogydd: Mae cymuned Llandysul wedi bod yn destun nifer o lifogydd dinistriol. Mae’r rhain yn cynnwys Storm Callum yn 2018, pan effeithiwyd ar nifer o eiddo preswyl a masnachol a chaewyd ffyrdd. Mewn ymateb, lansiodd Cynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddigwyddiad ymgynghori yn cyflwyno’r opsiynau ar gyfer lliniaru llifogydd yn y dref. Ar adeg ysgrifennu, mae’r ymgynghoriad hwn yn fyw ac yn cyflwyno nifer o opsiynau ar gyfer lliniaru. Mae’r rhain yn amrywio o atebion peirianneg “caled” i reoli llifogydd yn naturiol

Gorchudd coed: Llandysul sydd â’r gorchudd coed cyffredinol isaf o holl ardaloedd trefol Ceredigion. Yn ôl data CNC, mae’r gorchudd yn llai na 10% o fewn y dref ei hun. Mae hyn yn gwneud yr ardal yn llai gwydn i wrthsefyll newid hinsawdd. Dylai archwilio cyfleoedd ar gyfer plannu coed a chreu coetir yn Llandysul fod yn flaenoriaeth allweddol.

Prosiect blaenllaw: Parc Coffa a Thaith Gerdded Gylchol ar Lan yr Afon

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler y dudalen benodol ar gyfer y prosiect blaenllaw Parc Coffa Llandysul a Thaith Gerdded Gylchol ar Lan yr Afon.

Illustration showing people walking down footpaths surrounded by trees and a river walkway
×

Pwrpas: Cyflwyno pont droed a llwybr cerdded ar lan yr afon i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhwng cyrchfannau allweddol yn Llandysul. Byddai llwybr ar lan yr afon yn helpu i sefydlu coridor llawn natur, yn cynnig cyfleoedd i ryngweithio ag afon y dref, ac yn darparu ateb seiliedig ar natur o reoli’r perygl o lifogydd.

 

Prosiect 2: Tyfu bwyd cymunedol The Beeches

Pwrpas: Annog tyfu a rhannu bwyd cymunedol a chreu rhwydwaith siriol o blannu bwytadwy trwy gymdogaethau mwy difreintiedig Llandysul.

Enghraifft o ofod tyfu cymunedol

A young child with a smartphone looking at a space where vegetables are growing
×
Enghraifft o ofod tyfu cymunedol

Partneriaid posibl: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Chaledi Cyngor Sir Ceredigion, Ieuenctid Tysul Youth, Yr Ardd, The Orchard Project.

Disgrifiad: Mae Llandysul eisoes yn elwa o dipyn o frwdfrydedd lleol dros dyfu bwyd cymunedol, a arweinir gan y prosiect tyfu bwyd cymunedol Yr Ardd. Mae diddordeb hefyd mewn treialu cynlluniau tyfu bwyd maestrefol mewn cymdogaethau incwm is y dref, fel cymdogaeth The Beeches.

Dylai cynllun cymdogaeth gael ei arwain gan y gymuned leol a’i gefnogi gan grwpiau sy’n gallu rhannu gwybodaeth, cyllid, amser neu adnoddau.

Mae strydoedd bwyd cymunedol (a elwir hefyd yn ‘gymdogaethau bwyd bendigedig’) yn aml yn dechrau trwy neilltuo mannau agored nas defnyddir a heb eu caru ar stryd neu mewn cymdogaeth. Yna defnyddir yr ardaloedd hyn ar gyfer plannu gwelyau llysiau, planwyr uchel, coed ffrwythau neu berllannau bach.

Mae sefydlu hybiau cymunedol yn ffyrdd pwerus o rannu offer, dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth, trwy ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar rannu bwyd, cyfnewid hadau neu brydau pop-yp cymunedol. Gellir gwneud cysylltiadau ag ysgolion lleol hefyd. Gyda’i gilydd, byddai hyn yn ysgogi brwdfrydedd lleol dros blannu a thyfu.

Mae llu o fanteision i dyfu bwyd lleol. Mae garddio a thyfu yn adnodd llesiant pwysig, yn arf addysgol i ddysgu sut i dyfu bwyd a deall systemau bwyd lleol, ac yn ffordd wych o gymdeithasu a dod â gwahanol aelodau o’r gymuned at ei gilydd. Mae cyflwyno coed, gwelyau llysiau wedi’u plannu a phlanwyr bwyd hefyd yn dod â lliw, peillwyr a mwy o fioamrywiaeth.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Dechreuodd gardd fwyd gymunedol Squash yn Toxteth (Lerpwl) trwy drawsnewid strydoedd yn y gymdogaeth gan ddefnyddio planwyr tyfu bwyd a choed ffrwythau. Ehangodd yn ddiweddarach trwy blannu gerddi bwyd cymunedol mewn mannau gwyrdd a danddefnyddir. Yn olaf, adeiladodd y prosiect hyb bwyd cymunedol hefyd sy’n gweithredu fel caffi lleol, gofod digwyddiadau cymunedol, lle cyfnewid hadau, siop fwyd, ac mae’n cynnig gwersi mewn coginio iach tymhorol, rhad.

Delwedd astudiaeth achos: Gardd gymunedol Squash (Squash)

Posters on wall with letters spelling SQUASH
×
Delwedd astudiaeth achos: Gardd gymunedol Squash (Squash)

Prosiect 3: Sgwâr canol tref Llandysul a gwyrddu

Pwrpas: Cyflwyno nodweddion plannu deniadol, llawn natur a fydd yn cysylltu cynefinoedd trwy’r dref tra’n darparu ymdeimlad o le meddalach a gwell o fewn mannau dinesig yng nghanol y dref.

Canol Llandysul (Dyfodol Gwledig Cymru)

Llandysul high street with shops and signs either side and string lighting above
×
Canol Llandysul (Dyfodol Gwledig Cymru)

Partneriaid posibl: Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, Cyngor Tref Llandysul.

Disgrifiad: Mae’r system unffordd yn Llandysul yn darparu lle i wella ansawdd mannau cyhoeddus yng nghanol y dref a’u haddasrwydd i gerddwyr er mwyn creu tramwyfa fwy llwyddiannus ar hyd Stryd yr Eglwys, Stryd y Gwynt, y Stryd Fawr, Stryd Lincoln a Stryd y Brenin.

Gellid cyflawni hyn trwy ymyriadau sy’n gyfeillgar i gerddwyr megis cyrbiau isel a phalmentydd unedig, yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd. Ar Heol y Bont, byddai cyfleoedd i wella croesfannau cerddwyr a lledu palmentydd yn creu canol tref mwy cerddadwy ac yn mynd i’r afael â’r tor-gysylltiad a grëwyd gan briffyrdd rhwng canol y dref, Llandysul Paddlers, a Phontweli.

Dylai gwyrddu trefol amlswyddogaethol fod yn elfen bwysig o ail-neilltuo’r gofod hwn. Gellid cyflwyno borderi “gardd law“ yn lle cyrbau a bolardiau, gan greu llwybrau deniadol trwy’r dref. Mae’n bwysig bod y nodweddion hyn yn mynd y tu hwnt i werth addurnol er mwyn darparu buddion lluosog, yn bennaf trwy arafu llif y dŵr ffo mewn rhannau o ganol y dref sydd mewn perygl o lifogydd. Gallent hefyd ddarparu’r budd ychwanegol o greu coridor bywyd gwyllt trwy’r ardal drefol.

Gellid ehangu tyfu bwyd cymunedol (gweler Prosiect 2) trwy ganol y dref gyda blychau ffenestr a phlanwyr. Y lleoliadau â blaenoriaeth cychwynnol fyddai’r prif strydoedd fel Stryd yr Eglwys, Stryd y Gwynt, y Stryd Fawr, Stryd Lincoln a Stryd y Brenin.

Ar adeg ysgrifennu, mae Cyngor Tref Llandysul yn ceisio caffael tir yng nghanol y dref i greu sgwâr y dref. Mae’r opsiynau’n cynnwys caffael yr hen waith argraffu, maes parcio a banc i greu sgwâr y dref ar ddwy lefel (rhwng Stryd y Gwynt a Heol Newydd). Byddai creu llwybr gwyrdd deniadol i gerddwyr trwy’r safle hwn yn llwyddo i gysylltu llwybrau o Llandysul Paddlers, trwy gae chwarae Tirdref, yn uniongyrchol i ganol y dref. Byddai hyn yn cynnig y cyfle i gynyddu nifer yr ymwelwyr trwy’r dref ac i blethu mannau gwyrdd yn llwyddiannus trwy ganol y dref.

Byddai sgwâr y dref yn creu man cyhoeddus pwysig ar gyfer digwyddiadau, seddi awyr agored a chymdeithasu. Gellid cyflwyno seddi a phlanwyr integredig i greu lle i’r cyhoedd orffwys a chymdeithasu yn ogystal ag i fusnesau orlifo i’r sgwâr.

Gellir gwneud y gofod yn benodol ‘gyfeillgar i feiciau’ trwy gyflwyno nodweddion fel ffynnon ddŵr, pwyntiau gwefru solar ar gyfer e-feiciau, pwmp beiciau ac offer cynnal a chadw a rennir. Byddai hyn yn rhoi lle i feicwyr lleol a beicwyr sy’n mynd trwy’r dref i ymgynnull neu aros a chrwydro’r busnesau, caffis a siopau lleol. Byddai ffocws ar e-feiciau yn helpu i oresgyn her y dirwedd fryniog o amgylch.

Gyda’i gilydd byddai’r nodweddion hyn yn hybu’r economi ymwelwyr trwy arddangos Llandysul fel lleoliad “porth” i gefn gwlad ehangach.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Yn Llanbedr Pont Steffan gerllaw, mae’r prosiect Bwyd Bendigedig wedi cyflwyno planwyr y tu allan i archfarchnadoedd lleol gyda pherlysiau, saladau, blodau bwytadwy, llysiau a phlanhigion ffrwytho. Yn yr un modd, mae ‘safleoedd bws bwytadwy‘ wedi’u cyflwyno fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth Llundain. Gallai cynllun tebyg gael ei arloesi yn Llandysul i “wyrddu” toeon safleoedd bwys a mannau eistedd.

Mae safleoedd bws gwenyn, sydd â thoeon byw wedi’u gorchuddio â blodau gwyllt a phlanhigion sedum, wedi’u cyflwyno yng Nghaerlŷr, Brighton, Derby, Rhydychen a Henffordd.

Delwedd astudiaeth achos: Safle bws bwytadwy yn Llundain (Carbon Gold)

×
Delwedd astudiaeth achos: Safle bws bwytadwy yn Llundain (Carbon Gold)

Prosiect 4: Gwlyptir Teifi

Pwrpas: Gwella iechyd coridor afon Teifi a darparu ateb seiliedig ar natur i’r perygl o lifogydd trwy greu cynefin gwlyptir yn Llandysul. Gellid defnyddio’r gwlyptir hefyd fel adnodd hamdden, llesiant ac addysgol ar gyfer y gymuned leol.

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Cerdded er Lles, Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Tref Llandysul, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, ysgolion lleol, Cynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin.

Disgrifiad: Mae rhanddeiliaid wedi mynegi diddordeb mewn neilltuo safle ar gyfer gwlyptir yn Llandysul i hybu amddiffynfeydd naturiol y dref rhag llifogydd, cynyddu bioamrywiaeth ac ystyried defnydd addysgol a chymunedol o goridor yr afon.

Bydd angen i bartneriaid y prosiect weithio gyda thirfeddianwyr lleol i neilltuo safle gorlifdir ar goridor afon Teifi ger Stryd yr Eglwys. Byddai hyn yn helpu i liniaru ardaloedd sydd wedi’u neilltuo ar hyn o bryd fel rhai sydd â risg uchel o lifogydd a byddai’n helpu i liniaru’r perygl o lifogydd i lawr yr afon yn Llandysul.

Mae rheoli llifogydd yn naturiol wedi’i nodi fel opsiwn ar gyfer gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn ystod yr ymgynghoriad Llandysul/PontTyweli sy’n mynd rhagddo (ar adeg ysgrifennu). Mae gwaith blaenorol wedi neilltuo tir i’r dwyrain o Afon Teifi (ger fferm Dol Llan) fel lleoliad posibl. Mae opsiynau eraill yn cynnwys lleoliadau ymhellach i fyny’r afon, ymhellach i ffwrdd o’r dref ei hun.

Mae gwlyptiroedd yn cael eu creu gyda pheirianneg feddal er mwyn i ddŵr allu gorchuddio’r pridd mewn ardal reoledig, gan greu cyfres o byllau a mannau dan ddŵr sy’n ffurfio ecosystem briodol ar gyfer plannu llwyni gwlyptir, gweiriau a choed. Mae gwlyptiroedd wedi cael eu galw’n ‘uwch-systemau bioamrywiol’ oherwydd eu bod yn gallu cynnal nifer ac amrywiaeth mawr o rywogaethau. Mae gwlyptiroedd yn arafu llif y dŵr, sy’n lleihau’r perygl o lifogydd dŵr wyneb yn naturiol i lawr yr afon o safleoedd gwlyptir.

Byddai creu gwlyptir yn Llandysul yn lleihau lefel y maethynnau i lawr yr afon o Afon Teifi, gan gynnwys lefel y ffosffadau. Mae hyn oherwydd bod dŵr yn llifo’n araf trwy’r gwlyptir, gyda phrosesau sy’n digwydd yn naturiol yn amsugno, trawsnewid, secwestru, a thynnu ffosffadau, nitradau a chemegau eraill.

Gellid cyflwyno llwybrau pren sy’n cysylltu â llwybr yr afon i ddarparu mynediad i’r safle gwlyptir a gellid archwilio rhaglen lesiant gydag ysgolion lleol. Gellid defnyddio byrddau addysgol hefyd i greu llwybr natur rhyngweithiol trwy’r gwlyptir.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill….

Mae’r prosiect Gwlyptiroedd Integredig yn Swydd Henffordd wedi’i roi ar waith i fynd i’r afael â phroblem llwytho maethynnau (ffosfforws yn benodol) ar ACA Afon Llugwy – yn debyg i’r problemau hynny a gafwyd ar hyd Afon Teifi.

Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu system newydd o wlyptiroedd ar dir drws nesaf i trin carthion Dŵr Cymru / Welsh Water yn Luston. Mae’r gwlyptiroedd hyn yn derbyn dŵr o’r gwaith trin carthion ac yn darparu triniaeth ychwanegol i’r dŵr cyn iddo lifo i Afon Llugwy.

Cyflwynodd y rhaglen ‘SDCau ar gyfer Ysgolion’, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, wlyptiroedd bach mewn deg ysgol mewn dalgylch yng Ngogledd Llundain oedd mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb. Daethant hefyd yn fannau lle gallai myfyrwyr chwarae a dysgu yn yr awyr agored. O ganlyniad, daeth yr ysgolion yn hybiau ar gyfer ailgysylltu’r bobl leol â’u hafon. Gallai rhaglen debyg gael ei harwain gan ysgolion lleol yn Llanbedr Pont Steffan fel rhan o brosiect y gwlyptir ar raddfa fawr, yn canolbwyntio ar ailgysylltu pobl ifanc ag Afon Teifi.

Enghraifft o wlyptir trefol (Ymddiriedolaeth Adar a Gwlyptir)

An urban wetland with water, reed beds and trees
×
Enghraifft o wlyptir trefol (Ymddiriedolaeth Adar a Gwlyptir)

Prosiect 5: Cyrchfan Llandysul

Pwrpas: Cynyddu’r rhyngweithio rhwng pobl leol ac ymwelwyr â’r afon yn Llandysul – gan ddarparu buddion ar gyfer iechyd, llesiant a bioamrywiaeth.

Parc Coffa o Faes Parcio Stryd yr Eglwys

×
Parc Coffa o Faes Parcio Stryd yr Eglwys

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llandysul Paddlers.

Disgrifiad: Mae lleoliad Llandysul ar afon brydferth y Teifi yn gyfle i adeiladu cysylltiad ffyniannus â’r coridor glas hwn ar gyfer pobl leol a thwristiaid. Mae llwyddiant Llandysul Paddlers yn arwydd o’r awydd cynyddol am gysylltiad â natur a’r amgylchedd dŵr. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar gyfres o ymyriadau a fyddai’n hybu’r cynnig i ymwelwyr o Landysul fel cyrchfan natur.

Un o’r opsiynau sy’n cael ei ystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â’r Cynghorau Sir yw ailfodelu’r gorlifdir yn ardal llyn y padlwyr. Y nod yw cynyddu capasiti storio llifogydd a darparu llwybrau gorlif newydd yn ôl i Afon Teifi. Gallai’r ymyriad hwn ddarparu cyfle i ehangu a gwella llyn y padlwyr, gan ehangu a gwella ei swyddogaethau.

Gallai gwella cysylltedd y llyn â’r afon hefyd gynnig cyfleoedd ar gyfer creu gwlyptir o amgylch ei ymylon ac ar gyfer sianeli canŵio neu rafftio newydd. Dylid ystyried newid cysgodfannau a chyfleusterau cawod ar gyfer defnyddwyr hamdden yr afon.

Byddai ffurfioli gofod ar gyfer faniau teithiol a faniau gwersylla yn y dref yn annog nifer cynyddol o ddefnyddwyr cartrefi modur yn yr ardal leol i aros dros nos yn y dref, defnyddio ei chyfleusterau ac ymweld â busnesau lleol. Mae’r maes parcio oddi ar Stryd yr Eglwys yn cynnig un opsiwn – mae wedi’i osod yn erbyn cefndir Parc Coffa a choridor yr afon, gyda thoiledau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda gerllaw. Byddai’r lleoliad o fewn cyrraedd hawdd ar droed i ganol y dref a (gyda phont droed newydd i gerddwyr fel yr amlinellir ym mhrosiect blaenllaw Llandysul) byddai hefyd o fewn taith gerdded fer, ddymunol i lyn y padlwyr a’i gyfleusterau.

Gellid gwella lleoliad y safle trwy blannu coed, seddi meinciau picnic a biniau, mannau gwefru cerbydau trydan a mynediad 24 awr i’r toiledau cyhoeddus. Gallai hyn hefyd roi cyfle i ymgorffori “gerddi glaw“ a nodweddion SDCau eraill wedi’u tirlunio’n feddal yn ardal y maes parcio.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Mae camlesi Trent a Merswy a Coventry yn cwrdd yng Fradley Junction yn Swydd Stafford. Crëwyd gwarchodfa natur, llwybrau coetir hygyrch a phwll pysgota ar y safle er mwyn gwella’r ardal fel cyrchfan, gan adael ymylon corsiog ar gyfer bywyd gwyllt. Defnyddiwyd deunyddiau wedi’u hailgylchu i adeiladu’r llwyfannau pysgota, y seddi a’r llwybrau pren. Bu plant ysgol yn rhan o’r prosiect hefyd gan ddylunio cerfluniau a cherfiadau pren ar gyfer y mannau eistedd.

Mae Cyngor Dosbarth Craven, Swydd Efrog, wedi sefydlu sawl “Aire” (arosfannau ar gyfer cartrefi modur) ar draws ei drefi a’i bentrefi gwledig. Maen nhw wedi cefnogi’r economi ymwelwyr ac yn enwedig economi gyda’r hwyr yr ardaloedd. O ganlyniad, rhoddodd hwb i incwm y Cyngor, gan helpu i wneud yr ardal leol yn fwy diogel a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Delwedd astudiaeth achos: Fradley Junction (Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd)

×
Delwedd astudiaeth achos: Fradley Junction (Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd)