Aberteifi (Aberteifi)
Trosolwg o gyfleoedd allweddol ar gyfer rhwydwaith SGG Aberteifi
Trosolwg o Aberteifi
Cei’r Tywysog Siarl yn edrych dros Afon Teifi
Saif Aberteifi ar lan ogleddol aber Afon Teifi ac mae’n gweithredu fel porth i Ddyffryn Teifi. Mae’r dref yn cael ei henw ‘Aberteifi’ o’i lleoliad yng ngheg (aber) afon Teifi.
Mae’r afon yn llifo allan o ddyffrynnoedd coediog endoredig i’r dwyrain ac yn agor allan i’r môr yn y gorllewin, rhwng pentiroedd creigiog. Mae bryniau tonnog yn amgáu’r anheddiad, gan greu lleoliad agos-atoch.
Mae lleoliad morwrol Aberteifi wedi cael dylanwad pwysig ar ei datblygiad. Tyfodd yr anheddiad yn wreiddiol o amgylch castell Normanaidd a adeiladwyd i amddiffyn cwrs yr afon. Erbyn yr 17eg Ganrif, roedd Aberteifi yn cael ei chydnabod fel un o borthladdoedd pwysicaf Prydain. Heddiw, hon yw ail dref fwyaf Ceredigion gyda phoblogaeth o ychydig dros 4,000.
Mae “asedau glas” y dref wedi llunio cynefinoedd bioamrywiol yn y cefn gwlad cyfagos. Mae’r rhain yn cynnwys corsydd aberol a gorlifdir o bwysigrwydd lleol.
Mae llwybrau teithio llesol yn darparu cysylltedd â’r dirwedd ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys llwybrau arfordirol tuag at Fae Ceredigion a’r hen reilffordd i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru Cilgerran a Chorsydd Teifi. Mae lleoliad Aberteifi ger yr arfordir hefyd yn gwneud y dref yn gyrchfan allweddol i dwristiaid.
Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn nodi bod Aberteifi o fewn Ardal Twf Rhanbarthol Dyffryn Teifi.
“Mae Aberteifi yn dref farchnad hardd sy’n llawn hanes.”
– Rhanddeiliad, arolwg ar-lein
“Mae yna rai mannau bendigedig yn Aberteifi y gellid eu datblygu’n berllannau cymunedol a mannau plannu i roi cyfle i bobl dyfu a phigo bwyd am ddim. Hoffwn i weld y tybiau blodau a’r basgedi yn llawn o blanhigion ac aeron bwytadwy y gall pobl eu pigo.”
– Rhanddeiliad, arolwg ar-lein
Gweler Atodiad B am grynodeb o’r holl sylwadau gan randdeiliaid ar Aberteifi.
Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Aberteifi?
Perygl o lifogydd: Mae rhai ardaloedd o’r dref ger Afon Teifi mewn perygl mawr o lifogydd o’r afon a’r môr. Mae llifogydd dŵr wyneb hefyd yn broblem mewn rhai ardaloedd (gan gynnwys yr ardal o amgylch Stryd Morgan). Her allweddol yw sut i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd heb amharu ar ansawdd y mannau cyhoeddus ar hyd y Strand. Dylid meithrin yr afonydd a’r arfordir fel ased deniadol, hygyrch yn hytrach na’u hystyried yn fygythiad.
Llesiant ac amddifadedd: Mae Aberteifi yn gartref i rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Ceredigion. Mae dwy o dair ward y dref o fewn y 10 i 20% o wardiau mwyaf difreintiedig yn y Sir, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (gweler y map rhyngweithiol). Mae’r ddarpariaeth o fannau gwyrdd yn y dref wedi’i chrynhoi i’r gogledd o Afon Teifi. Ward Teifi, i’r de o Afon Teifi, sydd â’r mynediad gwaethaf i fannau gwyrdd a’r lefelau uchaf o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Rhaid rhoi blaenoriaeth i greu mynediad cyfartal i fannau gwyrdd. Dylai hyn hefyd ganolbwyntio ar ddarparu cysylltedd gwell rhwng mannau gwyrdd presennol.
Cerdded a beicio: Mae Aberteifi yn elwa o gysylltiadau da ar gyrion y dref â Llwybr Teifi a Llwybr Arfordir Cymru. Fodd bynnag, mae mannau gwyrdd canol tref Aberteifi a glan yr afon wedi’u cysylltu’n wael gan lwybrau cerdded, ac mae cysylltiadau gwael â threfi cyfagos fel Llandudoch. O ganlyniad, ceir sy’n dominyddu teithio dyddiol trwy’r dref. Mae angen gwneud cerdded a beicio yn fwy hygyrch a deniadol yn Aberteifi. Fodd bynnag, mae angen cydbwyso hyrwyddo llwybrau teithio llesol â’r angen i gadw’r Stryd Fawr yn hygyrch ar gyfer cerbydau priodol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Gorchudd coed: Mae lefel resymol o orchudd coed ar hyd yr anheddiad. Fodd bynnag, mae hyn i’w weld yn bennaf mewn ardaloedd preswyl dwysedd is, ardaloedd masnachol a mannau agored anffurfiol. Mae gorchudd coed cyfyngedig yng nghanol y dref ac ardaloedd ar gyrion y dref. Er enghraifft, dim ond 2% o orchudd coetir sydd gan Ward Mwldan y dref ar hyn o bryd ac fe’i graddiwyd gan CNC fel un o’r lefelau gorchudd coed lleiaf yng Ngheredigion. Mae angen ehangu gorchudd coed a chysylltedd coetir er mwyn cysylltu’r rhwydwaith gwyrdd.
Ansawdd aer: Er nad yw’n ddifrifol o’i gymharu â safonau cenedlaethol, Aberteifi sydd â’r ansawdd aer gwaethaf o’r prif aneddiadau yng Ngheredigion. Mae Asesiad Gwybodaeth Ddaearyddol Ceredigion yn nodi bod y lefelau PM10 cefndir dros 10. 5µg/m2 – o ganlyniad i geir injan hylosgi a diwydiant. Gall SGG chwarae rôl mewn lliniaru’r ansawdd aer hwn, trwy blannu, cynyddu gorchudd coed a hyrwyddo cerdded a beicio.
Prosiect blaenllaw: Taith Gerdded y Dyfrgi Aberteifi
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler y dudalen benodol ar gyfer y prosiect blaenllaw Taith Gerdded y Dyfrgi Aberteifi.
Pwrpas: Gwella cysylltiad Aberteifi ag Afon Teifi, cynyddu bioamrywiaeth ac ansawdd mannau gwyrdd ar hyd glan yr afon ac annog cerdded i fannau gwyrdd lleol.
Prosiect 2: Tyfu bwyd cymunedol “Bwyd i Bawb”.
Pwrpas: Annog tyfu a rhannu bwyd cymunedol a chreu rhwydwaith siriol o blannu bwytadwy trwy ganol y dref a chymdogaethau mwy difreintiedig Aberteifi.
Maes parcio 4CG
Y Stryd Fawr a Phendre
Partneriaid posibl: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Chaledi Cyngor Sir Ceredigion, Men2Men, Sgowtiaid Aberteifi, Elusen Ieuenctid Ardal 43, Canolfan Plant Jig-so, Men’s Sheds, Canolfan Anabledd Ceredigion.
Disgrifiad: Mae Aberteifi eisoes yn elwa o dipyn o frwdfrydedd lleol i ysgogi cynllun tyfu bwyd cymunedol yng nghanol y dref. Mae awydd hefyd i dreialu cynlluniau tyfu bwyd maestrefol mewn cymdogaethau incwm is yn y dref.
Mae llu o fanteision i dyfu bwyd yn lleol. Mae’n adnodd llesiant pwysig, yn arf addysgol sy’n helpu cymunedau i ddysgu sut i dyfu bwyd ac am systemau bwyd lleol, ac mae ganddo werth mawr i beillwyr a bioamrywiaeth leol.
Gellid arddangos blychau ffenestri “bwytadwy” ar flaenau siopau a gosod planwyr mwy o faint bob hyn a hyn ar hyd y system stryd unffordd. Gallai hyn ddechrau ar y prif strydoedd fel Pendre, Y Stryd Fawr a Stryd y Priordy. Gellid gofyn i grwpiau cymunedol yn Aberteifi greu blychau ffenestr a phlanwyr pren cynaliadwy ‘Bwyd i Bawb’. Dylid cyflwyno gorsafoedd cyfnewid hadau yn y dref, ynghyd â chasgenni dŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer cynnal a chadw planwyr a mynd i’r afael â llifogydd dŵr wyneb.
Y tu allan i ganol y dref dylid treialu cynllun tyfu bwyd yn y gymdogaeth yn un o gymdogaethau incwm isel Aberteifi mewn partneriaeth â’r Strategaeth a Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Chaledi. Dylai cynllun cymdogaeth gael ei arwain gan y gymuned leol a’i gefnogi gan grwpiau sy’n gallu rhannu gwybodaeth, cyllid, amser neu adnoddau. Dylid archwilio diddordeb lleol cychwynnol mewn cymdogaethau gan gynnwys Golwg y Castell, Ridgeway, Bro Teifi, Maesglas neu Bron y Dre.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Yn Llanbedr Pont Steffan gerllaw, mae prosiect Bwyd Bendigedig wedi cyflwyno planwyr y tu allan i archfarchnadoedd lleol gyda pherlysiau, saladau, blodau bwytadwy, llysiau a phlanhigion ffrwytho i bobl helpu eu hunain iddynt.
Mae ‘safleoedd bws bwytadwy‘ wedi’u cyflwyno fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth Llundain. Gellid defnyddio gwersi o’r cynllun hwn i wyrddu toeon safleoedd bws a mannau eistedd yn y ddau safle a chyfnewidfa bws. Byddai hyn yn ysgogi mannau a danddefnyddir, gan roi pwrpas iddynt a man cyhoeddus mwy croesawgar.
Dechreuodd yr ardd fwyd gymunedol Squash yn Toxteth (Lerpwl) trwy drawsnewid strydoedd yn y gymdogaeth gan ddefnyddio planwyr tyfu bwyd a choed ffrwythau. Ehangodd yn ddiweddarach trwy blannu gerddi bwyd cymunedol mewn mannau gwyrdd a danddefnyddir. Yn olaf, adeiladodd y prosiect hyb bwyd cymunedol hefyd sy’n gweithredu fel caffi lleol, gofod digwyddiadau cymunedol, man cyfnewid hadau, siop fwyd a rhywle sy’n darparu gwersi mewn coginio iach tymhorol, rhad.
Mae prosiect Tir Glas Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrthi’n cynllunio hyb bwyd cymunedol yng nghanol y dref. Wrth i’r prosiect hwn fynd rhagddo, dylid rhannu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau lleol rhwng y ddau gynllun.
Delwedd astudiaeth achos: Planwyr bwyd cymunedol “Bwyd Bendigedig “ Llanbedr Pont Steffan
Delwedd astudiaeth achos: Safle bws bwytadwy yn Llundain (Carbon Gold)
Prosiect 3: Perllan Netpool a glan yr afon
Pwrpas: Cynyddu bioamrywiaeth ac ehangu’r ystod o ddefnyddiau cymunedol ym Mharc Netpool.
Mannau gwyrdd yn Netpool
Partneriaid posibl: Coed Cadw; Cyfoeth Naturiol Cymru, ysgolion lleol, grwpiau cymunedol, The Orchard Project, Sgowtiaid Aberteifi, Elusen Ieuenctid Area 43, Canolfan Plant Jig-so.
Disgrifiad: Mae rhanddeiliaid lleol wedi neilltuo lle ar gyfer plannu perllan gymunedol ym mharc Netpool. Mae’n bosibl y gellid lleoli hwn o amgylch un o’r ffiniau mwy gwyllt rhwng y cae chwarae, y mynwentydd a phrif ardal y parc. Byddai perllan gymunedol yn darparu adnodd llesiant ar gyfer y gymuned a byddai plannu ychwanegol yn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd a bioamrywiaeth y safle.
Ar hyn o bryd mae ffiniau’r cae chwarae’n cael eu torri hyd at y glannau a thu hwnt i hynny mae’n troi’n goetir a llwyni llai rheoledig. Ni ddylai plannu rhywogaethau perllan arwain at golli unrhyw rywogaethau coed aeddfed sy’n bodoli eisoes ond gellid eu plannu ymhlith rhywogaethau presennol trwy glirio ardaloedd o brysgwydd. Byddai hyn yn cadw golwg naturiol mwy gwyllt y safle tra’n ysgogi a rheoli’r ardaloedd mwy gwyllt er budd y gymuned.
Byddai llacio’r trefniadau torri gwair presennol a phlannu rhywogaethau blodau gwyllt lleol lle mae’r glannau o amgylch y cae chwarae yn cael eu torri ar hyn o bryd yn gwella bioamrywiaeth y safle. Byddai’n cysylltu coridorau peillwyr ac yn annog mwy o ddefnydd o’r parc trwy ychwanegu mannau wedi’u plannu’n ddeniadol.
Gallai Parc Netpool hefyd ddathlu ei safle ar Afon Teifi. Gallai’r ardal sy’n union gerllaw glan yr afon gael ei phlannu â rhywogaethau o flodau gwyllt, gyda llencyn bach wedi’i adael ar gyfer meinciau picnic ac i greu man gwyrdd tawel ar lan yr afon. Lle mae’r rheiliau’n edrych dros yr afon ar hyn o bryd, gellid symud y llwybrau concrit a gweddillion concrid y bandstand a rhoi wyneb athraidd yn ei le, gellid canolbwyntio’r plannu o amgylch man eistedd newydd sy’n edrych dros yr afon, ac elfennau chwarae mwy anffurfiol fel boncyffion dringo a cherrig mawr i dringo drostynt neu seddi anffurfiol.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae perllannau yn un ffordd o ehangu’r gorchudd coed a darparu swyddogaethau lluosog o fewn y rhwydwaith SGG. Yn benodol, gallant helpu i gyfrannu at y ‘plannu bwytadwy’ y cyfeirir ato ym Mhrosiect 2.
Nod The Orchard Project yw i bob cartref yn nhrefi a dinasoedd y DU fod o fewn pellter cerdded i berllan gynhyrchiol, sy’n cael ei gofalu amdani’n dda ac sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.
Mae ei fodel yn cynnwys darparu cyngor arbenigol a hyfforddi grwpiau cymunedol mewn sgiliau rheoli perllannau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor. Drwy wneud hynny, mae’n gobeithio cryfhau cymunedau, gwella llesiant a meithrin gwytnwch. Mae’r cyfnod cynaeafu yn rhoi cyfle ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac i wirfoddolwyr a phlant lleol ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth am systemau bwyd lleol.
Delwedd astudiaeth achos: Coedwig Fwyd Parc Alexandra (The Orchard Project)
Prosiect 4: Gwlyptir Mwldan
Pwrpas: Gwella iechyd coridor afon Mwldan, creu cynefin gwlyptir i wella bioamrywiaeth a lleihau’r perygl o lifogydd yn Aberteifi. Gellid defnyddio’r gwlyptir hefyd fel adnodd llesiant ar gyfer y gymuned leol.
Coridor afon Mwldan
Pwrpas: Cyflwyno nodweddion plannu llawn natur trwy ganol tref Aberteifi a fydd yn cysylltu bioamrywiaeth a gorchudd coed ac yn gwella’r profiad o symud trwy’r dref a’i defnyddio.
Partneriaid posibl: Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Aberteifi, Dŵr Cymru / Welsh Water, Gwarchod Natur Aberteifi, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Cerdded er Lles, Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Tref Aberteifi a’r Is-bwyllgor Bioamrywiaeth, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, ysgolion lleol, Canolfan Iechyd Integredig, Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd y GIG.
Disgrifiad: Mae rhanddeiliaid yn Aberteifi mewn trafodaethau cynnar i neilltuo safle i fyny’r afon o Afon Mwldan (rhwng y Ganolfan Gofal Integredig newydd a’r orsaf bwmpio) i’w drawsnewid yn wlyptir.
Mae Afon Mwldan mewn ceuffos o dan y rhan fwyaf o ganol y dref. Fodd bynnag, mae mewn perygl mawr o lifogydd lle mae’n dod i “olau dydd” yn ardal Maes Mwldan ac ym Maes Parcio Stryd y Cei.
Mae gwlyptiroedd yn un ffordd o greu ‘uwch system bioamrywiol’. Mae hyn oherwydd bod gwlyptiroedd yn gallu cynnal cynifer ac amrywiaeth o rywogaethau. Cânt eu creu trwy ddefnyddio “peirianneg feddal” i greu cyfres o byllau a mannau dan ddŵr sy’n ffurfio ecosystem briodol ar gyfer plannu llwyni, gweiriau a choed gwylptir. Maent yn arafu llif y dŵr, sy’n lleihau’n naturiol y perygl o lifogydd dŵr wyneb i lawr yr afon o safleoedd gwlyptir.
Byddai creu cynefin gwlyptir ar dir i fyny’r afon o Aberteifi yn dod â manteision sylweddol i’r dref. Byddai’n helpu i gydbwyso iechyd maethol coridor yr afon ac yn rhoi hwb i amddiffynfeydd llifogydd y dref. Wrth i ddŵr lifo’n araf trwy’r gwlyptir, mae prosesau sy’n digwydd yn naturiol yn amsugno, trawsnewid, secwestru a thynnu ffosffadau, nitradau a chemegau eraill.
Gellid cyflwyno llwybrau pren i gael mynediad i’r safle gwlyptir a gellid archwilio rhaglen lesiant mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gofal Integredig (i’r gorllewin o’r safle) a chydag ysgolion lleol (wedi’u lleoli i’r dwyrain o’r safle). Mae’r rhain yn cynnwys Ysgol Iau Aberteifi, Ysgol Uwchradd a Choleg.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae’r prosiect Gwlyptiroedd Integredig yn Swydd Henffordd wedi’i roi ar waith i fynd i’r afael â phroblem llwytho maethynnau (ffosfforws yn benodol) ar ACA Afon Llugwy – yn debyg i’r problemau a gafwyd ar hyd Afon Teifi.
Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu system newydd o wlyptir ar dir drws nesaf i waith trin carthion Dŵr Cymru / Welsh Water yn Luston. Bydd y gwlyptiroedd hyn yn derbyn dŵr o’r gwaith trin carthin ac yn darparu triniaeth ychwanegol i’r dŵr cyn y caniateir iddo lifo i Afon Llugwy. Gellid ailadrodd y dull hwn yn Aberteifi, gan ddarparu buddion SGG lluosog.
Cyflwynodd y rhaglen ‘SDCau ar gyfer Ysgolion‘, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, wlyptiroedd bach mewn deg ysgol mewn dalgylch yng Ngogledd Llundain y canfuwyd eu bod mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb. Daethant hefyd yn fannau lle gallai myfyrwyr chwarae a dysgu yn yr awyr agored. O ganlyniad, daeth yr ysgolion yn hybiau ar gyfer ailgysylltu’r bobl leol â’u hafon. Gallai rhaglen debyg gael ei harwain gan ysgolion lleol yn Aberteifi fel rhan o brosiect gwlyptir ar raddfa fawr, yn canolbwyntio ar ailgysylltu pobl ifanc ag Afon Mwldan.
Delwedd astudiaeth achos: Plant yn Ysgol Gynradd Hollickwood yn garddio ar gyfer prosiect “SDCau i ysgolion”.
Delwedd astudiaeth achos: gwlyptir trefol (Ymddiriedolaeth Adar y Gwylptir)
Prosiect 5: Gwyrddu canol tref Aberteifi
Pwrpas: Cyflwyno nodweddion plannu llawn natur trwy ganol tref Aberteifi a fydd yn cysylltu bioamrywiaeth a gorchudd coed ac yn gwella’r profiad o symud trwy’r dref a’i defnyddio.
Y Stryd Fawr a Phendre yn Aberteifi
Stryd y Priordy
Partneriaid posibl: 4CG, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, Men’s Sheds, Canolfan Anabledd Ceredigion, Sustrans.
Disgrifiad: Mae’r system unffordd sy’n cael ei threialu ar hyn o bryd yn Aberteifi wedi creu cyfleoedd i wella ansawdd mannau cyhoeddus yng nghanol y dref a’r gallu i gerdded arnynt. Byddai ail-neilltuo gofod yn fwy parhaol yn gwella mynediad a symudiad trwy’r dref, gan greu tramwyfa fwy llwyddiannus ar hyd Pendre a’r Stryd Fawr gyda chyrbiau isel a phalmentydd unedig (yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd).
Dylai gwyrddu trefol amlswyddogaethol fod yn elfen bwysig o ail-neilltuo’r gofod hwn. Gellid cyflwyno borderi “gardd law“ yn lle cyrbau a bolardiau, gan greu llwybrau deniadol trwy’r dref. Mae’n bwysig bod y nodweddion hyn yn mynd y tu hwnt i werth addurniadol er mwyn sicrhau manteision lluosog, yn bennaf trwy arafu llif y dŵr ffo mewn rhannau uchel o ganol y dref a chreu coridor bywyd gwyllt trwy’r ardal drefol.
Gellid cyflwyno seddi wedi’u hintegreiddio â phlanwyr a choed stryd ar hyd rhannau lletach o’r ffyrdd, megis Pendre a Stryd y Priordy. Gellir ail-neilltuo rhai mannau parcio fel ‘parciau bach’ at ddefnydd busnesau fel seddi, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Gellid defnyddio planwyr neu blannu strwythurol i amgáu mannau eistedd ar ochr y ffordd i ffwrdd o gerbydau sy’n symud.
Dylid rhoi blaenoriaeth hefyd i nodweddion gwyrddu trefol ar hyd rhwydwaith o lwybrau cerdded a mannau torri trwodd yn Aberteifi. Mae llwybrau allweddol yn cynnwys:
- Trwy faes parcio 4CG.
- Y llwybr glan afon wrth ymyl Theatr a Sinema’r Mwldan a ger Canolfan Fusnes y Mwldan.
- Ar hyd Ebens Lane, The Arcade a Market Lane.
Byddai’r cysylltedd gwell hwn yn helpu i greu mynediad cryfach rhwng y dref, glan yr afon a’r ardaloedd preswyl cyfagos.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Glasgow Avenues yn fenter allweddol a arweinir gan Gyngor Dinas Glasgow a Sustrans i ailfeddwl am brif strydoedd y ddinas, gan roi pobl yn ganolog iddynt. Trwy unioni’r cydbwysedd rhwng cerbydau, cerddwyr a beicwyr, daeth y ddinas o hyd i ffyrdd o wneud strydoedd o bob maint yn fwy “cyfeillgar i bobl”.
Roedd yn bwysig gwahanu a rheoli traffig cerbydau a cherddwyr a gwneud dynodi llwybr trwy’r strydoedd yn glir. Defnyddiodd y prosiect wyrddni a phalmentydd hefyd i wneud y strydoedd a’r gymdogaeth ehangach yn fwy deniadol, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy cystadleuol yn economaidd.
Delwedd astudiaeth achos: Delwedd o ffin ‘gardd law’ Glasgow Avenues (Glasgow Avenues)