Menu

Aberystwyth

Trosolwg o gyfleoedd SGG yn Aberystwyth

Trosolwg o Aberystwyth - Download image

×
Trosolwg o Aberystwyth

Trosolwg o Aberystwyth

×

Aberystwyth yw’r anheddiad mwyaf yng Ngheredigion. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae ganddi boblogaeth o dros 18,000. Mae ganddi rôl bwysig fel prifysgol, tref farchnad a thref glan môr. Hon yw canolfan weinyddol y Sir hefyd. Lleolir y dref lle mae afonydd Rheidol ac Ystwyth yn cwrdd, yn swatio rhwng bryniau tonnog a chlogwyni trawiadol i’r gogledd, dwyrain a’r de.

Cafodd datblygiad hanesyddol Aberystwyth ei ddylanwadu’n gryf gan ei safle amddiffynnol wedi’i amgylchynu gan fryniau. O ganlyniad, mae gan y dref weddillion bryngaer fawr o’r Oes Haearn ym Mhen Dinas a Chastell Aberystwyth o’r Oesoedd Canol. Daeth twf mwy diweddar o ganlyniad i’w phoblogrwydd fel cyrchfan glan môr Fictoraidd. Mae hefyd yn elwa o farina, prifysgol a gorsaf drenau.

Mae lleoliad arfordirol Aberystwyth yn atyniad pwysig i dwristiaid. Mae hefyd yn gartref i gynefinoedd arfordirol pwysig. Mae Bae Ceredigion wedi’i ddynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae’r clogwyni arfordirol i’r gogledd a’r de wedi’u neilltuo’n Ardaloedd Pwysig i Adar.

Mae Aberystwyth yn cynnwys ardaloedd pwysig o fannau agored a gwerth natur. Mae’r rhain yn cynnwys gwarchodfeydd natur lleol Pen Dinas yn y de, Parc Natur Penglais yn y gogledd a’r coetir hynafol yng Nghoed y Cwm i’r gogledd o’r dref. Mae Parciau a Gerddi Hanesyddol yng ngogledd y dref, sy’n gysylltiedig â’r Llyfrgell Genedlaethol, Parc Natur Penglais a champysau Penglais a Llanbadarn Prifysgol Aberystwyth.

Mae cysylltiadau teithio llesol i’r anheddiad yn cynnwys Llwybr Arfordir Ceredigion, Llwybrau Beicio Cenedlaethol 81 ac 82 a Llwybr Ystwyth (y mae rhan ohono’n Llwybr Beicio Cenedlaethol).

Mae Aberystwyth yn un o’r Ardaloedd Twf Rhanbarthol a nodir yn y cyhoeddiad Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.

Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Aberystwyth?

Llifogydd: Mae canol tref Aberystwyth yn elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd ac mae’r rhain yn darparu rhywfaint o amddiffyniad rhag llifogydd afonydd. Fodd bynnag, mae hanes diweddar yn dangos bod llifogydd yn parhau i effeithio ar y dref. Achosir llifogydd gan dri mecanwaith gwahanol – y môr, yr afon a dŵr wyneb. Mae llifogydd o’r môr yn peri risg i lan y môr, i fyny gorlifdir Rheidol ac yn ardal Rhodfa’r Gogledd yng nghanol y dref. Mae llifogydd afonol wedi’u crynhoi ar orlifdir y ddwy afon – Afon Rheidol ac Afon Ystwyth. Mae’r perygl o lifogydd dŵr wyneb wedi’i grynhoi yn yr ardaloedd adeiledig, lle mae carthffosydd yn aml yn gorlifo. Cafwyd stormydd a achosodd ddifrod mawr yn Ionawr 2014 ac Awst 2020.

Ansawdd dŵr: Mae blaenddyfroedd afonydd Rheidol ac Ystwyth mewn ardal o fwyngloddio metel hanesyddol. O ganlyniad, aseswyd y ddwy afon fel rhai o ansawdd Cymedrol i Wael o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae’r gwaddol mwyngloddio metel hefyd wedi cael effaith ar ansawdd priddoedd gorlifdir, lle mae llifogydd mawr yn achosi i ddifwynwyr metel trwm ailsymud ac ailddosbarthu, a all fod â chrynodiad uchel iawn.

Mynediad i fannau gwyrdd: Mae gan Aberystwyth lefelau cymharol uchel o fannau gwyrdd a gwarchodfeydd natur lleol. Fodd bynnag, mae her o ran sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio gan gymunedau a’u bod yn hygyrch i bawb. Mae galw mawr gan gymunedau lleol hefyd am ofod tyfu ychwanegol.

Gorchudd coed: Yn gyffredinol, mae gan Aberystwyth orchudd canopi coed cymharol uchel o’i gymharu â gweddill Ceredigion – dros 18% ar gyfartaledd ar draws y dref. Fodd bynnag, mae’r gorchudd wedi’i ddosbarthu’n anghyfartal ar draws y dref. Yn benodol, dim ond 1% o orchudd canopi sydd gan ward Rheidol 1 Aberystwyth. Dyma’r lefel isaf o fewn yr ardaloedd adeiledig yng Ngheredigion, yn ôl Adroddiad Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru 2016 CNC. Mae rhanddeiliaid wedi codi pryderon ynghylch colli coed mawr yn ddiweddar – gan amlygu’r angen i reoli a diogelu’r coed gwaddol Fictoraidd ac Edwardaidd a chynllunio ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Cyfleoedd twristiaeth a’r economi leol: Mae mwy i’w wneud yn Aberystwyth er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd twristiaeth. Mae Cynllun Lle Aberystwyth yn nodi’r angen i arddangos hunaniaeth Gymreig y dref trwy adeiladau eiconig, treftadaeth ddiwylliannol a thir y cyhoedd deniadol sy’n adlewyrchu cymeriad y dref.

Prosiect blaenllaw: Llwybr Natur Cylchol Aberystwyth

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler y dudalen benodol ar gyfer y prosiect blaenllaw Llwybr Natur Cylchol Aberystwyth.

×

Purpose:  To connect Aberystwyth’s waterfront, green spaces and woodlands on a circular walking route and nature trail. The route aims to improve connectivity for both people and nature.

 

Prosiect 2: Coridor gwyrdd canol tref (o’r orsaf drenau i ardal y glannau)

Pwrpas: Creu ‘coridor gwyrdd’ o’r orsaf drenau i ardal y glannau, trwy ganol y dref ac ymlaen i lan y môr. Bydd hyn yn annog cerdded a beicio wrth deithio o fewn y dref, creu tir y cyhoedd mwy gwyrdd yng nghanol y dref, gwella ansawdd y profiad trwy’r dref a lliniaru llifogydd dŵr wyneb trwy integreiddio SDCau.

Partneriaid posibl: Busnesau lleol, Cyngor Tref Aberystwyth, Grŵp Rheilffordd Aberystwyth, ysgolion lleol, Hyb Eco Aber

Disgrifiad: Byddai’r ‘asgwrn cefn’ gwyrdd a glas hwn trwy ganol y dref yn cysylltu’r orsaf drenau â glan y môr. Byddai’n dilyn Ffordd y Môr a byddai’n defnyddio plannu coed stryd yn strwythurol a borderi “gardd law” yn lle’r rheiliau a’r bolardiau presennol.

Dylid creu ‘porth gwyrdd’ i Aberystwyth yn yr orsaf drenau a thrwy ‘r gyfnewidfa fysiau (gweler cynigion hyb symudedd). Byddai hyn yn creu ymdeimlad clir o gyrraedd Aberystwyth, tref wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd, bywyd gwyllt a’r môr.

Bydd canlyniad treialon parhaus i greu ardal i gerddwyr ar hyd Ffordd y Môr yn penderfynu a fydd y lleoliad hwn yn troi’n llwybr i gerddwyr, yn llwybr tawelu traffig neu fel arall.

Dylid defnyddio “parciau yn y cyfamser”, neu “barciau bach”, i ehangu seddi ar gyfer busnesau a darparu lle ar gyfer planwyr tra bod y llwybr i gerddwyr yn cael ei drafod. Drwy wneud hyn, gall busnesau lleol gyfrannu at y sgwrs am y cynllun terfynol.

Dylid cyfuno plannu a seddi mewn mannau cyhoeddus presennol yn Sgwâr y Brenin ac mewn mannau cyhoeddus newydd ar y groesffordd rhwng Ffordd y Môr a Rhodfa’r Gogledd. Byddai hyn yn creu mannau cymdeithasol ac yn annog ymwelwyr i aros am dipyn. Byddai perchnogaeth gymunedol o’r plannu yn y mannau hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn destun balchder yn y dref.

Byddai cyfleoedd i gysylltu’r llwybr â’r llwybr ysgol poblogaidd ar hyd Plascrug yn ymestyn buddion coridor gwyrdd.

Dylai nodweddion amlswyddogaethol a fyddai’n gwella’r llwybr gynnwys: dynodi llwybr (yn unol â strategaethau ar gyfer llwybrau cerdded mewn mannau eraill), elfennau chwareus, rhywogaethau o blanhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr, gerddi glaw a phlannu coed stryd.

Byddai plannu coed yn arbennig yn helpu i gynyddu cysylltedd coetir rhwng y ddwy Warchodfa Natur Leol Pendinas a Pharc Natur Penglais.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Mae Sheaf Square yn Sheffield yn enghraifft o lwybr traws-ddinas a ddefnyddir yn helaeth sy’n cysylltu’r ddinas, maestrefi preswyl, a mannau gwyrdd lleol. Trawsnewidiodd ‘ymdeimlad o gyrraedd’ gwael yn yr orsaf drenau ac ers hynny mae wedi dod yn fan cyhoeddus a chyfnewidfa drafnidiaeth uchel ei werth. Mae’n cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer sut y gellid ailgynllunio Gorsaf Drenau Aberystwyth fel hyb newydd.

Mae Sheaf Square hefyd yn enghraifft o sut y gellir defnyddio treftadaeth leol fel angor ar gyfer ailgynllunio’r ‘pyrth’ hyn. Mae’r dyluniad yn cyfeirio at ddaeareg, tirwedd a hanes Sheffield.

Mae croesfannau a rhodfeydd newydd i gerddwyr yn annog cerdded a beicio, fel rhan o’r ‘Llwybr Aur’ ehangach. Mae’r llwybr yn cysylltu cyfres o fannau cyhoeddus ar draws y ddinas. Dylid integreiddio Plascrug yn ofalus mewn ffordd debyg.

Delwedd astudiaeth achos: ‘Llwybr aur’ i Sheaf Square (Academy of Urbanism)

People walking with suitcases up pedestrian walkway lined with trees. Historic buildings in background
×
Delwedd astudiaeth achos: ‘Llwybr aur’ i Sheaf Square (Academy of Urbanism)

Prosiect 3: Asgwrn cefn gwyrdd canol y dref (o Rodfa’r Gogledd i Draeth y De)

Pwrpas: Creu ‘coridor gwyrdd’ o Rodfa’r Gogledd i Draeth y De, i annog cerdded a beicio, gwella’r tir y cyhoedd, cefnogi’r economi ymwelwyr ac annog bywyd gwyllt trefol.

Partneriaid posibl: Busnesau lleol, Cyngor Tref Aberystwyth, grwpiau cymunedol lleol, Tyfu Aber Grow – Aber Food Surplus, The Orchard Project

Disgrifiad: Byddai’r coridor gwyrdd hwn yn cysylltu: Rhodfa’r Gogledd – Y Stryd Fawr – yr ‘Ardal Fwyd’ – Tir y Castell a Thraeth y De. Gellid cyflawni hyn trwy gymysgedd o blannu coed brodorol yn strwythurol, ymylon gerddi glaw a phlanwyr stryd ar hyd y Stryd Fawr. Byddai hyn yn parhau gyda phlannu blodau gwyllt trwy dir y castell sy’n cysylltu â Thraeth y De. Gallai plannu coed newydd gysylltu â choed stryd presennol ar Rodfa’r Gogledd a gwella cysylltiadau bywyd gwyllt allan i Barc Natur Penglais.

Mae Rhodfa’r Gogledd yn ardal sydd â risg uchel o lifogydd dŵr wyneb. Byddai ymgorffori “gerddi glaw” ar hyd y llwybr yn gwella’r strydlun ac yn gwella’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd yr un pryd.

Mae neuadd farchnad Y Stryd Fawr a’r bwyty Seren Michelin yn rhan o hunaniaeth ‘ardal fwyd’ newydd sy’n datblygu yn yr ardal hon. Gallai plannu llysiau a pherlysiau synhwyraidd helpu i gefnogi’r hunaniaeth hon trwy ddefnyddio rhywogaethau perllan a choed ffrwythau, blychau ffenestri perlysiau a phlanwyr llysiau.

Byddai creu strydlun gwyrdd deniadol ar y Stryd Fawr yn cefnogi’r economi ymwelwyr trwy hybu diwylliant caffis a chynyddu nifer yr ymwelwyr.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill….

Roedd gwyrddu’r strydoedd yn ardal marchnad Altrincham mewn maestref ym Manceinion yn allweddol i adfywiad neuadd farchnad y dref a’r ardal ehangach.

Erbyn hyn mae Altrincham yn datblygu cynlluniau i ehangu’r plannu a gwella tir y cyhoedd trwy strydoedd canol y dref.

Delwedd astudiaeth achos: neuadd farchnad Altrincham

Historic market hall surrounded by covered shops and shoppers in the sun.
×
Delwedd astudiaeth achos: neuadd farchnad Altrincham

Prosiect 4: Tyfu bwyd cymunedol Penparcau

Pwrpas: Annog tyfu a rhannu bwyd cymunedol trwy greu rhwydwaith hwyliog o blannu bwytadwy trwy gymdogaethau mwy difreintiedig Aberystwyth.

Afon yn llifo trwy gymdogaeth Penparcau

Bridge going over wide river corridor with terraced, colourful buildings either side.
×
Afon yn llifo trwy gymdogaeth Penparcau

Partneriaid posibl: Cyngor Sir Ceredigion Strategaeth a Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Chaledi, Tyfu Aber Grow – Aber Food SurplusProsiect Plannu Penparcau, Fforwm Cymunedol Penparcau, The Orchard Project, Tir Coed.

Disgrifiad: Mae Penparcau eisoes yn elwa ar lawer o frwdfrydedd lleol dros dyfu bwyd yn y gymuned, dan arweiniad Fforwm Cymunedol Penparcau. Mae diddordeb mawr mewn treialu prosiectau tyfu bwyd maestrefol.

Mae’r cynllun cymdogaeth hwn yn ceisio adeiladu ar y sylfaen o gefnogaeth ymhlith y gymuned leol. Dylai’r gymuned chwarae rôl bwysig wrth rannu gwybodaeth, cyllid, amser ac adnoddau.

Mae strydoedd bwyd cymunedol (a elwir hefyd yn ‘gymdogaethau bwyd bendigedig’) yn aml yn dechrau trwy neilltuo mannau agored nas defnyddir, heb eu caru ar stryd neu mewn cymdogaeth. Yna defnyddir yr ardaloedd hyn ar gyfer plannu gwelyau llysiau, planwyr uchel, coed ffrwythau neu berllannau bach.

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau eisoes wedi dechrau sefydlu hyb cymunedol. Byddai cymorth pellach i ffurfioli hyn yn helpu’r hyb i rannu offer, dod â gwirfoddolwyr ynghyd a chodi ymwybyddiaeth – trwy ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar rannu bwyd, cyfnewid hadau neu brydau pop-yp cymunedol. Gellid creu cysylltiadau ag ysgolion lleol hefyd. Gyda’i gilydd, byddai hyn yn ysgogi brwdfrydedd lleol dros blannu a thyfu.

Mae buddion niferus i dyfu bwyd lleol. Gall fod yn adnodd llesiant pwerus, yn arf addysgol ar gyfer deall systemau bwyd lleol, ac yn ffordd wych o ddod â gwahanol aelodau o’r gymuned ynghyd. Mae cyflwyno coed, gwelyau llysiau wedi’u plannu a phlanwyr bwyd hefyd yn dod â lliw, peillwyr a mwy o fioamrywiaeth i fannau cyhoeddus.

Ym Mhenparcau, byddai cyllid ar gyfer prosiectau plannu strwythurol mwy yn helpu i drawsnewid strydoedd sy’n cael eu dominyddu gan geir yn gymdogaeth werdd sy’n cynnig profiad mwy synhwyraidd i bobl leol.

Mae cymdogaeth Penparcau hefyd yn goridor allweddol sy’n cysylltu canol tref Aberystwyth â Bryn Pen Dinas a Than-y-bwlch – gan roi cyfle i’r prosiect hwn gysylltu’r gymdogaeth yn well â chyrchfannau lleol megis ailddatblygiad yr harbwr, y farchnad ffermwyr, yr orsaf, a hybiau allweddol eraill.

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Dechreuodd yr ardd fwyd gymunedol Squash yn Toxteth (Lerpwl) trwy drawsnewid strydoedd yn y gymdogaeth trwy ddefnyddio planwyr tyfu bwyd a choed ffrwythau. Ehangodd yn ddiweddarach trwy blannu gerddi bwyd cymunedol mewn mannau gwyrdd a danddefnyddir. Yn olaf, adeiladodd y prosiect hyb bwyd cymunedol hefyd sy’n gweithredu fel caffi lleol, gofod digwyddiadau cymunedol, man cyfnewid hadau, siop fwyd a rhywle sy’n cynnig gwersi mewn coginio iach tymhorol, rhad.

Mae poblogrwydd cymdogaethau Bwyd Bendigedig wedi tyfu ar ôl i’r gymdogaeth gyntaf gael ei sefydlu yn Todmorden.

Delwedd astudiaeth achos: Arwydd gardd gymunedol Squash

Posters on wall with letters spelling SQUASH
×
Delwedd astudiaeth achos: Arwydd gardd gymunedol Squash

Prosiect 5: Adfer cynefinoedd llygod y dŵr

Pwrpas: Clustogi a chysylltu cynefinoedd llygod y dŵr ar Afon Rheidol i adfer poblogaethau ffyniannus.

Coridor Afon Rheidol

Wide river running through town with green space either side, modern buildings either side and a slightly cloudy blue sky.
×
Coridor Afon Rheidol

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Cymdeithas Mamaliaid

Disgrifiad: Mae llygoden y dŵr yn un o rywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Ceredigion. Hwn yw’r mamal sy’n prinhau gyflymaf ym Mhrydain. Yn 2010, fe wnaeth arolygon ganfod bod nifer llygod y dŵr sy’n byw yn ardal Parc y Llyn, Aberystwyth wedi gostwng. Arweiniodd hyn at wneud gwaith ar rwydwaith o ffosydd a mannau gwlyb yn ardal Parc y Llyn yn y dref. Fodd bynnag, mae llygod y dŵr yn parhau i gael eu bygwth ac yn prinhau yn yr ardal leol.

Mae’r ffactorau sy’n ysgogi’r prinhau yn cynnwys datblygu, gwaith ansensitif i amddiffyn y glannau, rheoli ffosydd yn amhriodol, ysglyfaethu gan y minc Americanaidd a llygru cyrsiau dŵr. Mae llawer o’r poblogaethau sy’n goroesi bellach wedi’u hynysu yn y dirwedd, gan eu gwneud yn agored i ddifodiant lleol yn y dyfodol.

Mae’n hawdd darparu cartref ar gyfer llygod y dŵr er mwyn i’r poblogaethau allu ffynnu neu ehangu a symud i ardaloedd newydd. Bydd llygoden y dŵr hyd yn oed yn byw mewn ffos gyda dŵr glân sy’n llifo’n araf cyn belled â bod digon o lystyfiant yn tyfu o’r glannau. Er enghraifft, un mesur a all ddarparu cynefin cysylltiedig mwy addas ac wedi’i gysylltu’n well yw peidio â thorri glannau afonydd trwy’r dref i lefel y ddaear rhwng mis Mawrth a diwedd mis Medi (ar y cynharaf).

Dylid rhoi blaenoriaeth i adfer cysylltedd yn Aberystwyth rhwng gwarchodfa Parc y Llyn Cyngor Ceredigion a Gwarchodfa Natur Leol Pen Dinas a Than-y-bwlch. Gellir wneud hyn trwy agor ffosydd trwy’r ardal adeiledig Penparcau.

Byddai rhaglen ymgysylltu â’r gymuned yn helpu i warchod y rhywogaeth garismatig hon. Gallai weithredu ar y cyd â dulliau ymarferol o reoli cynefinoedd trwy helpu i fonitro niferoedd y boblogaeth fel y gellir targedu ymyriadau yn well yn y dyfodol. Gallai hyn olygu cydweithio â mentrau sy’n bodoli megis Cronfa Ddata a Prosiect Mapio Cenedlaethol Llygod y Dŵr a’r cynllun adfer rhywogaethau arfaethedig ar gyfer llygod y dŵr yng Nghymru.

 

Ysbrydoliaeth o fannau eraill…

Lansiwyd Prosiect Adfer Llygod y Dŵr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Berkshire, Swydd Buckingham a Swydd Rydychen ym 1998 a hwn yw’r prosiect lleol mwyaf hirsefydlog yn y DU sy’n gweithio i warchod llygod y dŵr. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Thames Water.

Mae’r prosiect wedi llwyddo i gynyddu nifer llygod y dŵr gan 78% dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae wedi gwneud hyn trwy fonitro llygod y dŵr, nodi cyfleoedd i wella cynefinoedd a dylanwadu ar dirfeddianwyr lleol i reoli safleoedd mewn modd sensitif a gweithredu dulliau rheoli mincod.