Tregaron
Trosolwg o gyfleoedd SGG yn Nhregaron
Trosolwg o Dregaron
Tirwedd bryniog yn ardal Tregaron
Tregaron yw’r anheddiad mwyaf yn ucheldiroedd Ceredigion. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae ganddi boblogaeth o oddeutu 1,250 o bobl. Fe’i lleolir lle mae Afon Brennig yn cwrdd ag Afon Teifi. Mae llethrau isaf Mynyddoedd Cambrian i’r dwyrain yn darparu cefndir garw.
Datblygodd y dref yn wreiddiol o amgylch sgwâr marchnad ganoloesol ac Eglwys Sant Caron. Erys y craidd hanesyddol hwn wedi’i nodweddu gan strydoedd troellog cymharol gul. Nid yw hyn yn gadael llawer o le ar gyfer mannau gwyrdd a llystyfiant.
Dylanwadwyd ar dwf yr anheddiad yn y 1800au gan fasnach y porthmyn ac agor Rheilffordd Milford a Manceinion, fodd bynnag, ni ehangodd yr anheddiad y tu allan i’w graidd hanesyddol tan ddiwedd yr 20fed ganrif.
Mae ‘asedau glas’ Tregaron yn bwysig yn ecolegol. Saif ei dwy afon o fewn dynodiadau ACA a SoDdGA Afon Teifi. Mae’r rhain yn bwysig am eu rhywogaethau pysgod yn ogystal â’r dyfrgi, llyriad-y-dŵr arnofiol a mwsogl afon aml-ffrwyth.
Lleolir Gwarchodfa Natur Cors Caron i’r gogledd o Dregaron. Roedd y gors hon yn cael ei gwerthfawrogi’n hanesyddol fel ffynhonnell o fawn, adar hela, tir pori yn yr haf, ac ar gyfer casglu gwair. Heddiw mae iddi ddefnydd hamdden pwysig ac mae’n werthfawr oherwydd ei hecoleg gyfoethog a’i thirwedd cyforgorsydd nodedig.
Mae Llwybr Ystwyth hefyd yn rhedeg yn agos at Dregaron ond nid yw wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r dref.
“Gallai’r llwybr beicio i Dregaron fod yn llwybr di-draffig yn bennaf yn debyg i Lwybr Camel yng Nghernyw.”
– Rhanddeiliaid, arolwg ar-lein
Gweler Atodiad B am grynodeb o’r holl sylwadau gan randdeiliaid.
Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Tregaron?
Cysylltiadau cerdded a beicio: Mae rhwydwaith da o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn yr ardal wledig ar gyrion y dref. Fodd bynnag, mae peth diffyg cysylltedd yn Nhregaron oherwydd bod Llwybr Ystwyth yn dod i ben dwy filltir cyn iddo gyrraedd Tregaron. O ganlyniad, nid yw ymwelwyr â Chors Caron yn mynd ymlaen i Dregaron yn gyffredinol ac mae’n anoddach i drigolion ymweld â Chors Caron heb gar. Byddai mynediad gwell i gefn gwlad ehangach yn dod â buddion sylweddol i Dregaron, yn enwedig i dir mynediad agored ym Mynyddoedd Cambrian. Byddai hyn yn helpu i siapio’r dref fel ‘porth’ ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Economi leol: Mae angen gwella’r profiad o dref Tregaron i hybu ei hapêl i ymwelwyr a thrigolion. Mae’r diffyg cyfleoedd economaidd presennol yn y dref yn lleihau’r ymdeimlad o gymuned a balchder dinesig. Mae llawer o bobl ifanc yn gadael y dref i weithio, ac mae nifer o wasanaethau wedi gadael canol y dref.
Perygl o lifogydd: Mae gan Dregaron hanes o lifogydd sy’n gysylltiedig ag afonydd Teifi a Brennig, gyda llifogydd mawr yn 1987 a 2000. Cafodd cynllun amddiffyn rhag llifogydd mawr ei roi ar waith gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn 2008 i 2010, gyda’r nod o amddiffyn dros 100 o eiddo preswyl a masnachol. Yn 2020, cyhoeddodd CNC brosiect rheoli llifogydd naturiol ar ran uchaf dalgylch Afon Teifi, gyda’r nod o leihau’r perygl o lifogydd ymhellach yn Nhregaron.
Mynediad at fannau gwyrdd: Mae gan Dregaron fynediad cymharol wael at asedau SGG. Mae gan y dref fannau agored fel caeau chwarae a mannau chwarae, ond prin yw’r parciau ffurfiol neu fannau naturiol hygyrch. Gallai agor glannau Afon Brennig ac Afon Teifi i hamdden wella cyfleoedd i gysylltu â natur.
Gorchudd coed: Mae cynyddu’r gorchudd coed yn Nhregaron yn her oherwydd y strydoedd cul trwy lawer o’r anheddiad. Ni chafodd Tregaron ei hystyried yn Asesiad Gorchudd Coed Tref CNC, fodd bynnag mae’r gorchudd canopi yn y dref yn isel ar y cyfan. Gall fod cyfleoedd i ystyried dulliau eraill o wyrddu, megis waliau a thoeon gwyrdd, sy’n cymryd llai o le ond sy’n dal i ddarparu buddion bioamrywiaeth ac oeri.
Prosiect Blaenllaw: Sgwâr y Farchnad Tregaron
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler tudalen prosiect blaenllaw Sgwâr y Farchnad Tregaron.
Pwrpas: Ceisio cydbwysedd iachach rhwng cerbydau a phobl yn Sgwâr y Farchnad Tregaron. Byddai hyn yn rhyddhau lle ar gyfer gweithgareddau gwyrddu, digwyddiadau ac i bobl gerdded, beicio a chwrdd yng nghanol y dref. Yn ystod misoedd yr haf gallai’r gofod groesawu ymwelwyr ar droed, ar feic neu yn y car yn barod i ‘aros am dipyn’ a chrwydro busnesau lleol. Byddai hyn yn helpu i hybu proffil Tregaron fel y ‘porth i’r Mynyddoedd Cambrian’.
Prosiect 2: Ymestyn llwybr Ystwyth
Pwrpas: Cysylltu canol tref Tregaron â Llwybr Ystwyth gyda llwybr diogel di-draffig. Byddai hyn yn gwella mynediad trigolion lleol i Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn ogystal â gwella cysylltiadau i drigolion lleol ac ymwelwyr ag Aberystwyth. Byddai gwella plannu ar hyd y llwybr hefyd yn creu coridor peillio gwerthfawr.
Mae bryniau Tregaron yn addas iawn ar gyfer e-feicio
Yr ardal wledig o amgylch Tregaron
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Canolfan Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Cyngor Tref Tregaron, Gwarchodfa Natur Cors Caron.
Disgrifiad: Byddai creu’r cysylltiad pwysig hwn yn cysylltu Tregaron â chyrchfannau pwysig gerllaw.
Mae’r llwybr hwn yn cael ei archwilio fel rhan o Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Byddai ei gyflwyno o fudd i lesiant a diogelwch y gymuned leol, y mae llawer ohonynt yn ymarfer corff neu’n ymweld â Chors Caron yn aml ond sy’n gorfod gyrru neu beicio ar hyd lonydd cul ar hyn o bryd.
Byddai ymestyn y llwybr i Dregaron yn annog cerddwyr a beicwyr sy’n ymweld â’r ardal i dreulio amser ac arian ym musnesau’r dref. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i farchnata Tregaron fel canolfan ar gyfer archwilio’r llwybr, gyda chyfleoedd i ddatblygu maes gwersylla fel rhan o gynnig lletygarwch ehangach yn y dref.
Mae’r opsiynau i gwblhau’r llwybr yn cynnwys:
- negodi gyda thirfeddianwyr perthnasol ar gyfer defnyddio rhannau o’r hen goridor rheilffordd.
- defnyddio’r llwybr gwyrdd llydan presennol a elwir Gypsy Lane.
- creu lonydd beicio pwrpasol ar ran olaf y B343 lle mae’n dod i mewn i’r dref.
Ar wahân i deithio llesol, mae’r llwybr yn cynnig y potensial i wella bioamrywiaeth a chysylltu cynefinoedd yn well. Gellid gwneud y llwybr yn gyfeillgar i beillwyr trwy gynnal a chadw gwrychoedd a phlannu blodau gwyllt ar hyd yr ymylon.
Gellid gwella cerdded a beicio trwy’r dref ei hun trwy ail-neilltuo lle i gerddwyr, beicwyr a chadeiriau olwyn, gyda phalmentydd lletach ar ffyrdd prysur, gwaith cynnal a chadw gwell ar ‘lwybrau cefn’ trwy’r dref a ‘strydoedd ysgol’. Byddai arwyddion a dynodi llwybr hefyd yn chwarae rôl bwysig.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Llwybr Beicio Lôn Las Menai a Lôn Eifion yn llwybr beicio prydferth 16 milltir gydag wyneb caled ardderchog di-draffig – yn ymestyn yr holl ffordd o dref Caernarfon i ganol pentref Bryncir. Mae’r llwybr yn un poblogaidd ac yn rhedeg wrth ochr â Rheilffordd Ucheldir Cymru. Gellir uwchraddio Llwybr Ystwyth i ddarparu cysylltiadau di-draffig tebyg i ganol tref Tregaron.
Delwedd astudiaeth achos: Llwybr Beicio Lôn Eifion (Beicio Gogledd Cymru)
Prosiect 3: Perllan a man picnic ar lannau Afon Brennig
Pwrpas: Dathlu a gwella llwybr glan yr afon Tregaron trwy wella mynediad ac ymgorffori gofod ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, addysg a chwarae. Mae hyn yn cynnig cyfle i gynnal iechyd coridor yr afon, mynd i’r afael â’r perygl o lifogydd ar hyd yr afon a phlannu perllannau cymunedol.
Glan yr afon Brennig
Tir sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru ger Afon Brennig
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Tref Tregaron, y gymuned leol a busnesau, The Orchard Project.
Disgrifiad: Mae lle wedi’i neilltuo ar gyfer perllan gymunedol ar orlifdir yng nghanol Tregaron yn ffinio ag Afon Brennig.
Chwaraeodd y tir hwn ran yn y gwaith lliniaru llifogydd a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae’r safle yn eiddo i CNC ond nid yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddarparu unrhyw swyddogaethau SGG ychwanegol.
Byddai perllan gymunedol yn adnodd llesiant gwerthfawr i’r gymuned leol. Byddai plannu ychwanegol hefyd yn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd a bioamrywiaeth y safle, gan greu ased SGG gwirioneddol ‘amlswyddogaethol’.
Mae’r safle wedi’i leoli’n ganolog yn y dref, ychydig y tu hwnt i Sgwâr y Farchnad, a byddai’n elwa o bwyntiau mynediad gwell. Yn benodol, dylid darparu ramp o’r bont bresennol i gysylltu â’r llwybr troed ar lan yr afon. Fel arall, byddai pont droed ar draws yr afon o’r B4343 y tu allan i’r Llew Coch yn darparu mynediad i Afon Brennig. Dylai hwn fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Byddai creu llannerch fechan ger yr afon yn agor y gofod i ystod ehangach o ddefnyddwyr o genedlaethau gwahanol. Gallai hyn gynnwys gosod meinciau picnic ac elfennau chwareus anffurfiol, fel boncyffion dringo neu ddyfrgwn pren. Gellir defnyddio plannu coed i greu ffin i warchod amwynder a phreifatrwydd tai sy’n gefngefn â’r gofod.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Nod The Orchard Project yw i bob cartref yn nhrefi a dinasoedd y DU fod o fewn pellter cerdded i berllan gynhyrchiol sy’n cael ei gofalu amdani’n dda ac sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.
Mae ei fodel yn cynnwys rhoi cyngor a hyfforddiant arbenigol i grwpiau cymunedol mewn sgiliau rheoli perllannau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor. Drwy wneud hynny, mae’n gobeithio cryfhau cymunedau, gwella llesiant a meithrin gwytnwch. Mae’r cyfnod cynaeafu yn rhoi cyfle ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac i wirfoddolwyr a phlant lleol ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth am systemau bwyd lleol.
Delwedd astudiaeth achos: Alexandra Park Food Forest (The Orchard Project)
Prosiect 4: Arhosfan Aire
Pwrpas: Gwella swyddogaeth maes parcio Tregaron ar gyfer faniau gwersylla, gan gefnogi gwytnwch busnesau lletygarwch lleol. Gellir defnyddio plannu yn y maes parcio i wella lleoliad a bioamrywiaeth y safle.
Meysydd parcio yn Nhregaron
Partneriaid posibl: Cyngor Tref Tregaron, y gymuned leol a busnesau lleol (gan gynnwys caffis lleol)
Disgrifiad: Mae arosfannau cartrefi modur, a elwir yn “Aires”, yn fannau parcio cyhoeddus yn bennaf lle gall defnyddwyr cartrefi modur a faniau gwersylla aros dros nos am ddim neu am ffi fach. Maent yn cael eu hystyried yn symbol o ryddid cartrefi modur.
Byddai ffurfioli gofod i faniau teithiol a faniau gwersylla eu defnyddio yn Nhregaron yn annog nifer cynyddol o ddefnyddwyr cartrefi modur yn yr ardal leol i aros dros nos yn y dref, defnyddio ei chyfleusterau, ac ymweld â busnesau lleol.
Dylid ystyried y maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor fel lleoliad posibl. Mae’r safle wedi’i osod yn erbyn cefndir o fryniau gwyrdd ac mae’n elwa o doiledau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Mae hefyd o fewn 100 metr i gaffis lleol, tafarndai a Sgwâr y Farchnad.
Byddai ymgorffori ardal werdd mewn unrhyw wyneb caled (wedi’i osod o fewn coed gyda meinciau picnic a biniau) yn creu lleoliad deniadol a bioamrywiol. Byddai pwyntiau gwefru cerbydau trydan a mynediad 24 awr i’r toiledau cyhoeddus yn annog ymwelwyr i ddefnyddio a stiwardio’r ardal yn briodol.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae’r Campaign for Real Aires (CAMpRA) wedi cael ei ffurfio i greu “Aires” yn y DU. Ei nod yw darparu mannau parcio diogel ar gyfer cartrefi modur/faniau gwersylla yn y DU er mwyn helpu i hybu’r economi trwy gynyddu gwariant mewn ardaloedd lleol ac annog gwyliau gartref. Mae’r syniad yn gysyniad poblogaidd ar dir mawr Ewrop.
Mae Cyngor Dosbarth Craven, Swydd Efrog, wedi sefydlu sawl “Aire” ar draws ei drefi a’i bentrefi gwledig. Mae’r Aires wedi helpu i gefnogi economi ymwelwyr a gyda’r hwyr yr ardaloedd hyn. Rhoddodd y fenter hwb i incwm y Cyngor, gan helpu i wneud yr ardal leol yn fwy diogel, a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Delwedd astudiaeth achos: Campaign for Real Aires UK (CAMpRA)
Prosiect 5: Gwelliannau i Le Chwarae a Maes Chwaraeon Tregaron a gardd gymunedol newydd
Pwrpas: Annog defnydd cymdeithasol amlswyddogaethol o fannau gwyrdd. Byddai hyn yn dod â buddion i iechyd, llesiant a chysylltedd ecolegol.
Cae Chwarae Tregaron
Hen safle pitsio a phytio
Partneriaid posibl: Cyngor Tref Tregaron, Cyngor Sir Ceredigion (perchnogion presennol y ddau ddarn o dir), ysgolion lleol, grwpiau cymunedol.
Disgrifiad: Mae Lle Chwarae a Maes Chwaraeon Tregaron yn darparu mannau chwarae a meysydd chwaraeon ar gyfer y gymuned leol. Mae ymyl ar hyd ffiniau’r cae chwarae y gellid ei ddefnyddio i blannu ffin sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ar gyfer peillwyr ac i greu coridor bywyd gwyllt.
Mae’r cae chwarae yn rhannu ffin â chartref gofal Tregaron. Drwy wella’r cae chwarae gyda phlanhigion, gallai’r gofod fod yn adnodd llesiant i drigolion yr un pryd. Gallai gardd synhwyraidd, neu’r tebyg, gynyddu’r defnydd o’r gofod hwn gan ystod eang o bobl, o bosibl mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol lleol.
Mae lle ychwanegol ar gyfer gardd gymunedol wedi’i nodi ar yr hen safle “pitsio a phytio “. Byddai man tyfu yng nghanol cymuned Tregaron yn darparu gofod cymdeithasol pwysig ac adnodd llesiant gan hybu yr un pryd potensial bioamrywiaeth y safle, sy’n dir prysgwydd ar hyn o bryd.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Er ei fod yn gweithredu ar raddfa fwy nag sy’n bosibl ar y safle sydd ar gael yn Nhregaron, mae’r Platt Fields Market Garden ym Manceinion yn enghraifft dda o’r defnydd o ased hamdden segur sy’n eiddo i’r Cyngor (lawnt fowlio yn yr achos hwn) ar gyfer tyfu cymunedol.
Mae’r gofod bellach yn cael ei reoli gan y fenter gymdeithasol Manchester Urban Diggers (MUD) ac mae’n enghraifft lwyddiannus o amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned. Mae’r ardd yn rhedeg cynllun bocs llysiau, yn cyflogi cannoedd o wirfoddolwyr ac yn croesawu ymwelwyr i’r safle ar fore Sadwrn pan fydd cynnyrch ffres ar werth.
Delwedd astudiaeth achos: Platt Fields Market Garden, Manceinion