Taith Gerdded y Dyfrgi Aberteifi
Pwrpas
Gwella cysylltiad Aberteifi ag Afon Teifi, cynyddu bioamrywiaeth ac ansawdd mannau gwyrdd ar hyd glan yr afon ac annog cerdded i fannau gwyrdd lleol.
Key elements
- Gwella rhuban o fannau gwyrdd ar hyd yr afon (Cei y Tywysog Siarl, Y Strand a maes parcio Stryd y Cei).
- Creu cysylltiadau gwyrdd
- Plannu ar lan yr afon ar gyfer bioamrywiaeth
Cyflawni
Partneriaid posibl: Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Aberteifi, Dŵr Cymru / Welsh Water, Gwarchod Natur Aberteifi, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Fforwm Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Tref Aberteifi a’r Is-bwyllgor Bioamrywiaeth.
Cost ddangosol: £1 – 1.5 miliwn (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)
Disgrifiad
Byddai gwella cysylltiad Aberteifi ag Afon Teifi yn darparu adnodd llesiant pwysig i’r gymuned leol. Byddai hefyd yn ganolbwynt ar gyfer ymwelwyr â’r dref ac yn golygu y gallai pobl a bywyd gwyllt symud ar hyd coridor yr afon. Darperir ymyriadau arfaethedig allweddol mewn mannau gwyrdd ar hyd y coridor isod.
Elfen 1: Gwella rhuban o fannau gwyrdd ar hyd yr afon
Cei’r Tywysog Siarl:
- Byddai plannu llinell goed aeddfed ar hyd perimedr gogleddol y man cyhoeddus presennol, yn lle’r bolardiau presennol, yn sgrinio Cei’r Tywysog Siarl rhag traffig ar Stryd y Bont. Byddai hyn yn creu profiad mwy llonydd i gerddwyr fwynhau’r amgylchedd naturiol.
- Byddai plannu coed gyda chanopïau mawr bob hyn a hyn trwy’r gofod, ac ar y lawnt bresennol yn y gornel ogledd ddwyreiniol, yn rhoi cysgod ar ddiwrnodau poeth a gorchudd rhag y glaw ar ddiwrnodau gwlyb.
- Byddai ychwanegu rhai o seddi dec pren anffurfiol ger y coed yn helpu i dorri’r gofod a chreu gofodau llai, mwy personol ar gyfer cymdeithasu, perfformiadau cerddorol a bysceriaid, neu ar gyfer bwyta picnic neu ginio. Gellid hefyd cyflwyno planwyr blodau gwyllt o flaen y wal amddiffyn rhag y llanw i dorri edrychiad y wal goncrit bresennol.
- Gellid creu lle chwarae anffurfiol, seiliedig ar natur ar y lawnt bresennol yn y gornel ogledd ddwyreiniol. Dylai nodweddion roi blaenoriaeth i ddeunyddiau naturiol a gallent gynnwys boncyffion dringo pren neu ddyfrgi pren i chwarae arno, gan gydnabod masgot answyddogol y dref. Gellid ychwanegu mannau i’r dwylo a’r traed wrth ddringo ar ran o’r wal amddiffyn llanw concrit i ysgogi’r gofod ar gyfer plant a theuluoedd.
- Gellid ychwanegu mannau parcio beiciau, pwmp beiciau a ffynnon ddŵr i greu man croesawgar i gerddwyr, defnyddwyr cerbydau ag olwynion a beicwyr ochr yn ochr â’r byrddau croeso presennol yng nghornel orllewinol y gofod.
- Dylid ystyried opsiynau i symud traffig cerbydau oddi ar y ffordd fynediad, ac eithrio danfoniadau. Byddai hyn yn bwysig i wneud glan yr afon yn fwy hygyrch i gadeiriau olwyn a beiciau.
Y Strand:
- Dylid dod â’r gofod hwn ar lan yr afon yn ôl i ddefnydd cymunedol fel rhan o’r gwaith amddiffyn rhag llifogydd llanw arfaethedig sydd i’w wneud gan Ddŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Mae potensial i gynnwys y gymuned yn y gofod segur hwn, a fyddai’n elwa o stiwardiaeth grŵp lleol neu bartneriaeth addysgol gydag un o ysgolion Aberteifi. Gallai prosiect gardd gymunedol wedi’i rymuso gael cyllid i’w blannu naill ai â rhywogaethau blodau gwyllt priodol i gynnal peillwyr, neu ardd berlysiau neu ardd gegin.
- Byddai plannu llinell goed aeddfed ar hyd perimedr gogleddol y gofod yn sgrinio’r gofod rhag traffig ar Y Strand. Byddai hefyd yn creu man tawelach ar gyfer myfyrio ac ymlacio ger yr afon. Dylid cyflwyno ‘mynediad i bawb’ i’r safle, gan gynnwys ar gyfer y rhai â llai o symudedd.
- Dylid ystyried mynediad grisiog i lawr i lan yr afon, gyda chorsle arnofiol yn annog bywyd morol. Byddai plannu coed ar lannau afon yn helpu i wella amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd a lleihau erydiad.
- Gellid ymgorffori byrddau addysgol a nodweddion eraill sy’n darparu gwybodaeth am y môr a bywyd gwyllt lleol ar y safle hwn. Dylid darparu’r holl nodweddion yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddathlu’r iaith Gymraeg a bywyd gwyllt yn yr ardal hon.
Maes Parcio Stryd y Cei:
- Dylid symud ffin Maes Parcio Stryd y Cei fel rhan o’r gwaith arfaethedig i amddiffyn rhag llifogydd llanw. Fel rhan o’r newid hwn, dylid cyflwyno amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd (gan gynnwys plannu glan yr afon) i dorri’r ymyl concrid glan yr afon.
- Byddai codi palmantydd a chyflwyno wynebau athraidd a phlannu ‘gardd law’ ym mhob rhan o’r maes parcio yn datrys y problemau llifogydd dŵr wyneb presennol.
- Byddai gwella’r plannu o amgylch Afon Mwldan a thrwy’r maes parcio yn gwella cysylltedd natur trwy’r maes parcio ac yn creu porth mwy deniadol i’r dref. Byddai hyn hefyd yn creu gofod deniadol ar gyfer lansio caiacau a chychod, ac yn ehangu ar lwyddiant yr Ŵyl Afon a Bwyd a gynhelir yn flynyddol ym Maes Parcio Stryd y Cei.
- Byddai symud y ffin hefyd yn creu cyfle i gyflwyno cysylltiad cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion ar hyd glan yr afon i Netpool.
Gofod glan yr afon Y Strand
Maes parcio Stryd y Cei
Cei’r Tywysog Siarl
Elfen 2: Creu cysylltiadau gwyrdd
Taith gerdded ar lan yr afon:
Byddai creu mynediad uniongyrchol i ymuno â Chei’r Tywysog Siarl â Maes Parcio Stryd y Cei yn creu mwy o le cyhoeddus ar hyd glan yr afon ac yn lleihau’r pellteroedd cerdded rhwng Parc Netpool, y maes parcio a’r Cei. Byddai hyn yn annog mwy o ymwelwyr a phobl leol i fwynhau mannau glan yr afon yn Aberteifi.
Gellid creu taith gerdded ar lan yr afon ar hyd y rhan hon o Afon Teifi trwy ymestyn yr ardal angori bresennol yn Cei’r Tywysog Siarl gyda llwybrau pren arnofiol newydd yr holl ffordd i Faes Parcio Stryd y Cei (gweler Astudiaethau Achos). Gallai ymestyn y gofod hwn greu ardaloedd i fusnesau lletygarwch lleol, gan gynnwys Pizza Tipi a The Fisherman’s Rest, orlifo gyda seddi al fresco neu gynnal digwyddiadau ar lan yr afon.
Teithiau cerdded cylchol:
Dylai strategaeth arwyddion a dynodi llwybr cyson ac o safon uchel gyfeirio ymwelwyr a thrigolion lleol ar hyd cylchdeithiau 30 munud hygyrch. Byddai’r rhain yn dilyn glan yr afon i Barc Netpool, ar hyd Afon Mwldan i Goedwig y Mileniwm (Gwarchodfa Natur Coed y Mwldan) i ganol y dref, ac ar draws yr afon i gysylltu â Llwybr Teifi.
Dylai llwybrau hwy (rhwng 30 munud a 2 awr) gael eu cyfeirio ar draws yr afon i gysylltu Aberteifi â Llwybr Teifi ac â chyrchfannau lleol fel Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a Llandudoch.
Mae creu cyswllt glan yr afon rhwng Aberteifi a Llandudoch (gyda llwybr troed oddi ar y ffordd neu lwybr ar wahân) wedi bod yn uchelgais hirdymor gan awdurdodau ar ddwy ochr Afon Teifi. Mae llwybr troed yn bodoli eisoes, na ellir ei ddefnyddio ar hyn o bryd oherwydd erydiad a diffyg cynnal a chadw. Byddai adfer a gwella’r cyswllt hwn yn creu llwybr deniadol a fydd yn annog teithio llesol a nifer yr ymwelwyr yn y ddwy dref. Dylai ymyriadau ystyried bod ymdrechion blaenorol wedi methu oherwydd pryderon ecolegol. Mae hyn yn golygu y dylid ymchwilio i bartneriaethau a ddylai dynnu ar arbenigedd ecolegol, ac ystyried y pryderon hyn ar hyd dwy lan Afon Teifi.
Dylai’r prosiect hwn hefyd ystyried agor y llwybr cerdded o Bont Stryd y Castell i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru (a’r murlun bywyd gwyllt) ac ymlaen i’r afon. Dylid cynnwys seddi a phlannu gan ddefnyddio deunyddiau pren cyson i greu glan afon deniadol ac unedig. Byddai arwyddion pren o safon uchel ar gyfer ‘Taith Gerdded Gylchol y Dyfrgi Aberteifi’ yn ffordd bwerus o annog pobl i archwilio llwybrau cerdded o amgylch y dref. Dylid nodi amseroedd beicio a cherdded ar arwyddion hefyd.
Cei’r Tywysog Siarl
Cerflun y dyfrgi presennol yn Aberteifi
Pont dros Afon Teifi yn Aberteifi
Elfen 3: Plannu ar lan yr afon ar gyfer bioamrywiaeth
Gellir defnyddio nodweddion amrywiol i wella’r amgylchedd naturiol ar hyd coridor yr afon ac adfer cynefinoedd. Mae’r rhain yn cynnwys plannu glannau afon, gwella’r fflatiau llaid a chyflwyno corsleoedd arnofiol a phlanwyr arnofiol ar gyfer rhywogaethau planhigion lleol. Dylid ymgorffori’r nodweddion hyn mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd llanw cynlluniedig ac ar hyd unrhyw lwybrau glan afon.
Mae ecolegwyr lleol o Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol ardal Aberteifi wedi bod yn trefnu teithiau cerdded bywyd gwyllt wythnosol yn Aberteifi. O dan fframwaith ‘Cardigan Nature Watch’, maent yn cynhyrchu cofnodion bywyd gwyllt ar gyfer yr ardal ac yn rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod eu bioamrywiaeth leol. Dylid cefnogi partneriaethau fel hyn gyda grwpiau bywyd gwyllt lleol. Yn ddiweddar, cychwynnodd y cyngor tref is-bwyllgor bioamrywiaeth i ffurfioli trefniadau gweithio mewn partneriaeth.
Y parth cyhoeddus presennol yng Nghei’r Tywysog Siarl
Ysbrydoliaeth o fannau eraill
Yng Nglannau Harbwr Bryste, mae teithiau cerdded glan yr afon arnofiol wedi’u cyfuno â llwyfannau arnofiol mwy i greu lle ar gyfer seddi cyhoeddus ar lan yr afon, ac maent wedi’u hategu gan blanwyr corsleoedd arnofiol.
O ganlyniad i adfywio’r glannau, mae ochrau dociau Bryste wedi’u trawsnewid o fod yn ardal ddiwydiannol sy’n dirywio i fod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau cerdded, cymdeithasu a hamdden gan ddefnyddio’r glannau. Yn allweddol i’w lwyddiant oedd integreiddio nodweddion amgylcheddol, darparu llwybrau cerdded ar y glannau a nodweddion gwyrddu trefol. Yn arbennig, mae’r adfywio yn darparu corsle arnofiol unigryw yng nghanol ardal drefol.
Mae’r corsleoedd yn darparu mannau nythu ar gyfer adar, yn helpu i sicrhau bod dŵr ffo o adeiladau cyfagos yn glir pan ddaw i mewn i’r harbwr, ac yn creu ymyl meddal deniadol i’r Harbwr Nofio.
Delwedd astudiaeth achos: Corsleoedd a llwybr cerdded yn harbwr Bryste