Menu

Egwyddor 1: Gwneud lle i fyd natur

Sut gall SGG helpu i wneud lle i fyd natur?

Glan y Môr Aberystwyth

Coastal land and see with hill in the background in Aberystwyth
×
Glan y Môr Aberystwyth

Yn ei Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, nododd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sut mae pwysau amgylcheddol yn achosi dirywiad byd-eang mewn bioamrywiaeth ar gyfradd nas gwelwyd o’r blaen.

Mae cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu – gydag 17% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae Cymru eisoes wedi colli adar fel y colomen Fair a bras yr ŷd. Mae hyn yn cael ei achosi gan faterion sy’n cynnwys rheolaeth amaethyddol, trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rhywogaethau ymledol ac arferion rheoli coetir gwael.

Mae newid hinsawdd hefyd yn debygol o gael amrywiaeth o effeithiau ar gynefinoedd wrth i amodau ddod yn anaddas i rai rhywogaethau ffynnu.

Heb seilwaith gwyrdd a glas da ochr yn ochr â thirweddau cynyddol drefol a rheoledig, rydym yn tanseilio gallu byd natur i fod yn gynhyrchiol, yn wydn ac addasu i hinsawdd sy’n newid.

Fodd bynnag, ar raddfa genedlaethol mae arwyddion o obaith – mae’r gorchudd coetir yng Nghymru wedi cynyddu o 4% yn y 1900au cynnar i 15% heddiw, ac mae nifer y ffwlbartiaid yn cynyddu’n araf. Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (2020-21) yn canolbwyntio ar ailadeiladu rhwydweithiau adfer byd natur.

 

Beth mae polisi cenedlaethol a rhanbarthol yn ei ddweud?

Un o’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw ‘Cymru gydnerth’. Mae hyn yn golygu bod angen cynnal a chadw a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol a chreu’r gallu i addasu i newid hinsawdd.

Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Polisi 9 (Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd) yn datgan bod angen gwarchod ardaloedd a neilltuwyd fel rhwydweithiau ecolegol, a nodi cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar SGG fel rhan o fentrau creu lleoedd.

Nod y Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol (2017) yw helpu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 trwy ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur. Mae’n pwysleisio y gall buddsoddi mewn adnoddau naturiol gynyddu gwytnwch ecosystemau a chreu buddion iechyd a llesiant.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau. Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru i gynhyrchu datganiadau Ardal – gan gynnwys un ar gyfer Ardal Canolbarth Cymru.

‘Gwella bioamrywiaeth’ yw un o’r themâu allweddol – ystyried sut y gallwn ni wneud penderfyniadau sy’n helpu i wneud ein hecosystemau yn fwy gwydn er mwyn gallu gwrthsefyll yr heriau a’r argyfyngau a wynebwn, megis newid hinsawdd. Mae’n cydnabod nad oes unrhyw ‘atebion cyflym’ ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu rhwydweithiau o safleoedd natur, addysgu ystod o grwpiau a lleihau rhywogaethau anfrodorol.

Nod egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Strategol (RhANS) a ddatblygwyd gan CNC yw rhoi’r darnau hyn o ddeddfwriaeth ar waith. Wrth wraidd RhANS mae’r ymgyrch i gynnal a gwella ecosystemau gwydn, gan ddefnyddio fframwaith AECCh (Amrywiaeth, Ehangder, Cysylltedd a Chyflwr). Mae ffocws cryf ar gryfhau cysylltiadau/coridorau ar gyfer bywyd gwyllt a phobl allan i gefn gwlad o’r dref.

Gan adeiladu ar hyn, mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru (2020-21) diwygiedig yn adlewyrchu’r angen i adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn ar draws holl dir a morlun y wlad. Mae hyn yn sail i fatrics Cynllun Gweithredu Adfer Natur Ceredigion – proses barhaus i nodi camau gweithredu â blaenoriaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i’w rhoi ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu strategaethau cynefinoedd ar lefel genedlaethol – gan gynnwys Coetiroedd i Gymru. Mae’r strategaeth 50 mlynedd hon yn darparu fframwaith i sicrhau y bydd Cymru’n adnabyddus am ei choetiroedd o ansawdd uchel sy’n gwella’r dirwedd, sy’n briodol i amodau lleol ac sydd â chymysgedd amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd.

Mae’r Strategaeth yn pwysleisio mai Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop, gyda choetir yn gorchuddio dim ond 15% o’r arwynebedd tir, o’i gymharu â chyfartaledd yr UE o 38%. Mae’n gosod targed i gynyddu gorchudd gan 2000 hectar y flwyddyn o leiaf rhwng 2020 a 2030.

Beth mae polisi lleol yn ei ddweud?

Ar adeg ysgrifennu, mae gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd Ceredigion wedi cael eu oedi dros dro yn dilyn ymgynghori â Llywodraeth Cymru. Mae hyn oherwydd pryderon parhaus ynghylch lefelau llygredd ffosffadau sy’n niweidio ecosystemau dŵr a rhywogaethau’r ardal. Nid oes amserlen benodol ar gyfer yr oedi, ond yn y cyfamser bydd CDLl Ceredigion yn parhau i arwain gwaith cynllunio yn y Sir.

Mae Polisi DM14 (Cadwraeth Natur a Chysylltedd Ecolegol) a DM15 (Cadw Bioamrywiaeth Leol) Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol Ceredigion yn ei gwneud yn ofynnol i gynnwys gwella bioamrywiaeth, geoamrywiaeth a chysylltedd ecolegol rhwng safleoedd lleol ym mhob cynnig datblygu. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i goridorau bywyd gwyllt a gwelliannau bywyd gwyllt gael eu hymgorffori mewn datblygiadau trwy dirlunio a dylunio adeiladau.

Yn 2020, asesodd y Cyngor seilwaith gwyrdd presennol Ceredigion. Nododd yr asesiad yr amcan canlynol ar gyfer bioamrywiaeth:

  • Cynyddu’r ddarpariaeth o goetiroedd ac adfer/ehangu mawnogydd.

Mae Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion (2017 – 2022) yn cynnwys egwyddorion yn ymwneud â mynediad i fyd natur. Mae’n nodi uchelgais i Geredigion roi Cynllun Adfer Natur ar waith, ac yn nodi bod gwella bioamrywiaeth yn ganlyniad strategol allweddol.

Beth yw’r heriau a’r pwysau y mae angen i’r Strategaeth SGG hon fynd i’r afael â hwy?

Dywedodd rhanddeiliaid a gymerodd ran yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth hon wrthym, er bod y cefnwledydd gwledig yn gyfoethog o ran asedau naturiol, ychydig iawn o fannau gwyrdd bioamrywiol a gorchudd coed cyfyngedig sydd yn nhrefi Ceredigion. Mae hyn yn dangos bod angen mwy o gynefinoedd ‘cerrig camu’ trwy ardaloedd adeiledig Ceredigion a chysylltiadau cryfach er mwyn i bobl allu cael mynediad i’r cefn gwlad ar gyrion eu trefi.

Yn ôl Coetiroedd i Gymru, roedd y gorchudd canopi coed trefol yng Nghymru yn 16.9% yn 2009 – ar yr ystod ganol yn safleoedd y byd. Fodd bynnag, mae’r gorchudd canopi yn gostwng. Yn ôl adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, amcangyfrifwyd bod gorchudd canopi cymedrig Ceredigion yn y trefi ar gyfer 2013 yn 15.7%, i lawr o 17.2% yn 2009.

Ar gyrion trefi Ceredigion, ‘glaswelltir wedi’i wella’ sy’n dominyddu – sydd â gwerth bioamrywiaeth cyfyngedig. Mae angen mwy o laswelltir llawn natur er mwyn gwella cysylltedd cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Yn y trefi a’r ardaloedd cyfagos (o fewn 2km), glaswelltiroedd yw’r prif fath o gynefin. Dilynir hyn gan gynefin coetir.

Yr amgylchedd dŵr yn Aberaeron

Water with riverside habitats and boats, with the town of Aberaeron in the background.
×
Yr amgylchedd dŵr yn Aberaeron

O fewn y dirwedd ehangach o amgylch trefi Ceredigion, mae nifer o ddynodiadau cadwraeth natur rhyngwladol a chenedlaethol – gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), safleoedd Ramsar, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thros 100 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) – gweler y map rhyngweithiol am ragor o fanylion ar y dynodiadau hyn.

Yn y gogledd (i’r gogledd o Aberystwyth), mae’r Sir yn gorgyffwrdd â Biosffer Dyfi – yr unig biosffer yng Nghymru. Fe’i dynodwyd gan UNESCO fel rhywle lle mae pobl leol yn gweithio gyda bioamrywiaeth a’i ddefnydd cynaliadwy. Angorir y biosffer gan gynefinoedd gwarchodedig gan gynnwys cyforgorsydd mawn, coetiroedd hynafol a chynefinoedd arfordirol ac aberol.

Biosffer Dyfi (Ffynhonnell: Biosffer Dyfi)

A river estuary flowing into the sea with elevated land in the background.
×
Biosffer Dyfi (Ffynhonnell: Biosffer Dyfi)

Mae heriau allweddol o fewn y dirwedd gyfagos yn cynnwys effaith ffermio dwys ar y dirwedd – gan gynnwys effaith plaladdwyr, diraddio pridd, llygru afonydd a darnio cynefinoedd. Mae heriau hefyd yn ymwneud â rheoli coetiroedd.

Mae darnio cynefinoedd ar draws Ceredigion yn bryder mawr i fioamrywiaeth. Mae ysgogwyr allweddol yn cynnwys ffermio dwys a datblygiad trefol sydd wedi’i gynllunio’n wael. Bydd angen dull strategol er mwyn nodi rhwydwaith gwydn o ardaloedd i’w gwarchod a’u gwella er mwyn i natur allu adfer. Dywedodd rhanddeiliaid yr ymgysylltwyd â nhw yn ystod y Strategaeth hon y gall byd natur ddioddef pan na chynllunnir yn briodol ar gyfer natur fel rhan o ddatblygiad newydd.

Yn olaf, mae un o’r heriau mwyaf difrifol sy’n wynebu Ceredigion yn ymwneud ag ansawdd dŵr. Mae llwytho maethynnau mewn afonydd yn cael effeithiau andwyol difrifol ar fioamrywiaeth ac mae angen gweithredu ar frys.

Afon yn Aberaeron

A river with pink and green vegetation alongside, and rocks visible on the river bed.
×
Afon yn Aberaeron

“Er bod enghreifftiau o ddatblygiad cadarnhaol ar gyfer SGG, yn gyffredinol mae’n ymddangos bod dirywiad parhaus o ran dinistrio cynefinoedd trwy dorri coed, cael gwared â gwrychoedd aeddfed ac ardaloedd o brysgwydd. Yn yr un modd mae enghreifftiau da o afonydd yn darparu coridorau ar gyfer natur, ond hefyd enghreifftiau o lygredd o danciau septig a dŵr ffo o rai gweithgareddau amaethyddol.”

– Sylwadau rhanddeiliaid (arolwg)

Mae’r maethynnau hyn (ffosffadau yn bennaf) yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd o wastraff dynol ac anifeiliaid, golchi dillad, glanhau, cemegau diwydiannol, a dŵr ffo gwrtaith. Maent yn achosi tyfiant ffrwydrol o blanhigion dyfrol ac algâu a all arwain at lefelau ocsigen isel – hynny yw, mae’n mygu’r afon a’i bywyd dyfrol cysylltiedig.

O’r 107 o gyrff dŵr a aseswyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2017-19, dim ond 39% pasiodd y targedau ffosfforws newydd ac roedd 61% wedi methu. Roedd y rhan fwyaf o’r cyrff dŵr a fethodd yng Nghanolbarth a De Cymru. Mae hyn yn cynnwys Afon Teifi, a oedd â chyfradd methiant o 50%.

Bydd hefyd yn bwysig i ddarparu digon o “le i anadlu” ar gyfer cyrsiau dŵr Ceredigion ac addasu i bwysau hinsawdd (gweler Egwyddor 4). Mae cyrsiau dŵr mewn ceuffos neu gamlas yn nodweddiadol o fewn trefi Ceredigion a dim ond ychydig o le ar y glannau sydd ar gael ar gyfer rhywogaethau sy’n dibynnu ar y “cynefinoedd ymylol” hyn. Mae hyn oll yn cael effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth.

Crynodeb o’r materion allweddol

  • Yr angen i gefnogi a chysylltu bioamrywiaeth yn well trwy ‘wyrddu’ ardaloedd adeiledig, gan gynnwys cynyddu’r gorchudd coed trefol.
  • Darnio cynefinoedd – yn cael ei ysgogi gan ffactorau sy’n cynnwys ffermio dwys a datblygiadau newydd.
  • “Llwytho maethynnau” mewn afonydd yn y Sir – ac effeithiau difrifol hyn ar ansawdd dŵr a bywyd dyfrol.
  • Yr angen i fioamrywiaeth addasu i effeithiau anochel newid hinsawdd – gan gynnwys rhoi ‘lle i anadlu’ ar gyfer cyrsiau dŵr.
  • Yr angen i roi mwy o ystyriaeth i rwydweithiau natur fel rhan o gynllunio datblygiadau newydd.