Llanbedr Pont Steffan
Trosolwg o gyfleoedd SGG yn Llanbedr Pont Steffan
Trosolwg o Llanbedr Pont Steffan
Stryd yng nghanol Llanbedr Pont Steffan
Mae Llanbedr Pont Steffan wedi’i lleoli yng nghanol dyffryn Teifi. Mae Afon Teifi yn nodwedd allweddol yn y dirwedd ehangach, yn rhedeg trwy dirwedd clytiog o gaeau amaethyddol, porfeydd gwlyb, blociau coetir a ffen helyg.
Saif y dref ar dir isel ar lan ogleddol Afon Teifi. I’r gogledd a’r gorllewin, mae’r bryniau’n darparu cefndir coediog gwledig. Mae dwy lednant i’r Teifi (Nant Creuddyn i’r gorllewin ac Afon Dulas i’r dwyrain) wedi cerfio dyffrynnoedd rhwng y bryniau hyn.
Yn ôl cyfrifiad 2011, mae gan y dref boblogaeth o oddeutu 3,000. Tyfodd y dref o amgylch yr eglwys ganoloesol Eglwys San Pedr a Chastell Steffan – gan roi iddi’r enw Cymraeg Llanbedr Pont Steffan iddo. Yn ddiweddarach rhoddwyd siarter iddi i gynnal marchnad a daeth yn ganolfan wledig bwysig ar ffordd y porthmyn, ac mae’n gysylltiedig â masnach wlân Cymru.
Sefydlwyd Coleg Dewi Sant yn y 19eg ganrif ac mae bellach yn brifysgol yn ei rhinwedd ei hun. Mae hyn yn golygu mai Llanbedr Pont Steffan yw’r dref brifysgol leiaf yn y DU. Heddiw, mae’r brifysgol rhan o’r gwaith o adfywio tref Llanbedr Pont Steffan trwy arwain prosiectau yn y gymuned sy’n ceisio adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y dref.
Mae ‘asedau glas’ yn ffurfio llawer o rwydwaith SGG y dref. Mae afonydd Teifi a Dulas yn rhan o ddynodiadau ACA a SoDdGA Afon Teifi. Mae’r afonydd yn gartref i nifer o rywogaethau pysgod pwysig, y dyfrgi a llygoden y dŵr.
Mae Afon Dulas hefyd yn cael ei nodi fel tiriogaeth silio bwysig ar gyfer eogiaid ac mae Nant Creuddyn yn darparu cyswllt â Llyn Falcondale yn y gogledd.
Mae cysylltiadau teithio llesol yn yr ardal gyfagos yn cynnwys y llwybr rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cerddwyr. Mae’r dref hefyd ar Lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 82, sy’n darparu cyswllt beicio di-dor i Landysul ac Aberteifi yn y de, a hyd at Dregaron ac Aberystwyth yn y gogledd (ond mae llawer o’r llwybr ar y ffordd).
Mae rhai blociau o goetir hynafol ar gyrion y dref, fodd bynnag, mae presenoldeb planhigfeydd conwydd yn cyfyngu ar werth bioamrywiaeth rhywfaint o’r coetir.
Mae Llanbedr Pont Steffan wedi’i nodi fel rhan o Ardal Twf Rhanbarthol Dyffryn Teifi yn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.
“Wrth weithio ar y Cynllun Lle ar gyfer Llanbedr Pont Steffan roedd yn anodd gweld unrhyw nodwedd ddiffiniol benodol y gallai’r dref ei defnyddio fel rhan o’i hunaniaeth a’i brandio. Mae yna lawer o amwynderau naturiol gwych yn yr ardal, ond nid un sydd yn ddigon amlwg i’w farchnata er budd y dref a’r ardal gyfagos.”
– Rhanddeiliad, arolwg ar-lein
Gweler Atodiad B am grynodeb o’r holl sylwadau gan randdeiliaid.
Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Llanbedr Pont Steffan?
Cyflwr cynefinoedd naturiol: Ar hyn o bryd mae llai nag 14% o asedau SGG Llanbedr Pont Steffan yn bodloni safon SINC (Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur), ac mae llawer o’r ardaloedd hyn yn gysylltiedig â chynefinoedd dŵr croyw. Mae gorchudd coed yn y dref yn cynnwys coed amwynder yn bennaf ac mae gan y dref lefel isel o orchudd coetir. Mae llawer o’r coetir yng nghyffiniau Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys planhigfeydd conifferaidd, gyda gwerth cyfyngedig ar gyfer bioamrywiaeth a storio carbon. Mae rheolaeth well o goetiroedd a choridorau afonydd ar gyfer gwerth cynefinoedd yn flaenoriaeth ar gyfer Llanbedr Pont Steffan.
Economi leol a thir y cyhoedd: Mae nifer o eiddo gwag hirdymor ar hyd stryd fawr Llanbedr Pont Steffan. Er mwyn adfywio’r stryd fawr, bydd angen marchnata Llanbedr Pont Steffan mewn modd sy’n denu ymwelwyr ac yn annog pobl leol ac ymwelwyr i aros yng nghanol y dref. Gallai hyn gynnwys cyflwyno mwy o fannau chwarae cyhoeddus yn agos at ganol y dref, gwella cysylltiadau teithio llesol rhwng y dref a champws y brifysgol, a lleihau dominyddiath ceir yng nghanol y dref.
Perygl o lifogydd: Gorlifdir Teifi sy’n dominyddu’r ffordd ddeheuol i’r dref. Mae’r afon yn gysylltiedig ag ardal sydd â risg uchel o lifogydd, sy’n ymestyn i fyny dyffryn Dulas. Mae rhai o adeiladau’r brifysgol mewn perygl mawr o lifogydd. Mae’r mwyafrif o’r dref yn parhau i fod y tu allan i’r gorlifdir, fodd bynnag, arweiniodd y digwyddiad llifogydd difrifol diweddaraf yn 2018 at y dref yn cael ei hynysu o’r de. Arweiniodd hefyd at lifogydd yn archfarchnad y Co-op, y maes parcio cysylltiedig ac eiddo busnes cyfagos. Dylid archwilio cyfleoedd Rheoli Llifogydd yn Naturiol i sicrhau bod unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gweithio mewn cytgord ag asedau naturiol y dref.
Ansawdd dŵr: Mae’r her allweddol sy’n gysylltiedig ag ansawdd dŵr ar hyd Afon Teifi yn ymwneud â’i ansawdd ar gyfer pysgod. Asesir bod ansawdd yr afon yn gymedrol ar gyfer pysgod oherwydd effaith ddynol. Dangosodd yr asesiad diweddaraf o ansawdd yr afon yn erbyn targedau ffosfforws fod y rhannau o’r afon yn Llanbedr Pont Steffan yn perfformio’n dda o’u cymharu â’r lefelau targed uchaf. Fodd bynnag, mae’r llwytho cronnol ar yr afon yn golygu ei bod yn dechrau mynd yn uwch na’r targedau hyn erbyn iddi gyrraedd Llandysul.
Cerdded a beicio: Mae llwybrau hamdden yn gyfyngedig yn Llanbedr Pont Steffan. Mae hyn yn cyfyngu ar fynediad i asedau gwyrdd a glas hynod werthfawr y dref. Mae cynnal a chadw llwybrau presennol wedi’i nodi fel her, lle mae angen gwneud gwaith i sicrhau bod ystod eang o bobl yn gallu eu defnyddio ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion yn y dref ac o’i chwmpas.
Ymdeimlad o le: Gellid cefnogi hanes diwylliannol cyfoethog y dref a’i chysylltiadau â hunaniaeth Gymreig yn well trwy wneud gwelliannau i’r rhwydwaith SGG. Mae Llanbedr Pont Steffan yn lleoliad pwysig ar hyd llwybrau allweddol trwy Gymru. Gellid cysylltu hyrwyddo hyn â dulliau eraill o hyrwyddo llwybrau hamdden ehangach.
Prosiect blaenllaw: Parc llinellog Llanbedr Pont Steffan
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler y dudalen benodol ar gyfer y prosiect blaenllaw Parc Llinellog Llanbedr Pont Steffan.
Pwrpas: Creu ‘parc llinellog’ o strydoedd gwyrdd, cyfeillgar i bobl trwy Lanbedr Pont Steffan. Byddai’r llwybr yn darparu cysylltiad allweddol rhwng tir y brifysgol, ysgolion lleol a mannau gwyrdd.
Prosiect 2: Cyd-ddylunio gofod ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau
Pwrpas: Creu man gwyrdd lle gall oedolion ifanc gymdeithasu, chwarae a chael ymdeimlad o berchnogaeth dros eu man cyhoeddus.
Caeau chwarae ger Heol Pontfaen
Tir y Brifysgol
Partneriaid posibl: Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, cymuned leol o bobl ifanc, ysgolion lleol, Canolfan Tir Glas, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Disgrifiad: Er mwyn goresgyn unrhyw broblemau canfyddedig o leoedd ‘gwrthgymdeithasol’, mae angen mannau gwyrdd ar bobl ifanc lle gallant deimlo’n hapus i gymdeithasu, chwarae a mwynhau ymdeimlad o berchnogaeth. Mae lle croesawgar i bobl ifanc yn adnodd llesiant pwysig i fynd i’r afael â problemau iechyd meddwl sy’n cynyddu.
Yr allwedd i lwyddiant gyda’r mannau hyn yw cyd-ddylunio gofalus i sicrhau bod y gofod yn adlewyrchu anghenion yr holl ddefnyddwyr. Dylai hyn ddechrau trwy ofyn i ysgolion lleol a grwpiau cymunedol beth yr hoffent ei weld yn eu mannau lleol. Mae rhanddeiliaid yn Llanbedr Pont Steffan eisoes mewn trafodaethau cynnar ynghylch lleoliadau posibl ar gyfer parc sglefrio. Gellid ehangu’r syniad hwn i greu gofod cymdeithasol amlswyddogaethol.
Gall gofod croesawgar ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau gynnwys ystod eang o swyddogaethau, gweithgareddau a mannau. Nid oes angen gorgynllunio’r mannau hyn ond dylent ganiatáu ar gyfer ychydig o ‘anhrefn cyfforddus’ fel bod gan bobl ifanc rywfaint o hyblygrwydd yn y gofod. Mae seddi anffurfiol, hamogau, byrddau picnic a chadeiriau dec i gyd yn nodweddion posibl. Mae opsiynau eraill yn cynnwys waliau ar gyfer murluniau, graffiti a chelf, mannau hyblyg ar gyfer ymarferion ffitrwydd a gofodau y gellir eu defnyddio ar gyfer gemau, crefftau, ymarfer dawns neu gerddoriaeth.
Gellid defnyddio nodweddion naturiol i greu ardaloedd tawelach, addas ar gyfer meddwlgarwch. Dylid cynnwys seddi ar gyrion mannau cyhoeddus, lle gall pobl ifanc llai hyderus gael mynediad i fannau cyhoeddus.
Mae pobl ifanc yn ymddiddori fwyfwy mewn garddio ac ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol. Er enghraifft, bu tîm addysg Dinas Diwylliant Hull yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc 14 i 16 oed sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol brif ffrwd i greu cuddfan i weithredu fel hyb ar gyfer pobl ifanc o fewn un o randiroedd y ddinas.
Bydd angen trafod ymhellach â thirfeddianwyr i neilltuo safle y gellir cael mynediad iddo ar hyd llwybrau diogel i gerddwyr a lle y gellir cadw sŵn a gwrthdaro rhwng amwynderau i’r lleiaf posibl. Mae’r brifysgol wedi mynegi diddordeb cychwynnol mewn helpu Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan i ddod o hyd i safle ar gyfer parc sglefrio.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Make Space for Girls yn ymgyrchu dros gyfleusterau a mannau cyhoeddus i ferched yn eu harddegau. Mae ei ymchwil wedi canfod y gall cyfleusterau y mae merched yn eu harddegau yn awyddus i’w cael yn cynnwys: goleuadau gwell, mynedfeydd lletach i ardaloedd chwarae, fannau chwaraeon llai wedi’u hisrannu, mannau eistedd wedi’u trefnu mewn grwpiau yn hytrach na llinellau, a llwybrau cylchol o amgylch ymylon y parc. Fodd bynnag, ei argymhelliad allweddol bob amser yw gofyn i’r merched beth y maen nhw am eu cael o’r lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.
Mae’r prosiect The Shade yn Waltham Forest (Llundain) wedi trawsffurfio darn o dir gwag o fewn stad leol trwy weithio a siarad â 60 o bobl ifanc. Roedd y bobl ifanc wedi helpu i fapio’r ardal er mwyn nodi beth oedd yn bwysig, cyn cydweithio ar ddyluniadau a hyd yn oed helpu i adeiladu’r safle ei hun. Erbyn hyn mae’r safle yn ofod wedi’i adfywio i bawb, gyda seddi, planwyr, llwyfan a bwrdd tenis bwrdd.
Delwedd astudiaeth achos: The Shade Project (Build Up)
Prosiect 3: Ymestyn rhwydwaith beicio Llanbedr Pont Steffan
Pwrpas: Troi darnau o hen reilffordd yn llwybrau beicio di-draffig. Byddai hyn yn cysylltu canol tref Llanbedr Pont Steffan yn well â phentrefi cyfagos a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ehangach. Byddai creu ac adfer cynefinoedd ychwanegol ar hyd llwybrau beicio hefyd yn creu coridor gwyrdd strategol ar gyfer bywyd gwyllt a pheillwyr.
Llwybr glan afon y Dulas
Mae hen reilffordd Llanbedr Pont Steffan yn ffinio â thir y brifysgol a chaeau cyfagos
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Canolfan Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Llywodraeth Cymru
Disgrifiad: Gallai troi hen reilffyrdd Llanbedr Pont Steffan yn llwybrau beicio di-draffig greu llwybr di-dor o Llanbedr Pont Steffan i’r Llwybr Beicio Cenedlaethol 822. Byddai hyn yn ei dro yn cysylltu Llanbedr Pont Steffan â’r arfordir yn Aberaeron, yn ogystal â Llwybr Ystwyth i’r gogledd.
Mae’r ddau lwybr yn cael eu hystyried fel rhan o Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Byddai creu llwybrau di-draffig o fudd i les a diogelwch y gymuned a’r bobl leol, y mae llawer ohonynt yn beicio ar hyd lonydd cul er mwyn cyrraedd trefi a phentrefi cyfagos ac mannau prydferth lleol. Dylid rhoi blaenoriaeth i wella mynediad ar hyd llwybrau glan afon presennol Llanbedr Pont Steffan ac i fannau gwyrdd lleol, a chreu cysylltiadau y tu allan i’r dref i gyrchfannau fel Llyn Falcondale a Choedwig Long Wood.
Gellid gwneud y mwyaf o werth bioamrywiaeth y llwybrau hyn trwy gynnal a chadw gwrychoedd a chyflwyno plannu blodau gwyllt ar hyd ffiniau’r llwybrau – gan helpu i gynnal a chysylltu bywyd gwyllt a pheillwyr ar draws Ceredigion.
Byddai ymestyn llwybrau poblogaidd Ceredigion i Lanbedr Pont Steffan yn annog mwy o gerddwyr a beicwyr yn yr ardal i ymweld â busnesau yn y dref. Yna gallai’r dref gael ei marchnata’n fwy llwyddiannus fel lleoliad ar gyfer crwydro Ceredigion. Byddai hyn yn ehangu’r cynnig lletygarwch yn y dref. Byddai dynodi llwybr yn well (ac yn gyson) ar hyd y llwybrau ac i mewn i ganol y dref yn darparu cefnogaeth bellach. Dylai pob ‘llwybr beicio’ fod yn llwybrau priodol ar gyfer cerdded, beicio a cherbydau ag olwynion (mewn cadair olwyn neu’r tebyg).
Gellid gwella cerdded a beicio trwy’r dref trwy ail-neilltuo lle i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cerbydau ag olwynion, gyda llwybrau beicio ar wahân a phalmentydd lletach ar ffyrdd prysur. Byddai gwella’r gwaith cynnal a chadw ar ‘lwybrau cefn’ trwy’r dref hefyd yn cefnogi’r agenda hon.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Llwybr Mawddach yn llwybr beicio naw milltir â golygfeydd trawiadol gydag wynebau caled di-draffig ardderchog sy’n ymestyn o dref hanesyddol Dolgellau yn Eryri i’r tref glan môr boblogaidd Abermaw. Mae’r llwybr yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ac yn rhedeg ar hyd yr hen reilffordd.
Delwedd astudiaeth achos: Llwybr Mawddach (Darganfod Gogledd Cymru)
Prosiect 4: Gwlyptiroedd Dulas a Chreuddyn
Pwrpas: Creu cynefinoedd gwlyptir i wella iechyd coridorau Nant Creuddyn ac Afon Dulas. Byddai’r buddion yn cynnwys mwy o fioamrywiaeth, ansawdd dŵr gwell, lleihau’r perygl o lifogydd yn Llanbedr Pont Steffan, a chreu mynediad i’r gwlyptir fel adnodd llesiant cymunedol.
Llwybr glan yr afon Dulas
Capel Brondeifi
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Cerdded er Lles, Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ysgolion lleol, Canolfan Tir Glas, Co-op, Sefydliad Gwy ac Wysg.
Disgrifiad: Mae safle wedi’i neilltuo i’r de o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (i’r gogledd o Gapel Brondeifi) i greu gwlyptir. Mae’r safle yn rhan o orlifdir naturiol i fyny’r afon o Afon Teifi, ar goridor Afon Dulas, ac mae’n rhan o ystâd y brifysgol. Mynegwyd diddordeb eisoes gan randdeiliaid i archwilio defnyddiau addysgol, defnyddiau cymunedol a gwelliannau bioamrywiaeth ar y safle.
Yn ddiweddar ymunodd y brifysgol a chyngor y dref ag ymdrechion i ffurfioli llwybr afon newydd heibio’r safle hwn, o’r Co-op i dir y brifysgol. Gellid cyflwyno llwybrau pren sy’n cysylltu â llwybr yr afon i ddarparu mynediad i’r safle gwlyptir, a gellid archwilio rhaglen lesiant gyda’r brifysgol ac ysgolion lleol. Gellid datblygu byrddau addysg mewn partneriaeth â grwpiau natur lleol i greu llwybr natur bach trwy’r gwlyptir.
Mae ffurfioli’r gorlifdir yn wlyptir yn un ffordd o greu ‘uwch system bioamrywiol’. Mae hyn oherwydd bod gwlyptiroedd yn gallu cynnal nifer ac amrywiaeth mor fawr o rywogaethau. Mae gwlyptiroedd yn cael eu creu gyda “pheirianneg feddal” i greu cyfres o byllau a mannau dan ddŵr sy’n ffurfio ecosystem ar gyfer plannu llwyni gwlyptir, gweiriau a choed. Maent yn arafu llif y dŵr, sy’n lleihau’n naturiol y perygl o lifogydd dŵr wyneb i lawr yr afon o safleoedd gwlyptir.
Byddai creu gwlyptir hefyd yn lleihau lefel y maethynnau i lawr yr afon o Afon Teifi, gan gynnwys lefel y ffosffadau. Wrth i ddŵr lifo’n araf trwy’r gwlyptir, mae prosesau sy’n digwydd yn naturiol yn amsugno, trawsnewid, secwestru ac yn cael gwared â ffosffadau, nitradau a chemegau eraill.
Mae’n bosibl y bydd yr ardal rhwng gwaith trin carthion y dref a llednant Nant Creuddyn yn gyfle i ymgorffori ardal ychwanegol o wlyptiroedd. Gellid defnyddio’r rhain i drin yr elifiant ymhellach a chael gwared â maethynnau. Ar wahân i fanteision perygl o lifogydd, gallai hyn helpu i gyfrannu at wella iechyd Afon Teifi, yn ardal Llanbedr Pont Steffan ac ymhellach i lawr yr afon.
Yn union i lawr yr afon o’r safle, cafodd archfarchnad a maes parcio’r Co-op eu heffeithio’n wael gan lifogydd yn 2018. Fel rhan o gynllun ehangach, mae potensial pellach i ôl-osod safle’r Co-op i ymgorffori gerddi glaw, plannu coed a nodweddion eraill i helpu i amsugno glaw a lleihau’r dŵr ffo o’r arwynebau caled gerllaw.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae’r prosiect Gwlyptiroedd Integredig yn Swydd Henffordd wedi’i roi ar waith er mwyn mynd i’r afael â phroblem llwytho maethynnau (ffosfforws yn benodol) ar ACA Afon Llugwy – yn debyg i’r problemau hynny a welwyd ar hyd Afon Teifi.
Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu system newydd o wlyptiroedd ar dir drws nesaf i trin carthion Dŵr Cymru / Welsh Water yn Luston. Mae’r gwlyptiroedd hyn yn derbyn dŵr o’r gwaith trin carthion ac yn darparu triniaeth ychwanegol i’r dŵr cyn iddo lifo i Afon Llugwy. Gellid efelychu’r dull hwn ar y tir rhwng gwaith trin carthion y Creuddyn a Llanbedr Pont Steffan, gan ddarparu buddion SGG lluosog.
Cyflwynodd y rhaglen ‘SDCau ar gyfer Ysgolion’, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, wlyptiroedd bach mewn deg ysgol mewn dalgylch yng Ngogledd Llundain oedd mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb. Daethant hefyd yn fannau lle gallai myfyrwyr chwarae a dysgu yn yr awyr agored. O ganlyniad, daeth yr ysgolion yn hybiau ar gyfer ailgysylltu’r bobl leol â’u hafon. Gallai rhaglen debyg gael ei harwain gan ysgolion lleol yn Llanbedr Pont Steffan fel rhan o brosiect y gwlyptir ar raddfa fawr, yn canolbwyntio ar ailgysylltu pobl ifanc ag Afon Dulas.
Delwedd astudiaeth achos: Gwlyptir trefol (Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir)
Delwedd astudiaeth achos: Plant yn Ysgol Gynradd Hollickwood yn garddio ar gyfer prosiect “SDCau i ysgolion”.
Prosiect 5 – Ailgyflwyno’r afanc i Afon Teifi
Pwrpas: Adeiladu ar ymdrechion i ailgyflwyno’r afanc a fu’n ddiflanedig yn lleol ar un adeg i Gymru, gan helpu i greu cynefinoedd gwlyptir amrywiol trwy ei swyddogaeth fel peirianwyr ecosystem naturiol.
Afon Teifi (ger y Co-op)
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, yr Ymddiriedolaethau Natur (trwy Brosiect Afancod Cymru).
Disgrifiad: Mae afancod eu hunain yn ateb seiliedig ar natur. Trwy gnoi a chwympo coed ac adeiladu argaeau, mae afancod yn agor y coetir o’u cwmpas, gan ganiatáu i blanhigion arloesol, sydd angen llawer o oleuni. Mae argaeau afancod yn lleihau llif dŵr afonydd a nentydd ac yn gorlifo’r ardal leol, gan greu’r gofynion sylfaenol ar gyfer ffurfio cynefinoedd gwlyptir cymhleth.
Am y rheswm hwn, gelwir afancod yn ‘rhywogaeth allweddol’. Mae eu gweithgareddau o fudd i ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill. Mae buddion uniongyrchol eraill poblogaethau afancod yn cynnwys:
- Glanhau a hidlo llygryddion o’r dŵr.
- Storio dŵr croyw ychwanegol mewn gwlyptiroedd sydd newydd eu creu.
- Storio carbon o fewn gwaddod organig sy’n setlo.
- Creu rhwydwaith o afonydd sy’n symud yn arafach a dŵr llonydd sy’n gweithredu fel amddiffynfa rhag llifogydd.
Trafodwyd afancod Afon Teifi yng Nghymru gan yr ysgolhaig Gerallt Gymro ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Heddiw, mae cynlluniau ar droed i ailgyflwyno’r Afanc Ewrasiaidd i Gymru am y tro cyntaf ers 800 mlynedd.
Mae astudiaethau dichonoldeb wedi canfod bod prif gwrs cyfan Afon Teifi (o Gors Caron i lawr yr afon) yn addas fel cynefin afancod. Byddai ailgyflwyno afancod i’r Teifi nid yn unig yn rhoi cyfle i drigolion Llanbedr Pont Steffan weld a mwynhau un o famaliaid prinnaf a mwyaf carismatig Prydain, ond byddai hefyd yn gweithredu fel ased economaidd i hybu rhagolygon twristiaeth bywyd gwyllt yn yr ardal leol.
Mae angen gwneud astudiaethau pellach i ystyried ymarferoldeb ailgyflwyno afancod i Afon Teifi. I gefnogi cais am drwydded i Gyfoeth Naturiol Cymru, mae angen cynigion manylach ar drawsleoli a rhyddhau. Dylai’r rhain ystyried: safle derbyn addas, maint y boblogaeth sy’n cael ei rhyddhau, y stoc rhoddwyr, rhyddhau diogel, monitro hirdymor a chyllid parhaus.
Dylid cefnogi’r broses hon trwy ymgysylltu’n agos â’r gymuned leol. Gellid defnyddio’r Rhwydwaith Rheoli Afancod presennol i helpu i reoli’r afancod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n codi o wrthdaro â gweithgareddau dynol.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Yn 2021 ailgyflwynwyd teulu o dri afanc i Warchodfa Natur Cors Dyfi Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn. Daeth y boblogaeth rhoddwyr o’r Alban o dan drwydded gan NatureScot. Mae’r prosiect peilot pum mlynedd hwn yn rhan o Brosiect Adfer Naturiol Dalgylch Dyfi, sydd â’r nod o adfer amgylchedd naturiol yr afon a gwella rheolaeth dŵr. Er nad yw’n ailgyflwyniad llawn i’r gwyllt, mae cael afancod mewn canolfan ymwelwyr fel Cors Dyfi yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad afancod a sut y gall afancod helpu i adfer ecosystemau.
Rhwng 2009 a 2010, rhyddhawyd 16 o afancod i Goedwig Knapdale fel rhan o Lwybr Afancod yr Alban, yr ailgyflwyniad trwyddedig cyntaf o famal i’r DU. Yn 2017 fe wnaeth Prosiect Atgyfnerthu helpu’r boblogaeth wreiddiol i fod yn fwy amrywiol yn enetig. Mae dod ag afancod yn ôl i ganol Argyll wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth leol a busnesau lleol trwy gyfleoedd twristiaeth. Mae poblogaeth Knapdale yn enghraifft glir y gall afancod, yn y lleoliad cywir a chyda’r caniatâd a’r ymgynghoriad cywir yn eu lle, ffynnu heb greu gwrthdaro dynol.
Delwedd astudiaeth achos: Afanc blwydd oed yn Alhambra Creek (Forestry and Land Scotland)
Delwedd astudiaeth achos: Gwylio afanc yn Barnluasgan Heart of Argyll Wildlife (Scottish Wildlife Trust)