Menu

Egwyddor 3: Creu cymunedau hapus ac iach

Sut gall SGG helpu i greu cymunedau hapus ac iach?

Delwedd: cyfleoedd cerdded ar lan y môr yng Ngheredigion.

People walking along a seafront gravel path.
×
Delwedd: cyfleoedd cerdded ar lan y môr yng Ngheredigion.

Gwyddys ers tro bod mynediad i fannau gwyrdd a glas ar garreg eich drws o fudd i iechyd corfforol. Fodd bynnag, heddiw mae’n fwyfwy gysylltiedig ag iechyd meddwl – boed yn llwybr troed i gerdded y ci yn y bore, coed deiliog ar y stryd fawr leol, neu ardal leol i chwarae. Roedd y profiad o bandemig Covid-19 o 2020 ymlaen wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r buddion hyn.

I bobl ifanc, mae cyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored, yn enwedig mewn amgylchedd naturiol, yn lleihau salwch meddwl yn sylweddol.

Nid fforwm ar gyfer ymarfer corff yn unig yw mannau naturiol. Gallant hefyd ddarparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a chymdeithasu. Gall ‘parc poced’ neu fainc o fewn ardal breswyl ddarparu lle ar gyfer rhyngweithio achlysurol. Gall rhandiroedd a gerddi cymunedol gysylltu pobl trwy wirfoddoli.

Mae rhwydweithiau SGG yn cael eu cydnabod fwyfwy fel rhan o ofal iechyd ataliol. Mae ‘presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd‘ yn un ffordd arloesol y mae’r GIG yn ei hystyried i bresgripsiynu ymyriadau sy’n seiliedig ar natur ar gyfer ystod o bryderon iechyd. Mae’n gweithio trwy gysylltu pobl â gweithgareddau ‘gwyrdd’ lleol, megis grwpiau cerdded, gerddi cymunedol a phrosiectau tyfu bwyd.

Beth mae polisi cenedlaethol a rhanbarthol yn ei ddweud?

Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2015. Mae’n canolbwyntio ar sut i wella ansawdd bywyd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

Sefydlodd y Ddeddf saith nod llesiant. Mae’r nodau’n flociau adeiladu pwysig ar gyfer strategaethau fel hyn, ac maent wedi’u hintegreiddio yn y themâu sy’n llywio’r Strategaeth hon.

Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Polisi 9 (Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd) yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio atebion yn seiliedig ar natur o fewn y rhwydwaith SGG fel dull allweddol ar gyfer cydraddoldeb cymdeithasol a llesiant.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchu Datganiadau Ardal. Rhai o’r blaenoriaethau allweddol yn Natganiad Ardal Canolbarth Cymru yw helpu pobl i gysylltu â’u hamgylchedd lleol er mwyn gwella iechyd a llesiant, a datblygu cyfleoedd i ddefnyddio byd natur fel arf mewn meddygaeth ataliol.

Ategir hyn gan y cynllun gweithredu economaidd ‘Ffyniant i Bawb’, sy’n annog cynnydd mewn gweithgarwch corfforol er mwyn creu Cymru iach ac egnïol, unedig a chysylltiedig.

Mae Polisi Cynllunio Cymru, yn amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru ac yn nodi’r seilwaith gwyrdd fel ffordd effeithiol o wella iechyd a llesiant trwy gysylltu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol.

Yn ei adroddiad yn 2002 ‘Datblygu safonau ar gyfer mannau gwyrdd naturiol hygyrch mewn trefi a dinasoedd‘, cymeradwyodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru y Safonau Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch i’w defnyddio yng Nghymru. Mae polisïau Ceredigion ei hun yn cyfeirio at safonau Meysydd Chwarae Cymru.

O ran cyfleoedd chwarae, mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn rhoi dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardal. Cyflawnir hyn trwy Asesiadau Digonolrwydd Chwarae.

Ffordd arall o wella canlyniadau iechyd trwy seilwaith yw trwy ddarparu llwybrau teithio llesol gwyrdd. Mae’r Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn annog mwy o bobl i wneud teithiau rheolaidd ar droed ac ar feic. Yn olaf, mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) yn rhoi hawl mynediad ar droed i bawb at ddibenion gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored.

 

Beth mae polisi lleol yn ei ddweud?

Mae Polisi LU22 (Darpariaeth Gymunedol) Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol Ceredigion yn ceisio cynnal a gwella’r ddarpariaeth gymunedol trwy geisio cefnogi datblygu darpariaeth gymunedol gynaliadwy newydd a thrwy wrthsefyll colli’r ddarpariaeth gymunedol bresennol. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau hamdden ac adloniant a mannau agored.

Yn 2020, asesodd y Cyngor seilwaith gwyrdd presennol Ceredigion. Nododd yr asesiad yr amcanion canlynol yn ymwneud â chymunedau ac iechyd:

  • Cefnogi ac annog yr holl asedau SG lle bo modd, gan roi ystyriaeth arbennig i’r mwynhad y mae’r safleoedd yn ei roi i gymunedau lleol.
  • Cynyddu’r ddarpariaeth o lwybrau beicio a cherdded newydd sy’n cysylltu aneddiadau ac yn gwella cysylltedd rhwng trefi a phentrefi lloeren.

Mae Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2019 Ceredigion yn rhan o agenda gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, sy’n cydnabod y gall plant brofi tlodi oherwydd diffyg mynediad i fannau chwarae. Mae’r asesiad yn nodi bod darpariaeth chwarae yn brin mewn lleoliadau gwledig yng Ngheredigion a bod cyllid ar gyfer gwasanaethau o’r fath yn fwyfwy tynn. Fodd bynnag, mae’n nodi y gellid mynd i’r afael â hyn trwy wella mynediad i fannau chwarae presennol. Mae hefyd yn nodi rôl bwysig cael mynediad gwell i asedau chwarae trwy seilwaith teithio llesol.

Mae Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion yn cynnwys sawl egwyddor sy’n ymwneud â chymunedau iach. Mae’n nodi amcanion llesiant clir, gan gynnwys hyrwyddo a meithrin ffyrdd iach a gweithgar o fyw yn y gymuned. Un canlyniad dymunol clir y strategaeth yw darparu mwy o gyfleoedd i drigolion Ceredigion groesawu ffyrdd o fyw iach ac egnïol.

Beth yw’r heriau a’r pwysau y mae angen i’r Strategaeth SGG hon roi sylw iddynt?

Delwedd: Rhandiroedd yn Aberaeron.

Allotment garden with a shed and buildings and hills in the background.
×
Delwedd: Rhandiroedd yn Aberaeron.

“Mae Ceredigion yn sir hardd gyda rhai trysorau fel y gwarchodfeydd natur, os ydych chi’n gwybod ble i fynd… Ond, efallai nad yw llwybrau troed a ‘choridorau gwyrdd’ yn hygyrch nac yn amrywiol iawn o ran natur.”

– Sylwadau rhanddeiliaid (arolwg)

 

Mae data ONS yn dangos bod disgwyliad oes iach ar gyfer dynion a merched yn 2016-18 yng Nghanolbarth Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru yng Ngheredigion.

Mae Asesiad Llesiant Ceredigion yn dangos bod gan y Sir lefelau is o ordewdra ymhlith plant (10.3%) o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 12%. Mae ychydig dros 52% o blant ysgol 3 – 11 oed yn cymryd rhan mewn o leiaf dri gweithgaredd yr wythnos.

Canfu’r asesiad hefyd fod lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion hefyd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Fodd bynnag, mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn nodi gwahaniaethau gofodol mewn iechyd rhwng gwahanol rannau o’r Sir – gyda phocedi o amddifadedd iechyd uwch (yn cynnwys iechyd corfforol a meddyliol) yn arbennig. Mae hyn i’w weld yn ardaloedd trefol de Aberystwyth a de Aberteifi.

O ran darpariaeth chwarae, mae Asesiad Llesiant Ceredigion yn nodi, o’r 151 o drefi a phentrefi yng Ngheredigion, fod gan 74 ohonynt le chwarae. Mae hyn yn golygu nad oes lle chwarae gan 77 o drefi a phentrefi Ceredigion – fodd bynnag mae llawer o’r rhain yn debygol o fod yn bentrefannau bach, gwledig.

Delwedd: Lle chwarae yn Aberaeron

Grass area with housing in the background, football goalposts and a wooden and metal installed play area.
×
Delwedd: Lle chwarae yn Aberaeron

Mae ansawdd aer Ceredigion yn gymharol dda o’i gymharu â gweddill y wlad. Yn 2018, roedd lefel y crynodiad nitrogen ocsid (NO2) yng Ngheredigion yn 5 o’i gymharu â 9 yn genedlaethol. Fodd bynnag, mae crynodiadau o ansawdd aer gwael mewn rhai ardaloedd – gan gynnwys ardaloedd mwy dwys fel Aberteifi, Adpar a de Aberystwyth.

Mae rhaniad trefol-gwledig amlwg yng Ngheredigion. Gwelir datgysylltiad daearyddol rhwng trigolion trefol Ceredigion a safleoedd dynodedig daearol y Sir, y mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u lleoli yn y gogledd a’r dwyrain.

Mae anghenion a heriau iechyd yn debygol o newid yn unol â demograffeg newidiol Ceredigion. Mae canlyniadau cyfrifiad 2021 yn dangos bod mwy nag 1 o bob 4 o bobl yng Ngheredigion yn 65+ oed. Rhwng 2011-2021, bu cynnydd o tua 17% yn y bobl yn y grŵp oedran hwn, ynghyd â gostyngiad o tua 12% yn y rhai 15 – 64 oed.

Disgwylir i’r duedd hon barhau yn y dyfodol.

Delwedd: Promenâd arfordirol yn Aberaeron.

Concrete seafront promenade with lampposts, cars in the background and people walking along it.
×
Delwedd: Promenâd arfordirol yn Aberaeron.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r rhwydwaith SGG esblygu ac addasu i ddiwallu anghenion mynediad poblogaeth hŷn, sy’n llai symudol, yn y dyfodol.

Gyda hyn mewn golwg, pwysleisiodd y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth hon yr angen i lwybrau cerdded a beicio fod yn hygyrch i bawb – gan gynnwys e-feiciau ar gyfer y demograffeg hŷn yn arbennig – er mwyn hyrwyddo teithio llesol a chysylltu â natur – gan gynnwys cysylltiadau gwell o bentrefi anghysbell i’r trefi. Cydnabuwyd y gall natur wledig yr ardal wneud creu llwybrau cerdded a beicio yn fwy heriol.

Codwyd problemau cynnal a chadw gyda’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, a’r angen am arwyddion gwell ac ymwybyddiaeth well o’r llwybrau. Nodwyd yr angen i wella ‘hwylustod’ hefyd yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy Ceredigion.

Delwedd: Cyfleoedd beicio yn y dirwedd ger Tregaron.

Man with helmet and holding bike on rural road surrounded by countryside and trees.
×
Delwedd: Cyfleoedd beicio yn y dirwedd ger Tregaron.

Crynodeb o’r materion allweddol

  • Mae lefelau iechyd a llesiant Ceredigion yn uwch yn gyffredinol na’r cyfartaleddau cenedlaethol. Fodd bynnag, ceir pocedi o iechyd gwaeth, yn enwedig yn ardaloedd trefol Aberystwyth ac Aberteifi.
  • Mae mynediad i fannau gwyrdd ac asedau SGG yn tueddu i fod yn waeth ymhellach o’r arfordir ac yng ngogledd y Sir. Mae hyn yn codi’r angen am gael mynediad gwell o’r ardaloedd mwy trefol yn ne’r Sir.
  • Mae’r ddarpariaeth chwarae yn wael, gyda 77 o drefi a phentrefi heb le chwarae.
  • Mae heriau ansawdd aer i’w gweld yn ardaloedd dwysach o’r ardaloedd trefol.
  • Bydd angen i rwydwaith SGG Ceredigion addasu i ddemograffeg newidiol yn y dyfodol, yn enwedig poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym.
  • Mae lle i wella’n sylweddol llwybrau cerdded a beicio a’u cynnal a’u cadw – sicrhau bod llwybrau’n hygyrch i bawb, i gefnogi targedau polisi ar gyfer symud oddi wrth y car preifat.