Menu

Ceredigion yn ei chyd-destun

- Download image

×

Fel Sir, mae Ceredigion yn gymharol denau ei phoblogaeth ac wedi’i ‘ffinio’ gan ddau Barc Cenedlaethol – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r de a Pharc Cenedlaethol Eryri i’r gogledd. Mae Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn rhedeg am 60 milltir ar hyd ei ffin orllewinol. #

Mae’r Sir hefyd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg – gyda 47% o’r trigolion yn siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011.

Mae lleoliad y Sir wedi rhoi hanes hir i Geredigion fel Sir o gyrchfannau atyniadol i dwristiaid a chyrchfannau hamdden. I drigolion lleol, mae’n cynnig y potensial ar gyfer ffordd o fyw sy’n gyfoethog o ran cyfleoedd i gysylltu â’r amgylchedd naturiol.

‘Tlws yng nghoron’ rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas (SGG) Ceredigion yw ei harfordir helaeth – sy’n cynnwys sawl darn o arfordir treftadaeth, traethau ysblennydd a chynefinoedd aberol. Mae’r amgylchedd morol ar hyd yr arfordir yn cael ei warchod gan gyfres o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sydd â bywyd gwyllt morol cyfoethog. Mae hyn yn cynnwys yr haid fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel yn Ewrop.

Fodd bynnag, mae rhannau eraill o’r ‘rhwydwaith glas’ hefyd yn chwarae rôl allweddol. Lawn gymaint â’i harfordir, mae Ceredigion wedi’i diffinio gan afonydd. Mae dwy aber fawr – y Dyfi yn y gogledd a’r Teifi yn y de – yn ffurfio ei ffiniau naturiol. Mae cegau afonydd (‘aberoedd’) wedi rhoi i Geredigion ei phrif drefi harbwr, sef Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth.

Rhwng y nodweddion hyn mae tirwedd o dir fferm, dyffrynnoedd afonydd coediog a threfi marchnad bach. I’r dwyrain, mae Mynyddoedd Cambrian yn darparu ardaloedd gyswllt anghysbell ar draws llwyfandir o rostiroedd gwyllt sy’n cael ei groesi gan lwybrau hynafol.

Ond mae Ceredigion hefyd yn wynebu heriau mawr. Mae ardaloedd dwys o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, mewn ardaloedd trefol yn bennaf. Yn yr ardaloedd hyn, mae mynediad i fyd natur a mannau agored yn aml yn anghyfartal.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Ceredigion wedi profi cyfnodau o fudo net negyddol. Mae canlyniadau cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad yn y boblogaeth o bron i 6% yng Ngheredigion ers 2011 – y mwyaf yng Nghymru ac wedi’i ysgogi’n bennaf gan grwpiau oedran iau sy’n symud allan o’r Sir.

Mae dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael effaith sylweddol ar amgylchedd naturiol Ceredigion a’i wytnwch yn y tymor hir. Mae angen cymryd camau brys i ddiogelu a chysylltu rhwydwaith cynefinoedd y Sir yn well.

Yn arbennig mae ansawdd dŵr yn arbennig yn cael ei gydnabod fwyfwy fel argyfwng sy’n atal datblygiad pellach y Sir. Y rheswm am hyn yw “gor-faethiad” a llygredd o weithfeydd trin dŵr, datblygiadau preswyl, arferion amaethyddol a dŵr o fwyngloddiau.

Mae rhagamcanion newid hinsawdd yn golygu y disgwylir i newid mewn tymheredd waethygu’r heriau hyn ac ysgogi’r angen i’r amgylchedd naturiol addasu i bwysau newydd.