Atodiad 2: Crynodeb o Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Mae’r Atodiad hwn yn rhoi crynodeb o allbynnau’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o ddatblygiad y Strategaeth hon. Roedd adborth gan randdeiliaid allweddol yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth wrth nodi prosiectau strategol i wella’r rhwydwaith SGG ar draws y chwe thref. Mae’r Atodiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pwyntiau allweddol a godwyd gan randdeiliaid.
Defnyddiwyd tri offeryn gwahanol yn ystod y broses hon:
Offeryn 1: Arolwg Ar-lein
Anfonwyd arolwg ar-lein ar 9 Mai 2022 at dros 100 o randdeiliaid allweddol sydd â diddordeb yn y SGG, gan gynnwys:
- Rhanddeiliaid statudol/technegol.
- Aelodau Etholedig a chynghorwyr tref.
- Grwpiau cymunedol sydd â diddordeb/budd yn y SGG.
Gofynnwyd i randdeiliaid am:
- Eu barn ar berfformiad y rhwydwaith SGG presennol yn seiliedig ar y pedair egwyddor arweiniol a nodwyd.
- Eu barn ar sut y gellir darparu SGG yng Ngheredigion h.y. nodi cyfleoedd allweddol.
- Unrhyw gyfleoedd neu brosiectau parhaus ym mhob un o’r trefi hyn.
- Derbyniwyd cyfanswm o 51 o ymatebion i’r arolwg ar-lein.
Offeryn 2: Map Rhyngweithiol
Anfonwyd y ddolen i’r map rhyngweithiol ynghyd â’r arolwg ar-lein, ar yr un dyddiad ac at yr un rhanddeiliaid. Roedd y map yn caniatáu i randdeiliaid adael pwyntiau ar y map o fewn unrhyw un o’r chwe thref, gan nodi cyfleoedd ar gyfer:
- Rheoli llifogydd.
- Llwybrau cerdded a beicio gwyrdd.
- Gofod tyfu cymunedol.
- Gwyrddni yn y dref.
- Plannu coed.
- Adfer afonydd a’r arfordir.
- Parciau a mannau agored gwell.
Gadawyd cyfanswm o 107 o sylwadau ar y map rhyngweithiol.
Offeryn 3: Gweithdai Rhithiol
- Cynhaliwyd chwe gweithdy rhithiol rhwng 24 Mai a 26 Mai. Roedd pob gweithdy yn cynnwys cyflwyniad gan LUC a swyddog o Gyngor Sir Ceredigion (CSC),wedi’i ddilyn gan drafodaeth ar gyfleoedd posibl yn y dref berthnasol, gan ddefnyddio ‘bwrdd gwyn rhithiol’ MIRO. Roedd pob gweithdy wedi canolbwyntio ar dref wahanol.
- Roedd tua 6-11 o bobl wedi cymryd rhan ym mhob un o’r chwe gweithdy rhithiol.
Delwedd: enghraifft ‘ciplun’ o fyrddau gwyn rhithiol a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Sylwadau ar rwydwaith SGG Ceredigion yn ei gyfanrwydd
Gofynnwyd i ymgyngoreion roi sylwadau ar berfformiad rhwydwaith SGG Ceredigion mewn perthynas â phedair egwyddor arweiniol. Yr egwyddorion hyn yw:
- Gwneud lle i fyd natur.
- Llunio mannau cyhoeddus ffyniannus.
- Creu cymunedau hapus ac iach.
- Cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.
Roedd ymatebion rhanddeiliaid mewn perthynas â phob un o’r egwyddorion hyn fel a ganlyn:
Egwyddor 1: Gwneud Lle i Fyd Natur
Teimlai 31% o’r ymgyngoreion fod y rhwydwaith SGG yn perfformio’n “eithaf da” yn erbyn yr egwyddor hon, ond teimlai 45% a 24% o’r ymgyngoreion, yn y drefn honno, fod y rhwydwaith SGG yn perfformio “ddim yn dda iawn” neu’n “wael iawn” yn erbyn yr egwyddor hon. Yna gwahoddwyd ymgyngoreion i ymhelaetha ar eu hymateb.
Roedd ymatebion yr ymgyngoreion fel a ganlyn:
- Cefnwledydd gwledig iach ond diffyg mannau gwyrdd bioamrywiol a choed yn y trefi.
- Gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd gwahanol yng Ngheredigion (e.e. Aberystwyth yn gweld dirywiad yn y mannau gwyrdd tra bo trefi fel Aberaeron ac Aberteifi yn perfformio’n well).
- Gellid gwella ansawdd dŵr rhai o’r prif afonydd.
- Diffyg cysylltedd/hygyrchedd gwael cysylltiadau trafnidiaeth o bentrefi anghysbell.
- Diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i drigolion/twristiaid a sut i gael mynediad iddynt.
- Ardal eang o fannau gwyrdd o’i gymharu â’r boblogaeth.
- Diffyg ystyriaeth o farchogion yn enwedig llwybrau ceffylau sy’n hybu crwydro gwyrdd, teithio a chysylltiad â natur.
- Ansawdd gwael tir pori ac ardaloedd coediog.
- Torri coed a gwrychoedd heb ganiatâd (gan gynnwys yn ystod tymor nythu adar).
- Diffyg ystyriaeth o fyd natur wrth wneud penderfyniadau cynllunio e.e. ffermio (yn enwedig magu anifeiliaid yn arwain at ragor o lygredd/diraddio amgylcheddol).
Egwyddor 2: Llunio Mannau Cyhoeddus Ffyniannus
Mae’r egwyddor hon yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o le, gan gynnwys twristiaeth, a sut mae’r rhwydwaith SGG yn perfformio yn hyn o beth. Ymatebodd 53% o randdeiliaid gan ddweud “ddim yn dda iawn”, tra bod 29% wedi ymateb “gwael iawn”. Ymatebodd 9% gan ddweud “eithaf da”.
Roedd rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd fel a ganlyn:
- Mae canol trefi yn dirywio ac nid yw mannau gwyrdd yn cael eu defnyddio i’r eithaf oherwydd rheolaeth wael.
- Dim digon o fusnesau a darpariaeth dwristiaeth yn gysylltiedig â’r defnydd o’r amgylchedd naturiol.
- Y rhwystr mwyaf yn yr egwyddor hon yw’r hyn y mae “ymdeimlad o le” yn ei olygu i bob unigolyn.
- Cysylltedd gwael rhwng trefi a llwybrau allweddol, gydag ychydig iawn o nodweddion gwyrdd neu las gan lwybrau beicio/troed.
- Diffyg arwyddion priodol i gyrraedd cyrchfannau twristiaeth.
- Gellid gwella’r seilwaith ar gyfer beicio, marchogaeth neu ddulliau teithio gwyrdd eraill i fod yn fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig.
- Statws baner las ar gyfer traethau lleol heb ei gynnal a gellid gwella ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol.
Egwyddor 3: Creu Cymunedau Hapus ac Iach
Mae’r egwyddor hon yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o le, gan gynnwys twristiaeth, a sut mae rhwydwaith SGG yn perfformio o ran hybu iechyd, llesiant a mynediad i fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol. Ymatebodd 35% o randdeiliaid yn gadarnhaol tra bod eraill wedi ymateb yn negyddol.
Roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn cynnwys:
- Gellid gwneud mwy i ehangu neu ddatblygu llwybrau hŷn, yn enwedig mewn rhannau peryglus o briffyrdd sy’n darparu llwybrau ardderchog i drigolion a thwristiaid.
- Nid yw mannau gwyrdd yng Ngheredigion wedi’u hasesu i’r safonau a dylent gael eu hasesu felly, h.y. yn ôl safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol megis Gwobrau’r Faner Werdd.
- Gall natur wledig bresennol yr ardal ei gwneud yn anodd creu llwybrau cerdded neu feicio newydd, ond dylid hystyried hyn beth bynnag yn arbennig rhwng ardaloedd allweddol o fewn trefi.
- Nid yw’r rhwydwaith hawliau tramwy yn cael ei gynnal, ac ychydig iawn o ymwybyddiaeth o’r llwybrau sydd.
- Rhaid cael mwy o ddiogelwch i’r llwybrau presennol. Dylai fod llwybrau beicio, wedi’u gwahanu’n ffisegol oddi wrth geir fel bod pobl o bob gallu a lefel hyder yn gallu beicio’n lleol.
- Mae diffyg palmentydd yn gwneud teithio carbon isel yn amhosibl mewn rhai mannau.
Sylwadau ar Gyflawni’r SGG yng Ngheredigion
Gofynnwyd i randdeiliaid nodi’r prif rwystrau i gyflawni’r SGG yng Ngheredigion. Yr opsiynau a roddwyd oedd:
- Dim digon o flaenoriaethu o fewn polisi.
- Ffynonellau ariannu annigonol.
- Diffyg dealltwriaeth o’r SGG.
- Cydlynu gwael rhwng partneriaid.
- Diffyg diddordeb cymunedol yn y SGG.
- Rhesymau eraill.
Roedd y sylwadau a roddwyd mewn perthynas â’r cwestiwn hwn yn cynnwys:
- Mae cyllid yn hanfodol ar gyfer datblygu llwybrau estynedig neu fannau gwyrdd a glas.
- Byddai polisi cynllunio yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gorfodi a phrynu gorfodol.
- Byddai cynnal a chadw a gwella hygyrchedd yn dilyn uwchraddio i fannau gwyrdd a glas yn annog defnydd gwell.
- Diffyg menter i fynd i’r afael â materion SGG yn uniongyrchol gan fod y strategaeth gyfredol yn ei weld fel mater ategol ac ymylol.
- Diffyg cyflawni ar ddyheadau canmoladwy.
- Diffyg amrywiaeth yn yr ymagwedd at berchnogaeth prosiectau.
- Materion cyfathrebu rhwng adrannau sy’n arwain at flaenoriaethau a gwrthddywediadau gwahanol.
- Heb fanteisio ar fuddiant cymunedol gan nad yw ymgysylltu’n cael ei gefnogi’n briodol.
Roedd sylwadau gan randdeiliaid pan ofynnwyd iddynt dynnu sylw at unrhyw fecanweithiau cyflawni addawol yn cynnwys:
- Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar raddfa strategol dros gyfnod hwy yn hytrach nag un flwyddyn ariannol.
- Dylid cynnwys grwpiau lleol.
- Dylai Cynghorau weithredu gyda’i gilydd.
- Angen bod yn fwy gwybodus am faterion yn yr ardal leol er mwyn gwneud awgrymiadau gwell.
Roedd rhanddeiliaid hefyd wedi tynnu sylw at rôl y partneriaid cyflawni pwysig canlynol:
- Partneriaeth Natur Ceredigion.
- Hyb Eco Aber.
- Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Iechyd a Gofal Gwledig Cymru – sy’n darparu cymorth ar gyfer rhwydwaith iechyd gwyrdd ar waith.
- Gall Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant chwarae rôl bwysig fel sefydliad sydd â 200 mlynedd o hanes.
- Perchnogion tir yn amrywio o’r sector cyhoeddus a phreifat mawr i drigolion gyda gerddi.
- Grŵp Aberystwyth Gwyrddach.
- Tir Coed.
- Coed Lleol.
- Bwyd Bedigedig.
- Sustrans.
- Comisiwn Cefn Gwlad.
- Cyngor Chwaraeon Cymru.
- Plantlife Cymru.
- Menter Mynyddoedd Cambrian.
- Chwarae Cymru.
- Bioamrywiaeth Llandysul.
- BMC Hills.
- Oceans Protect.
- Surfers Against Sewage.
- Clear Access Clear Waters.
- Y Cerddwyr.
- Cycling UK Cymru.
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
- Archaeoleg Dyfed.
- Grwp Bywyd Gwyllt Penparcau.
- Ecodyfi
- Partneriaeth Natur.
- Rhwydwaith Dysgu Awyr Agored Ceredigion.
- Rhwydwaith Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru.
- Coetir Cymunedol Longwood.
- Canolfan Gadwraeth Fferm Denmarc.
- Grŵp Permaddiwylliant Llanbedr Pont Steffan.
- Mudiad Trawsnewid Llanbedr Pont Steffan.
- Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.
- Cerddwyr Llanbedr Pont Steffan.
- Ymddiriedolaeth Natur.
- Coed Cadw.
- RSPB.
- Ymddiriedolaeth Adpar y Gwlyptir.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ysgolion Coedwig ac Arfordir RAY Ceredigion.
- Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.
- Undeb Amaethwyr Cymru.
Crynodeb o’r Sylwadau a gafwyd ar gyfer pob un o’r Chwe Thref
Dechreuodd pob un o’r chwe gweithdy gyda chyflwyniad gan LUC a swyddog CSC, wedi’i ddilyn gan drafodaeth am y cyfleoedd. Casglwyd y drafodaeth gan ddefnyddio ‘bwrdd gwyn rhithiol’ MIRO a’i rhannu â chyfranogwyr.
Mae’r materion a’r cyfleoedd allweddol a godwyd gan randdeiliaid ar gyfer pob tref fel rhan o’r broses ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi’u crynhoi isod.
Aberystwyth
Heriau Allweddol
- Mae angen i gyllid fod yn fwy bwriadol e.e. ariannu ar gyfer oes y man gwyrdd.
- Materion llifogydd dŵr wyneb.
- Darnio gorchudd coetir.
- Canfyddiad lleol negyddol.
- Cydbwyso datblygiad a cholli mannau gwyrdd.
- Angen cadw hunaniaeth Gymreig.
- Cynefinoedd yn wael ar y cyfan yn Aberystwyth, heblaw am orchudd coetir.
- Dim cysylltiad clir â’r agenda dwristiaeth yn Aberystwyth.
Cyfleoedd Allweddol
- Gwella cysylltedd bywyd gwyllt a chynefin.
- Gwella partneriaeth natur leol.
- Datblygu strategaeth rheoli ac ariannu.
- Gwyrddu’r dref.
- Mwy o rhandiroedd newydd.
- Pontydd troed dros afonydd.
- Mae gan Aberystwyth lwybrau beicio rhesymol a llwybrau gwyrdd eraill er y gellid gwneud mwy e.e. plannu coed neu wrychoedd.
Aberaeron
Heriau Allweddol
- Llifogydd arfordirol.
- Diffyg llwybrau beicio.
- Topograffeg serth yn cyfyngu ar le ar gyfer datblygu.
- Gorchudd coed isel.
Cyfleoedd Allweddol
- Datblygu llwybrau beicio newydd e.e. i Aberystwyth, neu ymestyn llwybr Llanerchaeron i ganol Aberaeron ac ymlaen i Lanbedr Pont Steffan.
- Cyfle i gyfuno profion ansawdd dŵr â hyrwyddo rhywogaethau.
- Cyfle i gomisiynu cynllun bioamrywiaeth.
- Gwyrddu canol y dref.
- Cyflwyno mwy o deithiau cerdded cylchol sy’n hygyrch, yn fwy diogel ac yn hwy.
Aberteifi
Heriau Allweddol
- Llifogydd dŵr wyneb.
- Diffyg mannau gwyrdd hygyrch o fewn yr anheddiad.
- Cyfyngiadau perchnogaeth.
- Diffyg cyllid ar gyfer cynnal a chadw llwybrau.
Cyfleoedd Allweddol
- Gwella mynediad i ardaloedd hamdden mewn mannau anffurfiol ac atodol.
- Gellir datblygu rhai mannau yn Aberteifi i fod yn berllannau cymunedol a mannau plannu i roi cyfle i bobl dyfu neu bigo bwyd am ddim.
- Llwybrau cerdded a beicio newydd.
- Gwyrddu a lliniaru llifogydd yn ardal Maes Mwldan.
- Creu dolydd a thyfu cymunedol yng Nghae Chwarae a Pharc Sglefrio Maes Radley.
- Hawliau tramwy a gwelliannau cyffredinol i hygyrchedd.
- Adeiladu a chynnal cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau.
Llanbedr Pont Steffan
Heriau Allweddol
- Angen cynlluniau gweithredu yn ogystal â thystiolaeth.
- Absenoldeb cyffredinol llwybrau hamdden.
- Gwella wyneb llwybrau.
- Diffyg arweiniad gan y Cyngor Sir/Cyngor Lleol ac ymddiriedolwyr.
- Prin yw’r dystiolaeth o unrhyw waith a wnaed ar agweddau yn Llanbedr Pont Steffan oherwydd nid yw trigolion gweithgar a pharod yn cael eu hysbysu.
- Colli gwrychoedd, yn enwedig ar hyd ochrau ffyrdd.
Cyfleoedd Allweddol
- Ymestyn y rhwydwaith beicio.
- Hyrwyddo a chadwraeth Afon Teifi.
- Ailgyflwyno rhywogaethau e.e. afanc.
- Creu ardal i gerddwyr ar Stryd y Farchnad.
- Agor rhannau o’r hen reilffordd i gysylltu Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.
- Creu man chwarae ffurfiol y tu allan i ddatblygiadau tai presennol.
- Nid oes gan Lanbedr Pont Steffan unrhyw nodweddion arbennig na choridorau gwyrdd sy’n cysylltu safleoedd ond mae ganddi rai amwynderau naturiol yn yr ardal y gellir eu datblygu.
Llandysul
Heriau Allweddol
- Llifogydd.
- Topograffeg serth yn cyfyngu hygyrchedd.
- Llai o ymwelwyr yng nghanol y dref a diffyg hunaniaeth.
- Nid oes unrhyw un yn y Cyngor Tref lleol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am yr amgylchedd na bioamrywiaeth yn ardal Llandysul.
Cyfleoedd Allweddol
- Hyrwyddo Llandysul fel cyrchfan neu ar gyfer chwaraeon awyr agored.
- Tyfu cymunedol ar hen safle Ysgol Dyffryn Teifi.
- Hyrwyddo sgwâr gwyrdd y dref.
- Datblygu llwybr glan yr afon.
- Llwybrau cerdded a chysylltiadau beicio gwell.
Tregaron
Heriau Allweddol
- Mannau gwyrdd cyfyngedig.
- Mae Llwybr Ystwyth yn dod i ben 2 filltir cyn Tregaron.
- Gorchudd coed cyfyngedig iawn yn y dref.
Cyfleoedd Allweddol
- Creu llwybrau hamdden ar hyd afonydd Brennig a Theifi.
- Hyrwyddo’r dref fel porth i Fynyddoedd Cambrian.
- Gwelliannau i fannau agored.
- Gwyrddu’r ardal y tu allan i’r Talbot.
- Estyn Llwybr Ystwyth.