Menu

Llwybr Natur Cylchol Aberystwyth

Illustration showing pathways, trees, water bodies and people using the nature trail to walk and run
×

Pwrpas

I gysylltu glannau Aberystwyth, mannau gwyrdd a choetiroedd ar daith gerdded gylchol a llwybr natur. Nod y llwybr yw gwella cysylltedd ar gyfer pobl a byd natur.

Elfennau allweddol

  1. Cyfuno llwybrau presennol i greu taith gerdded gylchol.
  2. Dynodi llwybr, arwyddion a dehongli’r llwybr
  3. Adfer cynefinoedd ar hyd y llwybr
  4. Integreiddio mannau chwareus a chymdeithasol

Cyflawni

Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Fforwm Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Gwarchodfa Natur Leol Pendinas, Gwarchodfa Natur Leol Parc Natur Penglais, Coed Cadw Coed Geufron, Coed Lleol Coedwigoedd Bach, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, datblygiad y Marina, cymuned Penparcau, Clwb Golff.

Costau dangosol: £9 – 10 miliwn (gweler Atodiad 3 am fanylion amcangyfrifon cost y prosiect)

Disgrifiad

Cysylltu gwe Aberystwyth o warchodfeydd natur lleol hardd a bioamrywiol, bryniau, coetiroedd, afonydd a’r morlin gyda thaith gerdded gylchol ddi-draffig. Bydd hyn yn galluogi ac yn annog pob cenhedlaeth i fynd allan i gerdded a mwynhau’r amgylchedd naturiol yn y dref.

Elfen 1: Cysylltu llwybrau presennol i greu cylchdaith

Dylid diogelu ac ymestyn llwybrau di-draffig presennol lle bo modd. Mae’r canlynol yn llwybrau cerdded a beicio presennol y gellir eu hymgorffori yn y gylchdaith. Mae’r rhestr hefyd yn nodi bylchau y mae angen eu llenwi rhwng mannau naturiol allweddol:

  • Traeth y De – Tir y Castell – Traeth Aberystwyth – Craig Glas (Bwlch: Mynediad ar draws Allt-y-Clogwyn, Lovers Dingle a Ffordd Brynmor).
  • Yr Wylfa yn y Chwarel – Parc Natur Penglais (Bwlch: Mynediad y tu hwnt i Barc Natur Penglais ac ar draws Ffordd Penglais)
  • Y Llyfrgell Genedlaethol a Champws y Brifysgol – Mynwent Cefn Llan (Bwlch: Heol-Y-Bont)
  • Ardal Chwarae Llanbadarn Fawr – Caeau Chwarae Blaendolau – Glan Afon Rheidol – Parc Kronberg – Rhandiroedd Penparcau (Bwlch: Mynediad trwy gymdogaeth Penparcau)
  • Bryn Pendinas – Tan-y-Bwlch (Bwlch: Mynediad o amgylch y marina / pont dros y marina)

Dylid datblygu strategaethau i benderfynu ar y llwybr mwyaf priodol trwy asedau naturiol (fel y Marina a Lover’s Dingle) mewn model sensitif er mwyn gwella a diogelu’r cynefin naturiol a’r ymdeimlad “mwy gwyllt” o fannau naturiol. Gall nodweddion fel cerrig camu neu lwybrau pren hygyrch fod yn fwy priodol nag arwyneb palmant ger Lovers Dingle.

Mae’r potensial i adeiladu pont sy’n cysylltu dwy ochr harbwr Aberystwyth yn cael ei drafod ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn fel rhan o ailddatblygu’r harbwr. Byddai hyn yn caniatáu datblygu cyfleusterau manwerthu a hamdden ar yr ochr ogleddol. Byddai’r bont yn ffurfio cysylltiad allweddol rhwng ochr ddeheuol y dref a Bryn Pen Dinas. Bydd cysylltu’r bont â llwybr cerdded clir rhwng yr asedau hyn yn sicrhau bod y bont yn darparu cysylltiad strategol ar gyfer y gymuned, y tu hwnt i ailddatblygu’r harbwr yn unig.

Dylai’r wyneb ar lwybrau palmant presennol a newydd gael eu cynnal a’u cadw’n dda, bod yn hygyrch i bawb ac yn ddiogel. Dylid cyflwyno seilwaith cerdded a beicio i wahanu cerddwyr oddi wrth draffig ar rannau o’r llwybr sydd ar y ffordd. Dylid defnyddio palmant o ansawdd uchel lle bo modd ar hyd rhannau mwy trefol o’r llwybr er mwyn sicrhau ansawdd cyson a ffiniau clir i’r llwybr.

Elfen 2: Dynodi llwybr, arwyddion a dehongli’r llwybr

Dylid cyflwyno arwyddion a mapiau pren o safon uchel ar hyd y llwybr ac o ganol y dref – i gefnogi mynediad, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dreftadaeth naturiol a diwylliannol y dref. Gallai hyn helpu i adeiladu’r hunaniaeth brand ar gyfer ‘Cylchdaith Aber’, ‘Llwybr Natur Aber’, neu’r tebyg. Gellir ehangu hyn yn ddiweddarach i gynnwys llwybrau gwyrdd presennol a newydd – gan gynnwys y rhai o fewn prosiectau 2, 3, 4 a 5 ar gyfer Aberystwyth. Byddai strategaeth dynodi llwybr gyson ar draws pob llwybr yn sicrhau bod y rhwydwaith o lwybrau cerdded yn cyflawni ei botensial.

Dylid marcio arwyddion gyda phellteroedd cerdded (‘natur o fewn 10 munud’ a ‘natur o fewn 30 munud’) i annog defnyddwyr o bob gallu.

Gallai llwybr natur a threftadaeth addysgol ddarparu gwybodaeth am rywogaethau a chynefinoedd pwysig a hanes cyrchfannau ar hyd y llwybr. Ar y cyd â strategaeth marchnata twristiaeth, byddai hyn yn cefnogi statws Aberystwyth fel cyrchfan ar gyfer natur, cerdded a thwristiaeth werdd. Byddai strategaeth digwyddiadau (ystyried digwyddiadau fel hanner marathon “gwyrdd” Aberystwyth) yn gymorth i ddathlu amgylchedd naturiol Aberystwyth.

Elfen 3: Adfer cynefinoedd ar hyd y llwybr

Dylid ehangu’r gorchudd coed brodorol ar hyd y llwybr a phlannu rhywogaethau blodau gwyllt lleol. Bydd hyn yn darparu swyddogaethau lluosog gan gynnwys storio carbon, gwella bioamrywiaeth a chysylltedd gwerthfawr i famaliaid, adar a gwenyn allu symud ar hyd coridorau gwyrdd.

Byddai ardaloedd blodau gwyllt wedi’u tirlunio mewn meysydd gweithgaredd allweddol ar hyd y llwybr yn creu mannau deniadol lle gall pobl gerdded, beicio, eistedd a chymdeithasu. Gellid creu cyfuniadau gwahanol o rywogaethau blodau gwyllt lleol ar gyfer ymylon ffyrdd, glannau afonydd, ardaloedd arfordirol, ac ymylu coetiroedd a lonydd glas mewndirol. Byddai ymgorffori pyst gwenyn yn nodwedd addysgol bwerus i dynnu sylw at bwysigrwydd y coridor ar gyfer peillwyr.

Dylid ymgorffori plannu strwythurol ar hyd llwybrau cerdded fel rhan o ailddatblygu marina’r dref. Gellid plannu stribed o laswelltir blodau gwyllt o amgylch ymylon y marina ac o fewn y planwyr gerllaw (gweler astudiaeth achos Swydd Gaerhirfryn).

Elfen 4: Integreiddio mannau chwareus a chymdeithasol

Byddai cyflwyno mannau chwareus anffurfiol yn gwneud mannau naturiol ar hyd y llwybr yn fwy rhyngweithiol i blant eu harchwilio. Dylai nodweddion gael eu hysbrydoli gan natur a, lle bo modd, eu gwneud o ddeunyddiau naturiol – gan gynnwys cerrig camu, boncyffion dringo neu nodweddion chwarae pren. Mae lleoliadau â blaenoriaeth posibl yn cynnwys:

  • Y Llannerch Ffawydd (ym Mharc Natur Penglais).
  • Glan yr afon Bryn Pendinas.

Ochr yn ochr â mannau chwarae, mae cyfle i siapio mannau cymdeithasol amlswyddogaethol ar gyfer eistedd a chael picnic. Gellid defnyddio mannau cymdeithasol mwy, lle bo hynny’n ymarferol, ar gyfer digwyddiadau pop-yp.

Dylid ymgorffori mannau fel y rhain mewn nodau allweddol, asedau treftadaeth a golygfannau (gan gynnwys golygfan Yr Wylfa a’r hen safle pitsio a phytio ar dir y castell).

Ysbrydoliaeth o fannau eraill

Delwedd astudiaeth achos: Connswater Community Greenway (Walk NI)

Surfaced footpath lined with trees, with people walking along and a wooden signpost
×
Delwedd astudiaeth achos: Connswater Community Greenway (Walk NI)

Mae Connswater Community Greenway yng Ngogledd Iwerddon yn enghraifft lwyddiannus o ddull strategol sy’n canolbwyntio ar adfywio ar gyfer creu coridorau gwyrdd dim ceir gyda swyddogaethau lluosog.

Wedi’i gwblhau yn 2017, mae’r prosiect wedi creu parc llinellog 9km, gyda 16km o lwybrau beicio, mannau gwyrdd, pontydd, croesfannau a llwybrau treftadaeth. Mae’n dilyn cwrs afonydd Connswater, Knock a Loop, yn cysylltu mannau agored a gwyrdd, a hefyd yn cysylltu trigolion â chyfleusterau hamdden, busnesau, canolfannau siopa, ysgolion a cholegau. Erbyn hyn mae’n ased allweddol i’r economi ymwelwyr, fel ‘tirnod byw’ ar gyfer Belfast.

Bu trigolion lleol yn ymwneud â llunio dyluniad a swyddogaeth mannau ar hyd y lôn las, gan ddal ystyr eu mannau gwyrdd lleol ac arwain y gwaith o enwi mannau gwyrdd a phontydd newydd.