Aberaeron
Trosolwg o gyfleoedd SGG yn Aberaeron
Trosolwg o Aberaeron
Harbwr Aberaeron
Saif Aberaeron wrth geg Afon Aeron ar hyd Arfordir Treftadaeth dynodedig Bae Ceredigion. Mae wedi’i hamgylchynu gan lethrau serth a chlogwyni. I’r gogledd o Aberaeron, mae’r dirwedd yn troi’n wastadedd arfordirol cul.
Mae twf cychwynnol Aberaeron i’w briodoli i basio’r Ddeddf Harbyrau ac adeiladu ei phierau ym 1808, gan gynnig modd sefydlu porthladd ffyniannus. Gadawodd datblygiadau yn y 19eg ganrif waddol o bensaernïaeth o gyfnod y Rhaglywiaeth a thai wedi’u paentio. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae gan y dref boblogaeth o tua 1,400 bellach ac mae’n bwysig fel canolfan weinyddol yn ogystal â chyrchfan arfordirol.
Mae coetir, gan gynnwys blociau o goetir hynafol, yn rhedeg wrth ochr Afon Aeron ymhellach i mewn i’r tir o ganol y dref. Mae’r Llwybr o Aberaeron i Lanbedr Pont Steffan a Llwybr Beicio Cenedlaethol 822 di-draffig yn rhedeg trwy’r dyffryn coediog hwn. Mae’r llwybrau cerdded a beicio hyn yn cysylltu’r dref â’r tir mynediad agored yn y fila Sioraidd Llanerchaeron.
Mae llwybrau cerdded a beicio strategol pellach yn cynnwys Llwybr Arfordir Ceredigion.
Mae lleoliad arfordirol Aberaeron yn golygu bod yr economi ymwelwyr yn chwarae rôl bwysig yn y dref, gan ei gwneud yn gartref i ardaloedd pwysig o ddiddordeb ecolegol hefyd (gan gynnwys ACA Bae Ceredigion).
“Mae Cae Sgwâr yn Aberaeron yn enghraifft dda o ardal allweddol a allai ddenu pobl. Ar hyn o bryd mae’n ddi-nod ac eithrio ychydig o goed ar gyrion y cae ac nid yw’n gwneud fawr dim i gynnal ecoleg.”
– Rhanddeiliaid, arolwg ar-lein
Gweler Atodiad B am grynodeb o’r holl sylwadau gan randdeiliaid.
Beth yw’r heriau allweddol sy’n wynebu Aberaeron?
Cerdded a beicio: Mae darpariaeth gyfyngedig iawn o rwydweithiau beicio, yn enwedig y rhai sy’n darparu cysylltiadau pellter hir i drefi cyfagos. Dim ond 4.3 cilometr o hyd yw llwybr Sustrans 822, gan gysylltu pellter byr yn unig ar hyd Afon Aeron.
Gorchudd coed: Mae gorchudd coed yn Aberaeron yn gyfartalog ar gyfer ardaloedd trefol yng Nghymru gyda thua 11.6% o orchudd canopi, yn ôl CNC. Fodd bynnag, bu gostyngiad sylweddol yn y gorchudd coed rhwng 2006 a 2013, gyda thros 1000 o goed wedi’u colli. Coed amwynder bach oedd y mwyafrif o’r rhain. Mae angen gwneud gwaith i ganfod pam y collwyd cymaint o goed ifanc. Ar sail hyn, efallai y bydd angen cael cynlluniau rheoli a chynnal mwy manwl – gan gynnwys dewis gwell o rywogaethau – i sicrhau y gellir ailsefydlu gorchudd coed iach.
Perygl o lifogydd: Mae’r mwyafrif o Aberaeron mewn perygl mawr o lifogydd arfordirol a llifogydd o Afon Aeron. Mae dwyrain y dref ger Ffordd y Gaer a Stryd Tyglyn hefyd mewn perygl mawr o lifogydd dŵr wyneb. Achosodd y cyfuniad o lifogydd o’r afon a’r môr ddifrod sylweddol i gychod yn yr harbwr yn ystod Storm Callum yn 2018.
Colli mannau gwyrdd: Mae’r dopograffeg o amgylch Aberaeron yn cyfyngu ar ddatblygiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi pwysau ar dir agored ar gyfer datblygu ac yn her ar gyfer darparu ardaloedd eang o SGG.
Prosiect Blaenllaw: Arfordir Gwyllt Aberaeron
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, gweler y dudalen benodol ar gyfer y prosiect blaenllaw Arfordir Gwyllt Aberaeron.
Pwrpas: Gwella bioamrywiaeth arfordirol Aberaeron trwy gyflwyno plannu arfordirol a gofod ar gyfer natur fel rhan o gynllun amddiffyn rhag llifogydd glan y môr. Bydd hyn yn actifadu tir y cyhoedd ar lan y môr trwy gyflwyno lle i gymdeithasu, chwarae, crwydro, dysgu, cerdded a beicio.
Prosiect 2: Llwybr natur glan yr afon a choetir Aberaeron
Pwrpas: Dathlu a gwella llwybr cerdded glan yr afon a choetir Aberaeron trwy sefydlu ‘llwybr natur’. Byddai hyn yn helpu i adfer iechyd glan yr afon, lleihau’r perygl o lifogydd ar hyd yr afon, ac yn creu cynefin gwell i fywyd gwyllt a pheillwyr.
Taith gerdded ar hyd Afon Aeron
Parc y Fro
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gorllewin Cymru, Canolfan Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Y Bartneriaeth Natur Greadigol, ysgolion lleol, canolfan ieuenctid, Cyngor Tref Aberaeron, grwpiau cymunedol lleol, y clwb pysgota, RAY Ceredigion.
Disgrifiad: Byddai llwybr natur glan yr afon di-fwlch trwy lan yr afon a choetiroedd Aberaeron yn adnodd llesiant pwysig i’r dref, gan gysylltu pobl leol ag Afon Aeron a chreu coridor gwyrdd a glas ar gyfer bywyd gwyllt lleol. Dylai nodweddion allweddol gynnwys arwyddion a mynediad gwell a gofod estynedig ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, addysg a chwarae.
Gallai’r llwybr presennol ar lan yr afon ar hyd Afon Aeron gael ei gysylltu’n well a’i ymestyn i gysylltu â’r harbwr, canol y dref a’r glannau. Gellid cyflawni hyn trwy wella croesfannau cerddwyr dros yr A487 a’r A482, gan gyflwyno arwyddion o safon uchel a darparu plannu ‘mwy gwyllt’ yn y mynedfeydd i’r daith gerdded.
Gellid gwneud y llwybr yn gyfoethog o ran natur trwy blannu stribed o rywogaethau blodau gwyllt lleol ar hyd y llwybr a chynyddu plannu glannau afon ar hyd yr afon. Byddai hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cysylltu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt lleol trwy rwydwaith mannau gwyrdd Aberaeron.
Gallai llwybr natur a threftadaeth addysgol ddarparu gwybodaeth am rywogaethau a chynefinoedd pwysig ar hyd yr afon ac mewn ardaloedd coetir. Byddai “pyst gwenyn” o fewn ardaloedd o flodau gwyllt yn nodwedd addysgol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhywogaethau peillwyr.
Gellid cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol ar hyd yr afon, yn y coed, ac yn y man gwyrdd ar lan yr afon ym Mharc y Fro. Byddai cyflwyno mannau chwarae anffurfiol (cerrig camu, boncyffion dringo, neu gerfluniau pren o fywyd gwyllt) yn helpu i greu mannau naturiol sy’n fwy rhyngweithiol i blant allu eu harchwilio. Mae lle ar gyfer perllan gymunedol wedi’i nodi ym Mharc y Fro, naill ai ar hyd y llwybr i gerddwyr, yn sgrinio’r eiddo preswyl lleol neu ar y darn o dir rhwng yr afon a’r clwb chwaraeon. Gallai perllan gymunedol fod yn adnodd llesiant pwysig i’r gymuned leol.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Nod The Orchard Project yw i bob cartref yn nhrefi a dinasoedd y DU fod o fewn pellter cerdded i berllan gynhyrchiol, sy’n cael ei gofalu amdani’n dda, ac sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.
Mae ei fodel yn cynnwys darparu cyngor arbenigol a hyfforddi grwpiau cymunedol mewn sgiliau rheoli perllannau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor. Drwy wneud hynny, maent yn gobeithio cryfhau cymunedau, gwella llesiant a meithrin gwytnwch. Mae’r cyfnod cynaeafu yn rhoi cyfle ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac i wirfoddolwyr a phlant lleol ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth am systemau bwyd lleol.
Delwedd astudiaeth achos: Alexandra Park Food Forest (The Orchard Project)
Prosiect 3: Ymestyn rhwydwaith cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion Aberaeron
Pwrpas: Creu a chynnal rhwydwaith cysylltiedig o lwybrau “mynediad i bawb” di-draffig rhwng canol tref Aberaeron a’r glannau. Byddai hyn yn darparu cysylltiad cryfach â Llwybr Arfordir Cymru, pentrefi cyfagos a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol mwy. Byddai creu ac adfer cynefinoedd ar hyd llwybrau beicio yn creu coridor gwyrdd strategol ar gyfer bywyd gwyllt a pheillwyr.
Maes Parcio Ffordd y Gaer
Heol Farchnad
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Canolfan Anabledd Ceredigion, Cerdded er Lles, Cyngor Tref Aberaeron, RAY Ceredigion.
Disgrifiad: Mae’r prosiect hwn yn ceisio cryfhau rhwydwaith Aberaeron o lwybrau di-draffig o ganol y dref i’r glannau a Llwybr Arfordir Cymru. Dylai’r rhwydwaith hefyd gysylltu â glan yr afon a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol 822.
Dylai’r prosiect hwn hefyd ystyried y potensial i ymestyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 822 i Lanbedr Pont Steffan ar hyd yr hen reilffyrdd. Byddai hyn yn cysylltu Aberaeron â Llanerchaeron, yr ysgol newydd Ysgol Dyffryn Aeron yn Felin-fach, a Llanbedr Pont Steffan. Mae’r llwybr hwn yn cael ei archwilio fel rhan o Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Gellir cefnogi bioamrywiaeth ar hyd y llwybr trwy gynnal a chadw gwrychoedd a chyflwyno plannu blodau gwyllt ar hyd ymylon llwybrau. Byddai hyn hefyd yn creu ymdeimlad cryf o le ar hyd y llwybr i bobl sy’n teithio drwyddo.
Gellid gwella cerdded a beicio trwy’r dref ei hun trwy ail-neilltuo lle i gerddwyr, beicwyr â’r rhai sy’n defnyddio cerbydau ag olwynion. Gallai hyn gynnwys llwybrau beicio ar wahân a phalmentydd lletach ar ffyrdd prysur a gwaith cynnal a chadw gwell ar ‘lwybrau cefn’ trwy’r dref (yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd).
Dylid blaenoriaethu cerdded a beicio ar “strydoedd ysgol” a’u hintegreiddio â mentrau gwyrddu trefol. Dylid ystyried llwybrau beicio newydd hefyd fel dewis arall i rannau arbennig o serth a chul o’r Llwybr Beicio Cenedlaethol 822. Er enghraifft, gallai’r llwybr peryglus ar hyd Bro Allt-Y-Graig gael ei wella neu ei adleoli i ddilyn y llwybr cerdded o amgylch y cae chwarae ac Afon Aeron.
Mae gan bob llwybr opsiynau ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion yn ddiogel os dilynir yr egwyddorion “mynediad i bawb”. Mae gweithio gyda grwpiau lleol presennol yn ffordd dda o gynnal archwiliad o hygyrchedd seilwaith (fel gatiau a meinciau) ar gyfer amrywiaeth o gerddwyr.
Y cysylltiadau strategol penodol a ddylai fod yn ganolbwynt i’r rhwydwaith yw:
- Gwella cysylltedd â mannau gwyrdd lleol, caeau chwarae a pharciau yn y dref.
- Gwella mynediad ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio cerbydau ag olwynion ar hyd llwybrau glan afon presennol Aberaeron.
- Gwella’r cyswllt o faes parcio presennol y llwybr (y tu ôl i Jewsons) i’r dref a’r harbwr.
- Archwilio pont i gerddwyr ar draws harbwr Aberaeron fel rhan o welliannau hygyrchedd i rannau lleol o Lwybr Arfordir Cymru a chysylltiadau ag Aber-arth.
- Creu cysylltiadau y tu allan i’r dref i safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llanerchaeron.
Byddai ymestyn llwybrau poblogaidd i Aberaeron yn annog mwy o gerddwyr a beicwyr yn yr ardal i ymweld â busnesau yn y dref. Byddai hyn yn rhoi cyfle i farchnata’r dref fel lle i aros a chrwydro yng Ngheredigion.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Llwybr Mawddach yn llwybr beicio hardd, naw milltir o hyd, gydag wyneb caled di-draffig ardderchog sy’n ymestyn o dref hanesyddol Dolgellau i dref glan môr boblogaidd Abermaw. Mae’r llwybr yn un poblogaidd ac yn rhedeg ar hyd yr hen reilffordd.
Delwedd astudiaeth achos: Llwybr Mawddach (Darganfod Gogledd Cymru)
Prosiect 4: Gwyrddu canol tref Aberaeron
Pwrpas: Cyflwyno nodweddion gwyrddu trefol a fydd yn cysylltu bioamrywiaeth a gorchudd coed trwy Aberaeron a gwella bywiogrwydd ac ansawdd canol y dref.
Ffordd y Gaer
Ffordd y Gogledd
Partneriaid posibl: Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, Cyngor Tref Aberaeron, RAY Ceredigion.
Disgrifiad: Mae’r system unffordd sy’n cael ei threialu ar hyn o bryd yn Aberaeron wedi creu cyfleoedd i wella ansawdd mannau cyhoeddus yng nghanol y dref a’r gallu i gerdded yno. Byddai ail-neilltuo’r gofod yn fwy parhaol yn gwella mynediad a symudiad trwy’r dref, gan greu tramwyfa fwy llwyddiannus ar hyd Ffordd y Gaer Isaf, Stryd y Tabernacl a Heol Farchnad.
Gallai ymyriadau i wella croesfannau gynnwys cyrbau isel a phalmentydd unedig (yn unol â chanllawiau’r Llawlyfr Strydoedd).
Ar yr A487 Ffordd y Gogledd, mae cyfleoedd i leihau nifer y lleoedd parcio ar y stryd, gwella croesfannau cerddwyr a lledu palmentydd. Byddai hyn yn helpu i greu stryd siopa sy’n fwy ystyriol o gerddwyr ac yn mynd i’r afael â’r tor-gysylltiad a grëir gan seilwaith ffyrdd mawr.
Dylai gwyrddu trefol amlswyddogaethol fod yn elfen bwysig o ail-neilltuo’r gofod hwn. Gellid cyflwyno borderi “gardd law“ yn lle cyrbau a bolardiau, gan greu llwybrau deniadol, llawn natur trwy’r dref. Mae’n bwysig bod y nodweddion hyn yn mynd ymhellach na dim ond gwerth addurniadol er mwyn darparu buddion lluosog, yn bennaf trwy arafu llif y dŵr ffo mewn rhannau o ganol y dref sydd mewn perygl o lifogydd, a chreu coridor bywyd gwyllt trwy’r ardal drefol.
Dylid cyflwyno seddi o ansawdd uchel wedi’u hintegreiddio â phlanwyr a choed stryd ar hyd strydoedd prysuraf canol y dref. Mae lleoliadau â blaenoriaeth yn cynnwys yr ardal ger y busnesau ar Heol Farchnad, Ffordd y Gogledd a Sgwâr Alban.
Dylai’r prosiect ystyried dichonoldeb ail-neilltuo rhai mannau parcio fel ‘parciau bach’, gan eu rhyddhau i fusnesau eu defnyddio fel seddi, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Gellid defnyddio planwyr neu blannu strwythurol i amgáu mannau eistedd ar ochr y ffordd i ffwrdd o gerbydau.
Byddai creu llwybr mwy gwyrdd i gerddwyr ar hyd Ffordd y Gaer Isaf yn creu llwybr cerdded deniadol rhwng glannau Aberaeron, y caeau chwarae a chanol y dref.
Mae bwytai a chaffis Heol Farchnad Aberaeron eisoes wedi dechrau croesawu seddi awyr agored, sydd wedi rhoi hunaniaeth ‘ardal fwyd’ i’r rhan hon o’r dref. Byddai gwyrddu trefol ac ailgynllunio i wneud yr ardal hon yn haws i gerddwyr yn golygu y gallai mwy o fusnesau orlifo i’r stryd, gydag adlenni Ewropeaidd a bwyta ar ochr y stryd.
Gallai plannu gardd lysiau helpu i gefnogi’r hunaniaeth hon trwy ddefnyddio rhywogaethau perllan a choed ffrwythau, blychau ffenestr perlysiau, a phlanwyr gyda ffrwythau a saladau.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae Glasgow Avenues yn fenter allweddol a arweinir gan Gyngor Dinas Glasgow a Sustrans i ailfeddwl am brif strydoedd y ddinas, ac mae pobl yn ganolog i’r fenter. Trwy unioni’r cydbwysedd rhwng cerbydau, cerddwyr a beicwyr, daeth y ddinas o hyd i ffordd o wneud strydoedd o bob maint yn fwy “cyfeillgar i bobl”. Roedd yn bwysig gwahanu a rheoli traffig cerbydau a cherddwyr a gwneud dynodi llwybr trwy’r strydoedd yn glir. Yn ogystal defnyddiodd y prosiect wyrddni a phalmentydd i wneud strydoedd a’r gymdogaeth ehangach yn fwy deniadol, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy cystadleuol yn economaidd.
Roedd gwyrddu’r strydoedd yn ardal marchnad Altrincham mewn maestref ym Manceinion yn allweddol i adfywio neuadd farchnad y dref a’r ardal ehangach. Erbyn hyn mae Altrincham yn datblygu cynlluniau i ehangu plannu a gwneud gwelliannau i dir y cyhoedd trwy strydoedd canol y dref.
Mae ‘Safleoedd bws bwytadwy‘ wedi’u cyflwyno fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth Llundain. Gallai gwersi o’r cynllun hwn gael eu defnyddio i “wyrddu” toeon safleoedd bws a mannau eistedd mewn safleoedd bws ar yr A487 Ffordd y Gogledd. Byddai hyn yn actifadu mannau a danddefnyddir, gan roi pwrpas iddynt ac yn cefnogi bioamrywiaeth.
Delwedd astudiaeth achos: marchnad Altrincham
Prosiect 5: Rhwydwaith Systemau Draenio Cynaliadwy Aberaeron
Pwrpas: Gwella gallu Aberaeron i wrthsefyll llifogydd dŵr wyneb a chefnogi bioamrywiaeth yn ardaloedd â blaenoriaeth yn y dref.
Ffordd Y Gaer Lower
Partneriaid posibl: Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru / Welsh Water, busnesau lleol.
Disgrifiad: Perygl o lifogydd yw un o’r pryderon pennaf ymhlith trigolion Aberaeron, un o’r ardaloedd sydd â’r perygl mwyaf o lifogydd yn y Sir. Mae rhai rhannau o’r dref sydd â lefel llawer uwch o orchudd anhydraidd, lle mae glaw yn cael ei ddargyfeirio i garthffosydd storm sy’n cyfrannu at y perygl o lifogydd. Yr ardaloedd hyn yw ffocws y prosiect hwn.
Gellir mynd i’r afael â’r perygl o lifogydd mewn ardaloedd trefol trwy integreiddio systemau draenio cynaliadwy (SDCau), sy’n arafu llif y dŵr ac yn lleihau dŵr ffo wyneb. Gall y nodweddion SDCau hyn fod yn amlswyddogaethol. Gallant fynd i’r afael â pherygl bwyd a darparu cynefinoedd gwerthfawr, adnoddau peillwyr a gwella’r strydlun yr un pryd.
Dylid nodi’r lleoliad targed terfynol ar gyfer rhwydwaith o SDCau trwy ddefnyddio tystiolaeth wedi’i mapio o garthffosydd sy’n gorlifo a’r perygl o lifogydd dŵr wyneb. Gallai lleoliadau â blaenoriaeth allweddol dros dro ar gyfer nodweddion SDCau gynnwys:
- Penmorfa (safle swyddfa sy’n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion): Byddai creu cynefinoedd gwlyptir (neu blanwyr SDCau) yn helpu i amsugno glaw o’r to a’r maes parcio, gan ei ddargyfeirio o’r garthffos storm. Gallai hyn gael ei gyplysu â manteision bioamrywiaeth os caiff ei gyfuno â threfn dorri gwair hamddenol ar gyfer y glaswelltir lled-naturiol o’i amgylch.
- O gwmpas adeiladau mawr eraill sydd â meysydd parcio. Gallai’r rhain gynnwys cartref yr henoed, yr ysgol neu’r ganolfan gofal sylfaenol yn Aberaeron.
- Yr ardal ger Ffordd y Gaer a Stryd Tyglyn: Mae hon mewn perygl mawr o lifogydd dŵr wyneb. Efallai y bydd cyfle yma i gyflwyno coed stryd, “gerddi glaw“ a phyllau coed cysylltiedig ar gyfer draenio dŵr glaw. Lle mae ffyrdd yn rhy gul i alluogi hyn, efallai y bydd modd ad-drefnu draeniad strydoedd tuag at ardaloedd sydd â mwy o le (fel maes parcio Ffordd y Gaer Isaf neu’r caeau chwarae cyfagos) a chyflwyno pantiau neu nodweddion gwlyptir eraill. Gallai hyn ddarparu ymyl mwy bioamrywiol ar gyfer y caeau chwarae yn ogystal â theneuo glaw.
Ysbrydoliaeth o fannau eraill…
Mae’r prosiect Greener Grangetown yng Nghaerdydd yn enghraifft o gymdogaeth breswyl sydd wedi llwyddo i godi palmentydd a gosod gerddi glaw deniadol, gwyrddni ymyl y ffordd a phlannu coed. Arweiniwyd y prosiect gan bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru / Welsh Water a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Prosiect GlawLif Llanelli Dŵr Cymru / Welsh Water yn rhan o ddull Dŵr Cymru / Welsh Water o reoli dŵr wyneb a lleihau llifogydd o garthffosydd. Mae’n gwahanu dŵr glaw oddi wrth y system bresennol, gan arafu’r gyfradd y mae’n mynd i mewn i’r rhwydwaith a’i ailgyfeirio i afonydd a chyrsiau dŵr lleol. Mae’r bartneriaeth wedi cwblhau 36 o brosiectau yn ardal Llanelli ers lansio’r prosiect yn 2012.
Delwedd astudiaeth achos: Greener Grangetown (Susdrain)
Delwedd astudiaeth achos: GlawLif Llanelli