Menu

Crynodeb Gweithredol

Cyd-destun yr astudiaeth

Y mis Rhagfyr 2020, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) LUC i ddatblygu map daearyddol Llonyddwch a Lle – Awyr Dywyll cenedlaethol gyson newydd, sy’n nodi’r adnoddau strategol a lleol mewn ardaloedd anghysbell, gwledig, amdrefol a threfol ar gyfer ei ddefnyddio fel sylfaen dystiolaeth i lywio bwriad, gweithrediad a darpariaeth polisi ar gyfer manteision lles.

Beth yw amcan yr astudiaeth hon

Comisiynwyd yr astudiaeth i gydnabod pwysigrwydd awyr y nos heb lygredd golau, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Gall llygredd golau effeithio ar ein canfyddiad neu brofiad o natur, tirweddau a mannau gwyrdd a’r buddiannau diwylliannol y maent yn eu darparu inni.

Bydd gwaith yn y dyfodol yn ystyried i ba raddau y mae lleoedd, mannau gwyrdd ac ecosystemau yn darparu llonyddwch cymharol a chyfleoedd i brofi llonyddwch, tawelwch a lles gan gynnwys seinweddau cymharol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau y mae’r lleoedd a’r ecosystemau yn cynnig awyr gymharol dywyll. Yn y pen draw, bydd y trywyddau gwaith cyfunol yn cael eu defnyddio i adeiladu Map Llonyddwch Newydd i Gymru.

Er mwyn cyflawni hyn, roedd angen i’r astudiaeth greu’r canlynol;

×

Beth sy’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion y dull a ddefnyddiwyd i greu’r data, a chofnod o allbynnau’r astudiaeth.  Mae’n cynnwys dadansoddiad o’r canfyddiadau, a hynny wedi’i gyflwyno mewn ffordd weledol lle’r oedd yn bosibl, yn ogystal â chymariaethau yn erbyn cynlluniau golau stryd lleol a data Mesuryddion Ansawdd Awyr.

Trosolwg o’r canfyddiadau allweddol

O ddechrau hanes mae awyr y nos, patrymau’r sêr a siapiau’r cytserau, wedi bod yn bwysig dros ben i’n hynafiaid. Ond mae’n perthynas gyda’r sêr wedi newid; roedd ein hynafiaid yn gweld awyr y nos mewn ffordd na fyddai byth yn bosibl i’r rhan fwyaf ohonom ni ei gweld heddiw; dim ond llond llaw o’r sêr mwyaf llachar y gellir eu gweld mewn ardaloedd trefol oherwydd llygredd golau, a gellir gweld effeithiau’r llygredd hwn ym mhobman ac eithrio’r llefydd mwyaf anghysbell.

Dim ond mewn ychydig o fannau ledled y byd y mae’r awyr heb ei llygru â golau, yn arbennig mewn gwledydd gyda phoblogaethau trefol mawr, felly mae’n hanfodol bwysig gwarchod a diogelu’r ychydig leoedd hynny sy’n weddill.

Roedd canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn dangos:

  • Bod mwy na dwy ran o dair o Gymru yn ffitio i’r categori mwyaf tywyll fel y’i diffinnir o fewn y data.
  • Canolbarth Cymru yw’r ardal fwyaf tywyll, gyda mwy na 90% y tu mewn i’r categori tywyllaf.
  • Ar gyfartaledd, roedd 95% o’r tri Pharc Cenedlaethol a’r pum AHNE yng Nghymru o fewn y ddau gategori mwyaf tywyll.
  • Er ei bod yn bosibl fod sensitifrwydd synwyryddion lloerenni yn y tonfeddi LED wedi dylanwadu ar y data, mae’n ymddangos bod faint o olau a allyrrir mewn dinasoedd yn gostwng, ond bod yr ardaloedd o amgylch dinasoedd yn mynd yn fwy llachar.